8. Dadl: Setliad yr Heddlu 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:04, 14 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w gymeradwyo, manylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar gyfer 2023-24. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r heddlu am eu gwaith yn ein cymunedau. Er bod dadl hanfodol, barhaus am y lleiafrif o swyddogion heddlu nad ydynt wedi cyrraedd y safonau uchel y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl yn gwbl briodol, ac mae'n hanfodol i heddluoedd gymryd camau cyflym a phendant yn yr achosion hynny o hyd, gwn fod y rhan fwyaf o staff yr heddlu yn dangos llawer iawn o ymroddiad a phenderfyniad wrth iddynt gadw ein cymunedau'n ddiogel.

Mae'r arian craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth cyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi'u datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei benderfynu a'i sbarduno gan benderfyniadau'r Swyddfa Gartref. Rydyn ni wedi cynnal y dull sefydledig o osod a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Does dim newidiadau pellach i'r trefniadau cyllido ar gyfer 2023-24 yn dilyn y newidiadau technegol a gweinyddol a wnaed y llynedd. Deilliodd y newidiadau hynny o benderfyniadau'r Swyddfa Gartref heb fawr ddim goblygiadau ymarferol i gomisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru.

Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru at blismona ar gyfer 2023-24 yn aros yr un fath â'r llynedd, sef £113.5 miliwn. Mae hyn yn adlewyrchu'r newid a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a ddisodlodd drosglwyddiad cyllid blynyddol o'r Swyddfa Gartref i Lywodraeth Cymru gydag arian uniongyrchol gan y Swyddfa Gartref i'r heddlu. Fel yn achos eleni, does dim effaith ar lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer heddluoedd o ganlyniad.

Rwyf hefyd wedi cadw'r gyfran o gyfraddau annomestig y mae heddluoedd yn ei derbyn yn 0.1 y cant, gydag addasiad canlyniadol i'r grant cymorth refeniw i gydbwyso hyn. Mae hyn yn hwyluso'r cyfnod pontio tuag at gadw cyfraddau annomestig rhannol ar gyfer rhanbarthau bargen ddinesig a thwf, ac ni fydd yn arwain at golli cyllid ar gyfer unrhyw heddlu. Fel yr amlinellir yn fy nghyhoeddiad ar 31 Ionawr, mae cyfanswm y cymorth refeniw heb ei glustnodi ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2023-24 yn £434 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at hyn yw £113.5 miliwn, a'r cyllid hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion â mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2023-24, y bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd mewn cyllid o 0.3 y cant o'i gymharu â 2022-23 cyn yr addasiad a wnaed ar gyfer y trosglwyddiad cangen arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi grant ychwanegol gwerth £63.5 miliwn er mwyn sicrhau bod pob un o'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru yn cyrraedd lefel waelodol.

Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn.