Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

QNR – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb y Llywodraeth i'r cynnydd sylweddol presennol ym miliau aelwydydd?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £1.6 biliwn i helpu aelwydydd gyda'u costau byw drwy raglenni sy'n helpu i gadw arian ym mhocedi pobl, gan gynnwys ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, y grant datblygu disgyblion—mynediad a’r cynnig gofal plant, yn ogystal â'n taliad costau byw, ein cynllun cymorth tanwydd a'n hymgyrchoedd i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau.