Treth Incwm

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:30, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Credaf mai'r pwynt allweddol a wnaed gan y Gweinidog yno yw fy mod, ar y pryd, yn credu bod treth incwm yn rhywbeth y dylid ei ailystyried yn y dyfodol, ond mae'n llygad ei lle i ddweud nad nawr yw'r adeg i wneud hynny. Yr wythnos diwethaf, gwelsom welliant i gyllideb Llywodraeth Cymru gan Blaid Cymru a fyddai wedi costio £2.47 yr wythnos yn ychwanegol i bobl ar y gyfradd sylfaenol, yn ystod argyfwng costau byw. Yn bersonol, fy marn i yw na ddylai’r cytundeb cydweithio fod wedi caniatáu i’r gwelliant hwnnw gael ei gynnig, o ystyried ei fod yn berthnasol i'r gyllideb, ac roedd yn siomedig gweld hynny’n digwydd y tu allan i’r cytundeb cydweithio. Dylem weld Plaid Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am y grym sydd ganddynt yn Siambr y Senedd. A fyddai’r Gweinidog, serch hynny, yn fodlon adolygu’r sefyllfa hon yn y dyfodol, os yw'r amgylchiadau economaidd yn caniatáu ar ryw adeg?