1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2023.
1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith posib o gynyddu'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm yng Nghymru? OQ59146
Byddai codi’r gyfradd sylfaenol yn golygu costau ychwanegol i'r rheini sy’n llai abl i’w fforddio ar adeg pan fo Llywodraeth y DU wedi rhewi trothwyon treth incwm, gan lusgo pobl sy’n ennill llai i mewn i'r system treth incwm.
Credaf mai'r pwynt allweddol a wnaed gan y Gweinidog yno yw fy mod, ar y pryd, yn credu bod treth incwm yn rhywbeth y dylid ei ailystyried yn y dyfodol, ond mae'n llygad ei lle i ddweud nad nawr yw'r adeg i wneud hynny. Yr wythnos diwethaf, gwelsom welliant i gyllideb Llywodraeth Cymru gan Blaid Cymru a fyddai wedi costio £2.47 yr wythnos yn ychwanegol i bobl ar y gyfradd sylfaenol, yn ystod argyfwng costau byw. Yn bersonol, fy marn i yw na ddylai’r cytundeb cydweithio fod wedi caniatáu i’r gwelliant hwnnw gael ei gynnig, o ystyried ei fod yn berthnasol i'r gyllideb, ac roedd yn siomedig gweld hynny’n digwydd y tu allan i’r cytundeb cydweithio. Dylem weld Plaid Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am y grym sydd ganddynt yn Siambr y Senedd. A fyddai’r Gweinidog, serch hynny, yn fodlon adolygu’r sefyllfa hon yn y dyfodol, os yw'r amgylchiadau economaidd yn caniatáu ar ryw adeg?
Rwy’n ddiolchgar iawn i Hefin David am ei gwestiwn, ac am godi cyfraddau treth incwm Cymru y prynhawn yma. Ac rwy’n cytuno’n llwyr â’i asesiad nad nawr yw'r adeg gywir, mewn argyfwng costau byw, i ofyn i’r rheini ar yr incwm isaf un, ac yn wir, y rheini sydd wedi cael eu tynnu i mewn i’r system dreth incwm am y tro cyntaf erioed, fod yn talu mwy. A chredaf ei bod yn dra hysbys, er mwyn codi unrhyw swm sylweddol o arian i gynyddu'r adnoddau sydd gennym, y byddai’n ofynnol inni godi'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm. Credaf fod yn rhaid gwneud hynny mewn ffordd ystyriol a strategol. Wedi dweud hynny, bob blwyddyn, rydym yn asesu ein hopsiynau, o ran sut rydym yn defnyddio cyfraddau treth incwm Cymru, a byddem yn disgwyl edrych eto o’r newydd ar y mater hwn y flwyddyn nesaf, o ran baich treth cyffredinol a chyfraniad pobl, yn dibynnu ar y sefyllfa gyda Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, sefyllfa economaidd ehangach pobl. Ond yn sicr, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o'r newydd ar gyfer pob cyllideb.
Fel y clywsom gan Hefin David, un o beryglon cynyddu treth incwm mewn cyfnod o drafferthion ariannol yw’r ffaith y byddai’n rhywbeth a fyddai wedi’i adeiladu ar draul pobl sy’n gweithio ledled Cymru. Ac mae'n gwbl briodol, yn fy marn i, ar y diwrnod yr ymddiswyddodd Nicola Sturgeon fel arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, i gofio o ble yn union y cafodd Plaid Cymru y syniad hwn, gan eu bod yn etifeddu llawer o'u syniadau gan blaid o ran arall o’r Deyrnas Unedig—yr SNP. Oherwydd yn yr Alban, maent yn cynnig ychwanegu 1g at y cyfraddau treth uwch ac uchaf, ochr yn ochr â lleihau'r trothwy ar gyfer y gyfradd uchaf, o £150,000 i ychydig dros £125,000. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi rhybuddio y bydd hynny’n arwain at ecsodus o enillwyr uchel dros y ffin. Mae arweinwyr busnes yr Alban wedi dweud y byddai’n anfantais i’r Alban ac wedi dweud yn glir y byddai’n gwneud cystadlu â’r DU am dalent yn llawer anos. Ar ben y codiadau hynny, nid yw Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban wedi diystyru cynnydd o 10 y cant mewn trethi cyngor yno. Mewn arolwg, roedd hanner yr Albanwyr am i system bresennol y dreth gyngor ddod i ben. Dangosodd arolwg arall fod un o bob pum cartref yn yr Alban ar hyn o bryd yn byw mewn trafferthion ariannol difrifol, sy’n cyfateb i 1.2 miliwn o bobl; yn y DU gyfan, mae'n 17 y cant. Dyna weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru, Weinidog, ac mae’n weledigaeth sydd wedi’i hadeiladu ar drethu pobl sy’n gweithio. A ydych yn cytuno â mi fod honno'n flaenoriaeth gwbl anghywir, ar yr adeg anghywir, gan blaid sydd fwyfwy allan o gysylltiad â phobl Cymru?
Wel, byddwn yn atgoffa’r Aelod, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, fod y baich treth ar bobl yng Nghymru, a ledled y DU, bellach ar ei uchaf ers 70 mlynedd, o ganlyniad i’r penderfyniadau y mae’r Llywodraeth honno wedi’u gwneud. Ond credaf mai mater i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban yw cyfraddau treth incwm yr Alban, ond nid yw hynny’n golygu na allwn ddysgu o’u profiadau, a dyna pam fod gennym gryn ddiddordeb yn y gwaith y mae CThEF yn ei wneud ar ddatblygu set ddata hydredol. Nawr, gobeithiaf y bydd hynny’n caniatáu inni gael dadansoddiad manylach o effeithiau ymddygiadol newidiadau i drethi, gan gynnwys ymatebion ynghylch mudo, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â CThEF i ddeall yn well y posibiliadau y gallai’r gwaith hwnnw eu rhyddhau.