Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Chwefror 2023.
Wel, byddwn yn atgoffa’r Aelod, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, fod y baich treth ar bobl yng Nghymru, a ledled y DU, bellach ar ei uchaf ers 70 mlynedd, o ganlyniad i’r penderfyniadau y mae’r Llywodraeth honno wedi’u gwneud. Ond credaf mai mater i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban yw cyfraddau treth incwm yr Alban, ond nid yw hynny’n golygu na allwn ddysgu o’u profiadau, a dyna pam fod gennym gryn ddiddordeb yn y gwaith y mae CThEF yn ei wneud ar ddatblygu set ddata hydredol. Nawr, gobeithiaf y bydd hynny’n caniatáu inni gael dadansoddiad manylach o effeithiau ymddygiadol newidiadau i drethi, gan gynnwys ymatebion ynghylch mudo, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â CThEF i ddeall yn well y posibiliadau y gallai’r gwaith hwnnw eu rhyddhau.