Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 15 Chwefror 2023.
Wel, rwy’n rhannu eich gobaith y bydd aelodau’r undebau nawr yn derbyn y cynnig gwell a wnaed, sydd, i fod yn glir, yn uwch na'r cynnig a wnaed yn flaenorol pan wnaethom dderbyn argymhellion y cyrff adolygu cyflog annibynnol. Ein cynnig, wrth gwrs, yw 3 y cant ychwanegol yn y flwyddyn hon, a bydd 1.5 y cant o hynny’n cael ei gyfuno i mewn i'r flwyddyn nesaf. Felly, o ran ble rydym wedi gallu dod o hyd i'r arian, cyfeiriaf fy nghyd-Aelodau at yr ail gyllideb atodol, a gyhoeddwyd gennym ddoe. Ac mae honno'n nodi ein bod wedi dyrannu £130 miliwn i'r prif grŵp gwariant iechyd a £35 miliwn i'r prif grŵp gwariant addysg er mwyn talu am hynny, pe bai'n cael ei dderbyn o fewn y flwyddyn ariannol hon.
Fe welwch hefyd o'r gyllideb atodol ein bod bellach wedi tynnu popeth a allwn yn y flwyddyn ariannol hon i lawr o gronfa wrth gefn Cymru, sef £125 miliwn o refeniw. Nid yw honno’n sefyllfa gyfforddus i fod ynddi o gwbl—yn sicr, nid yw’n rhywbeth roeddwn i wedi bwriadu ei wneud ar ddechrau’r flwyddyn. Fe gofiwch, pan wnaethom osod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ein bod wedi bwriadu tynnu llai na £40 miliwn i lawr, ac roedd hynny i gydnabod y ddwy flynedd anodd sy’n ein hwynebu, sy’n ein dilyn o ran y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd. Felly, credaf ei bod yn sefyllfa anodd iawn nawr, o ran y gyllideb, ond yn sicr, dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Felly, i dawelu eich meddwl, pan fydd cyd-Aelodau'n pleidleisio ar y gyllideb atodol, byddant yn cael sicrwydd bryd hynny i Lywodraeth Cymru wario'r arian sydd wedi'i ddyrannu. A hefyd, efallai y bydd tanwariant, y byddwn, yn amlwg, yn ei hybu nawr mewn gwahanol adrannau rhwng nawr a'r flwyddyn ariannol fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu talu am y dyfarniad cyfan hwnnw.