Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy’n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn falch fod trafodaethau gyda’n hathrawon ac undebau ein GIG ynghylch cynigion cyflog diwygiedig yn edrych yn addawol ac wedi atal streiciau pellach gan athrawon ac unrhyw staff GIG am y tro. Gadewch inni obeithio y bydd y cynigion yn cael eu derbyn. Ond ers wythnosau, Weinidog, roedd Llywodraeth Cymru wedi honni nad oes arian ar gael, sy’n golygu y byddai unrhyw godiad cyflog arfaethedig wedi bod yn amhosibl. Felly, o ystyried y tro pedol a wnaed gan y Llywodraeth, Weinidog, a allwch rannu’r cyfanswm y bydd y cynigion cyflog uwch hyn yn ei gostio, ac o ble y daw'r arian ychwanegol? Ac a wnewch chi nodi pa feysydd gwasanaeth a fydd yn ysgwyddo'r costau a pha bethau sy'n debygol o gael eu gohirio o ganlyniad?