Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:52, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, Weinidog, rwy’n siŵr y gallwch gofio Plaid Cymru yn dadlau ein hachos dros ddatganoli pwerau trethu ymhellach, gan roi’r gallu, yn yr achos hwnnw, i Gymru osod ein bandiau treth incwm ein hunain yn unol â’r pwerau sydd eisoes yn cael eu harfer yn yr Alban, wrth gwrs. Yn anffodus, fe wnaethoch chi a’ch cyd-Aelodau bleidleisio yn erbyn ein cynnig, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol fod y bandiau treth incwm presennol, sy'n cael eu gosod, gadewch inni gofio, gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cymru, er gwaethaf y ffaith eu bod yn anaddas iawn ar gyfer sylfaen drethu Cymru. Nawr, yn ôl adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig, pe baech yn dylunio system effeithlon o drethi incwm i Gymru, ni fyddai’r bandiau’n edrych fel y maent yn edrych nawr.

Fodd bynnag, yr hyn sydd hefyd yn amlwg, wrth gwrs, yw bod agenda bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer datganoli pwerau trethu ymhellach, sy’n cynnwys uchelgais i sefydlu treth ar dir gwag, yn cael ei thanseilio gan ddiffyg ymgysylltu a chydweithredu cyson gan Lywodraeth y DU. Rydych wedi disgrifio’r broses y cytunwyd arni ar gyfer datganoli cymhwysedd trethu i Gymru fel un ‘nad yw'n addas i'r diben’, felly a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau diweddar a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch adolygu a diwygio’r broses o ddatganoli pwerau trethu newydd? A pha argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud i Lywodraeth y DU yn hyn o beth?