Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 15 Chwefror 2023.
Felly, cefais fy synnu gan ymateb arweinydd Plaid Cymru i fy ymateb i’w ddadl yr wythnos diwethaf, gan fy mod yn credu imi fod yn deg ac yn bwyllog iawn wrth nodi ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru ddeall goblygiadau priodol unrhyw bolisi penodol cyn inni ymrwymo iddo. A dywedais y bydd y comisiwn cyfansoddiadol yn gwneud gwaith pwysig sy'n edrych ar y rôl y gallai trethi ei chwarae yng Nghymru yn y dyfodol. Nodais hefyd fod rhai effeithiau negyddol sylweddol y byddai’n rhaid i ni eu hystyried hefyd, o bosibl. Y sefyllfa yn yr Alban yw bod y system dreth sydd ganddynt a’r dewisiadau y maent wedi’u gwneud yn golygu y bydd effaith negyddol net o £100 miliwn ar gyllideb yr Alban, er gwaethaf y ffaith bod trethdalwyr yr Alban yn talu £85 miliwn yn fwy o drethi. Felly, credaf fod yr holl bethau hynny’n bwysig i ni eu hystyried.
Ond drwy wrthod y cynigion yr wythnos diwethaf, credaf mai’r hyn roeddwn yn ei wneud oedd nodi na allwn wneud dewis polisi penodol cyn ein bod yn deall y goblygiadau’n iawn. Ac mewn ymateb i un o'r cwestiynau blaenorol y prynhawn yma, dywedais ein bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyllid a Thollau EF i ddeall y data hydredol hwnnw'n well, sy'n dod i'r amlwg nawr mewn perthynas â'r Alban, i ddeall effeithiau ymddygiadol gwahanol ddewisiadau mewn perthynas â chyfraddau treth incwm. Yr hyn roeddwn yn ceisio’i nodi yr wythnos diwethaf oedd ein bod am arfer ymagwedd ystyriol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sef y peth iawn i’w wneud yn fy marn i.
O ran datganoli pwerau trethu pellach, cytunaf â’r hyn a ddywedais eisoes a’r hyn rydych wedi’i ddyfynnu heddiw, sef nad yw’r system sydd gennym yn addas i'r diben. Ond rwy’n ceisio cyfarfod ag Ysgrifennydd Ariannol newydd y Trysorlys i drafod y mater ymhellach, a gobeithiaf gael y cyfarfod hwnnw cyn bo hir, ac rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw.