Parciau Cenedlaethol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 1:59, 15 Chwefror 2023

Diolch am yr ateb yna. Roedd hi'n eironig iawn darllen datganiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gymru wledig ac yntau yn sôn am y gwasanaeth Sherpa i'r Wyddfa fel enghraifft dda o'r math o system y dylid ei ledaenu ar draws Cymru. Yr eironi ydy, wrth gwrs, fel y saif pethau, gall y gwasanaeth yma fod o dan fygythiad oherwydd methiant y Llywodraeth i ariannu Parc Cenedlaethol Eryri yn iawn. Yn wir, mae’n debyg y bydd pob parc cenedlaethol yn gorfod edrych i dorri yn ôl ar wasanaethau, ac felly, ni chaiff llwybrau cerdded eu cynnal a'u cadw, bydd toiledau cyhoeddus yn cau, a llawer iawn mwy. Roedd y gyllideb ddrafft wreiddiol yn sôn am roi £0.5 miliwn yn ychwanegol i barciau cenedlaethol Cymru, ond mae'r arian yma wedi diflannu ac mae'r setliad fflat yn golygu bod y gyllideb heb godi dim mewn termau go iawn ers tua 10 mlynedd. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i o leiaf ailgyflwyno'r £0.5 miliwn yna i'r parciau cenedlaethol er mwyn iddyn nhw fedru cyflawni eu dyletswyddau yn llawn?