1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2023.
3. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith cyllideb ddrafft y Llywodraeth ar ddyfodol parciau cenedlaethol? OQ59135
Fel rhan o adolygiad gwariant 2022-25, dyrannwyd £9 miliwn o refeniw ychwanegol ac yn agos at £90 miliwn o gyfalaf i wella mannau gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer parc cenedlaethol newydd. Mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd wrth gwrs yw penderfyniadau gwariant mewn perthynas â pharciau cenedlaethol.
Diolch am yr ateb yna. Roedd hi'n eironig iawn darllen datganiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gymru wledig ac yntau yn sôn am y gwasanaeth Sherpa i'r Wyddfa fel enghraifft dda o'r math o system y dylid ei ledaenu ar draws Cymru. Yr eironi ydy, wrth gwrs, fel y saif pethau, gall y gwasanaeth yma fod o dan fygythiad oherwydd methiant y Llywodraeth i ariannu Parc Cenedlaethol Eryri yn iawn. Yn wir, mae’n debyg y bydd pob parc cenedlaethol yn gorfod edrych i dorri yn ôl ar wasanaethau, ac felly, ni chaiff llwybrau cerdded eu cynnal a'u cadw, bydd toiledau cyhoeddus yn cau, a llawer iawn mwy. Roedd y gyllideb ddrafft wreiddiol yn sôn am roi £0.5 miliwn yn ychwanegol i barciau cenedlaethol Cymru, ond mae'r arian yma wedi diflannu ac mae'r setliad fflat yn golygu bod y gyllideb heb godi dim mewn termau go iawn ers tua 10 mlynedd. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i o leiaf ailgyflwyno'r £0.5 miliwn yna i'r parciau cenedlaethol er mwyn iddyn nhw fedru cyflawni eu dyletswyddau yn llawn?
Wel, roedd cynnydd o 10 y cant i grantiau craidd awdurdodau'r parciau cenedlaethol, gan fynd ag ef i ychydig dros £10 miliwn yn 2021-22, ac mae hynny wedi'i gynnal yn 2022-23. A nod hynny oedd darparu mwy o wytnwch yn dilyn y pandemig a chynyddu effaith eu gweithgareddau'n ymwneud â bioamrywiaeth, datgarboneiddio a thwristiaeth gynaliadwy. Nawr, rwy'n deall y pwysau sydd ar barciau cenedlaethol, ac unwaith eto mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd â hyn yn ei bortffolio wedi cyfarfod â'r prif weithredwyr i drafod y pryderon hyn, ac mae swyddogion yn parhau i gysylltu â'r parciau cenedlaethol. Fel y dywedwch, mae'r parciau'n cynnal eu hymarferion ar hyn o bryd i ddatblygu cynlluniau arbed arian, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn edrych ar y rheini'n agos iawn er mwyn gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.
Mae parc cenedlaethol Eryri yn mynd y tu hwnt i'r galw i gyflawni ei ddibenion statudol, a hoffwn gofnodi fy niolch am y ffordd y maent yn rheoli'r holl swyddogaethau sydd ganddynt, eu swyddogaethau statudol, gyda'r adnoddau sydd ganddynt. Fodd bynnag, mae'n peri pryder fod effaith chwyddiant ar gyllideb sylfaenol yr awdurdod tan ddiwedd 2024-25 oddeutu £1.1 miliwn, sy'n golygu toriad o 20 y cant yn y grantiau. Nawr, fe wyddom fod chwyddiant yn cynyddu i'r entrychion a bod eu costau'n codi, ond eto rydych chi eisiau darparu cyllideb sylfaenol o ychydig dros £5.4 miliwn. Nawr, mae hyn er gwaethaf y ffaith nad oes gan awdurdodau'r parciau fecanwaith cyllidol i gynyddu cyllid refeniw fel sydd gan gyrff cyhoeddus eraill. Mae parc cenedlaethol Eryri yn codi £2.8 miliwn ychwanegol bob blwyddyn er mwyn gallu cyflawni ei waith. Nawr, mae'r parc cenedlaethol yn gwneud popeth posibl i godi unrhyw arian y gall, ond mae ei waith yn cael ei danseilio'n llwyr gan doriadau parhaus mewn termau real gan Lywodraeth Cymru. Nawr, gan gofio y gallai parc cenedlaethol Eryri wynebu colli swyddi a gwasanaethau—ac fe wyddom fod y parc hwn yn chwarae rhan allweddol yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur—a wnewch chi brofi eich bod wedi ymrwymo i ddyfodol y parc cenedlaethol drwy gynyddu'r grant? Nid dyma'r tro cyntaf i mi godi'r pryderon hyn, ond ni allwch barhau i ofyn i'r sefydliadau hyn wneud mwy gyda llai o adnoddau. Diolch.
Wel, mae'n rhwystredig cael y cwestiynau hyn oddi ar y meinciau Ceidwadol pan nad yw ein cyllideb ein hunain wedi cael ei chodi yn unol â chwyddiant ond eto gofynnir i ni godi cyllidebau sefydliadau eraill yn unol â chwyddiant, sy'n amhosibl i ni ei wneud i bawb. Dim ond £1.2 biliwn o gyllid ychwanegol a oedd gennym dros y ddwy flynedd ariannol nesaf; nid yw hynny hyd yn oed yn dechrau lleddfu effaith chwyddiant ar ein cyllideb. Felly, yn anffodus, nid ydym wedi gallu darparu'r math o gynnydd y byddem eisiau ei roi i sefydliadau eraill o dan amgylchiadau arferol. Ac mae hynny'n wir yn gyffredinol am y pethau mae Llywodraeth Cymru'n eu cefnogi. Felly, yn anffodus, mae'r cyllidebau sydd gennym yn cyfyngu arnom. Er hynny, o ran cynnal cyllideb sylfaenol, mae'n golygu, pan welwch chi hynny, fod y cyllidebau hynny wedi cael eu diogelu rhag y toriadau y bu'n rhaid inni eu gweithredu i ailflaenoriaethu cyllid o bob rhan o'r Llywodraeth tuag at lywodraeth leol a'r GIG fel rhan o'n proses gyllidebol.