Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 15 Chwefror 2023.
Wel, diolch, unwaith eto, Weinidog. Cymeraf o hynny nad ydych yn difaru’r buddsoddiad dros y 10 mlynedd, er ei fod yn swm enfawr o arian, a gwn y byddai llawer o Aelodau yma wedi hoffi gweld yr arian hwnnw’n cael ei wario mewn llawer o feysydd eraill, megis iechyd ac addysg, ac efallai wedyn na fyddem yn y sefyllfa wael rydym ynddi, ond dyna ble rydym. Yn anffodus, Weinidog, mae enghreifftiau o gyfleoedd a gollwyd o dan y Llywodraeth yn codi o hyd.
A nawr, rwy'n troi fy sylw, yn olaf, at Fferm Gilestone, lle mae Archwilio Cymru wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch penderfyniad eich Llywodraeth i wario £4.25 miliwn o arian trethdalwyr ar brynu'r fferm honno. Ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, mynegodd Aelodau eich meinciau cefn eich hun bryderon difrifol ynghylch y pryniant. A ydych yn cytuno â hwy, wrth edrych yn ôl unwaith eto, fod y penderfyniad i brynu’r fferm yn enghraifft arall o grebwyll gwael eich Llywodraeth a chamgymeriad ariannol?