Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 15 Chwefror 2023.
Yr wythnos diwethaf, gofynnais i'r Gweinidog addysg am yr agenda sgiliau, a sut mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau o'i ben ef. Y pwynt allweddol a godais yn fy nghwestiwn yw ein bod yn ei chael hi'n anodd cadw dysgwyr ifanc, yn enwedig o aelwydydd incwm isel. Yng Nghymru, ceir diffyg data hefyd ynghylch cyrchfannau dysgwyr mewn addysg bellach a phrentisiaethau—data a allai, ochr yn ochr â chefnogaeth ariannol well, ein helpu i gydnabod a lleihau nifer y bobl sy'n gadael addysg bellach a phrentisiaethau.
A yw'r Gweinidog yn cytuno mai un hanner o hyn yw creu cyfle ond yr hanner arall yw cadw dysgwyr? Ac a oes mwy y gallai'r Llywodraeth ei wneud yn hyn o beth mewn perthynas â chasglu'r data a thargedu'r gefnogaeth ariannol?