Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 15 Chwefror 2023.
Ie, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwy'n credu, efallai, y byddai'n well ei gyfeirio at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y maes hwn, ond fe wnaf fy ngorau a chyfeirio'r Aelod tuag at y gwaith pwysig rydym wedi bod yn ei wneud drwy'r warant i bobl ifanc, a byddwch wedi gweld o'r cyhoeddiad diweddar ei fod wedi helpu miloedd o bobl ifanc i mewn i waith neu hyfforddiant neu addysg bellach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n llwyddiannus iawn yn fy marn i. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r pedair partneriaeth sgiliau ranbarthol i wneud yn siŵr fod gan bobl ifanc y mathau o sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau lleol.