Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 15 Chwefror 2023.
Mae hi’n destun pryder mawr nad oes gan fwrdd iechyd Betsi unrhyw gyllideb ar gyfer gwasanaethau amenedigol ysgafn neu gymedrol, er bod £3 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer hyn yn flynyddol ar draws Cymru. Mae hyn yn fwlch sylweddol, ac yn frawychus yn wir, a dwi yn gofyn i’r Dirprwy Weinidog ymchwilio i hyn ac unioni’r sefyllfa ar unwaith. Mae’r bwlch yma yn golygu bod menywod yn dirywio yn sydyn gan ddatblygu yn achosion difrifol, sydd efo goblygiadau sylweddol iddyn nhw a'u teuluoedd, ond hefyd efo goblygiadau ariannol.
Mae’r sefyllfa yma yn bodoli er gwaethaf yr ymrwymiad bod gwella gofal iechyd meddwl amenedigol yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru ers y tymor seneddol diwethaf yn sgil adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fe wnaed ymrwymiad y byddai gan bob bwrdd iechyd wasanaeth cymunedol hygyrch ac ymrwymiad i wella mynediad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Mae gwendidau yn y ddarpariaeth gymunedol ar draws Cymru, sy'n effeithio yn andwyol ar ormod o ferched a gormod o deuluoedd. Ond, mae’r gwendidau yn amlwg o boenus yn y gogledd, ac mae'n rhaid inni symud yn gyflym i unioni hyn.
Dwi hefyd yn ymwybodol o ddiffyg gofod ar gyfer apwyntiadau cymunedol a bod llawer o’r rhain yn digwydd mewn lleoliadau anaddas. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd i fwrdd iechyd Betsi gyrraedd y safonau priodol heb sôn am fod yn ddiflas iawn i staff a’r merched dan sylw.
Dwi’n troi rŵan at y gwasanaethau ar gyfer yr achosion sydd yn codi o broblemau mwy difrifol. Bydd pump o bob 100 o ferched beichiog yn datblygu problem iechyd meddwl difrifol. Bydd rhwng dwy a phedair o bob 1,000 o ferched sy’n cael plentyn angen gofal mewn ysbyty. Uned mamau a babanod ydy’r lle priodol ar gyfer derbyn y gofal hyn, ond mae yna ormod o lawer o famau yn gorfod cael eu trin ar wardiau seiciatryddol cyffredinol. Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n cael eu gwahanu oddi wrth eu babanod, a fydd ond yn ychwanegu at y broblem, siŵr iawn.
Rydyn ni'n gwybod bod uned wedi cael ei hagor yn y de, ac mae hynny yn wych o beth. Mae’n bryd cael data am yr uned honno ac hoffwn i ofyn i’r Dirprwy Weinidog gyhoeddi unrhyw adroddiad yn sgil adolygiad o’r uned ers iddi agor ym mis Ebrill 2021. Fe wnaeth y Llywodraeth ymrwymo i gynnal adolygiad yn Ebrill 2022, ond, hyd yma, dydw i ddim wedi gallu cael mynediad at ddata cyhoeddus. Felly, dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar i weld yr adroddiadau a’r data a hefyd y deilliannau a’r gwersi i’w dysgu wrth i ni drafod uned ar gyfer y gogledd.
Roedd adroddiad y pwyllgor plant a phobl Ifanc wedi nodi na fyddai MBU yn y de o angenrheidrwydd yn addas ar gyfer mamau a’u teuluoedd yn y canolbarth a’r gogledd. Nodwyd bod angen trafod opsiynau efo NHS England gyda’r nod o greu canolfan yn y gogledd-ddwyrain, gogledd-ddwyrain Cymru, fyddai’n gallu gwasanaethu mamau a’u plant ar ddwy ochr y ffin. Y ddadl rydyn ni'n ei chlywed ydy nad oes yna ddim digon o achosion yn y gogledd a’r canolbarth i gyfiawnhau uned ar wahân ar gyfer yr ardal ond y gellid llenwi gwelyau mewn uned drwy drefniant â byrddau iechyd cyfagos sydd yn rhan o NHS England. Yn anffodus, y penderfyniad oedd bwrw ymlaen gydag uned wyth gwely yn Lloegr gyda mynediad i deuluoedd o’r gogledd yn lle mynd o’i chwmpas hi'r ffordd arall ac yn y ffordd a argymhellwyd yn adroddiad y pwyllgor, sef uned yng Nghymru fyddai yn hygyrch ar gyfer pobl yn cael eu gwasanaeth drwy NHS Lloegr.
Dwi’n deall, erbyn hyn, mai’r bwriad ydy adeiladu uned yn Swydd Gaer a’i bod, yn ôl yr hyn dwi'n ei ddeall, i fod i agor erbyn y gwanwyn flwyddyn nesaf. Ond, rhaid i mi ddweud, mae’n anodd iawn dod o hyd i unrhyw fanylion pellach na hynny. Y sôn ydy y bydd yr uned yma yn cynnwys dau wely ar gyfer merched o’r gogledd, ac y gallai bwrdd iechyd Betsi brynu llefydd ychwanegol wrth i alw gynyddu. Yn fy marn i, dyma’r model anghywir ar gyfer diwallu anghenion merched yn fy etholaeth i a thu hwnt yn y gogledd. Y model anghywir, pan oedd yna ddewis amgen o fodel fyddai wedi gallu diwallu yr anghenion yn yr un ffordd yn union.
Oni bai am bellteroedd teithio hollol afrealistig i lawer o famau, mae problem sylfaenol ac allweddol yn codi o ran diwallu anghenion iaith Gymraeg llawer o deuluoedd. Fedraf i ond dychmygu pa mor erchyll fyddai gorfod bod ymhell o gartref mewn cyfnod mor fregus. Os mai’r Gymraeg ydy'ch mamiaith chi a’r cyfrwng cwbl naturiol ar gyfer cyfathrebu efo’ch baban newydd, meddyliwch pa mor estron fyddai hynny yn Swydd Gaer, pan fydd y gweithlu yn uniaith Saesneg. Petai’r uned wedi ei lleoli yn y gogledd ac yn darparu gwelyau ar gyfer merched o Loegr, fyddai yna ddim problem iaith, wrth gwrs, achos mae siaradwyr Cymraeg yn siarad Saesneg hefyd. Felly, mae angen rhoi sylw brys i’r elfen ieithyddol yn y model newydd, os mai hwn fydd yn symud yn ei flaen, neu mae arnaf i ofn bod strategaeth 'Mwy na geiriau' y Llywodraeth yn un wag a diystyr. Os nad ydy hi’n rhy hwyr, mi fuaswn i yn gofyn i’r Dirprwy Weinidog adolygu’r penderfyniad ffôl i greu uned ar gyfer merched y gogledd yn Lloegr.
Dwi wedi cymryd y cyfle yn y ddadl yma i nodi’r gwendidau sylfaenol yn y ddarpariaeth amenedigol yn y gogledd, y diffygion yn y gwasanaethau cymunedol, a’r model cwbl annigonol ac amhriodol sydd ar y gweill o ran gwasanaethau ar gyfer achosion difrifol. Dwi yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cymryd yr hyn dwi'n ei ddweud heddiw o ddifrif ac yn gweld fy mod i'n ceisio gwella'r sefyllfa. Fy ngobaith i ydy, drwy ddod â'r ddadl yma ymlaen a rhoi hyn i gyd o dan y chwyddwydr yma yn y Senedd, y bydd y Dirprwy Weinidog yn gofyn i’w swyddogion hi am adroddiad brys ar y sefyllfa yn y gogledd, efo argymhellion pendant er mwyn gwella’r sefyllfa ar gyfer mamau, babanod a theuluoedd ar draws y gogledd. Diolch.