Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch yn fawr iawn. Gallaf sicrhau'r Aelod fod gwersi wedi'u dysgu, yn amlwg. Mae'n rhaid dysgu gwersi bob amser pan fo gennych chi'r adroddiadau a wnaethom. Fe fyddwch yn cytuno bod cryn dipyn o fonitro'n digwydd ar ein rhaglen datblygu gwledig, ac roedd galwadau ar y pryd i mi gael adolygiad annibynnol, er enghraifft, ond nid oeddwn yn credu bod hynny'n angenrheidiol. Yr hyn rwy'n credu sy'n bwysig iawn yw ein bod yn defnyddio'r holl gyllid rhaglen datblygu gwledig y gallwn ei ddefnyddio. Rwy'n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei gwario cyn y daw'r cynllun datblygu gwledig i ben.
Soniais mewn ateb cynharach am yr arian sylweddol rydym wedi'i roi tuag at y cynlluniau buddsoddi gwledig, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn nad ydym yn cael gwared ar y babi gyda dŵr y bath. Er nad oes gennym gyllid i allu cael yr un pethau ag a oedd gennym o'r blaen, mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw'r buddion a enillwyd gennym dros flynyddoedd y rhaglen datblygu gwledig wrth inni symud ymlaen.