Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, ffermio yw'r sylfaen y mae cadwyn gyflenwi bwyd a diod Cymru, sy'n werth £6 biliwn, wedi'i hadeiladu arni. Ffermwyr yw gwarcheidwaid ein hamgylchedd ac mae'r sector yn cyflogi 17 y cant o weithlu Cymru. Mae ystadegau diweddar gan Cymwysterau Cymru yn dangos bod gostyngiad o 14 y cant wedi bod yn y tystysgrifau cymwysterau galwedigaethol a ddyfernir yn y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofal anifeiliaid o gymharu â 2021. Ar ben hynny, Cymru sydd â'r gostyngiad mwyaf o ran canran yng nghyfanswm y gweithlu amaethyddol o 2015 i 2021, sef 13.6 y cant, o'i gymharu â 2.4 y cant yn Lloegr a 3.1 y cant yn yr Alban. Weinidog, sut rydych chi'n gweithio gyda gweddill eich Llywodraeth i wrthdroi'r duedd bryderus hon a sicrhau ein bod yn cefnogi ffermio Cymru am genedlaethau i ddod?