Denu Pobl Ifanc i'r Byd Ffermio

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:43, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb arbennig mewn newydd-ddyfodiaid, gan weithio gyda phobl i weld beth sy'n eu rhwystro rhag mentro i'r byd amaeth. Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf yn credu bod addysg a sgiliau wedi bod yn un o'r rhwystrau a gafodd eu dwyn i fy sylw erioed. Rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar—. Soniais am Mentro yn fy ateb gwreiddiol i chi, a bu'n gynllun llwyddiannus iawn i helpu i baru ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n awyddus i gamu nôl o'r diwydiant â newydd-ddyfodiaid sy'n mentro i'r byd amaeth. Rydym hefyd yn ceisio gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod eu ffermydd wedi eu gwarchod fel ffermydd fel bod modd iddynt gael eu defnyddio gan bobl, yn enwedig pan fyddant eisiau dechrau yn y byd amaeth. Efallai nad ydynt yn gallu fforddio prynu fferm, ond gallant rentu fferm ar brydles gan yr awdurdod lleol.