Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch. Felly, fe'i crybwyllais yn ein grŵp rhyngweinidogol ym mis Rhagfyr ac yna ysgrifennais at y Gweinidog ffermio, pysgodfeydd a bwyd. Fel y dywedaf, yn anffodus, nid wyf wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw. Mae gennym gyfarfod pellach o'r grŵp rhyngweinidogol, ymhen pythefnos rwy'n credu, felly byddaf yn ei godi eto os nad ydwyf wedi cael ymateb. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar sut y defnyddiwn y pwerau hynny ac fel y dywedaf, a gweld ai ateb deddfwriaethol fyddai'r ffordd orau ymlaen, ond yn amlwg, mae fy swyddogion yn parhau i weithio ledled y DU ar lefel swyddogol gyda grŵp monitro'r farchnad amaeth. Oherwydd ei fod yn gyflenwad mor integredig ledled y DU, rwyf wedi gofyn iddynt bwysleisio mai ateb DU gyfan fyddai'r ffordd orau ymlaen.