2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2023.
4. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant wyau yn Nwyrain De Cymru? OQ59130
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i'r diwydiant wyau yn ne-ddwyrain Cymru. Mae arian ar gael drwy ein cynlluniau grantiau cyfalaf, gyda chyngor a chymorth uniongyrchol ar gael i fusnesau fferm a bwyd drwy ein timau Cyswllt Ffermio a Busnes Cymru.
Diolch am yr ateb yna.
Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi bod yn siopa bwyd yn ystod y misoedd diwethaf wedi sylwi ar brinder wyau. Mae rhai cynhyrchwyr, sy'n wynebu costau cynyddol ac archfarchnadoedd sy'n gwrthod adlewyrchu hyn yn eu cytundebau, yn gadael y diwydiant os ydynt yn gallu. Cafodd hyn ei wneud yn glir i mi gan gynhyrchydd wyau yn fy rhanbarth yn ystod cyfarfod yn ddiweddar. Roeddent yn dweud wrthyf yn blwmp ac yn blaen fod y sector wyau mewn trafferthion mawr. Weinidog, beth y gellir ei wneud i gael cydlynu gwell yn y gadwyn gyflenwi i roi hyder i'n ffermwyr gynhyrchu ein hwyau Cymreig? Oni bai bod y mater hwn yn cael ei ddatrys, rydym yn wynebu mwy o fewnforio wyau i lenwi'r bwlch, heb unrhyw sicrwydd eu bod wedi cael eu cynhyrchu i'r un safon ac felly'n rhydd o facteria fel salmonela. Mae'n hanfodol fod wyau'n parhau i fod yn gwbl olrheiniadwy yn ogystal â fforddiadwy, a hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem fawr yn y sector.
Diolch. Mae hwn yn amlwg yn gyfnod heriol iawn i'n ffermwyr i gyd, ac rwy'n gwybod bod ffermwyr dofednod ac wyau'n arbennig o ddibynnol ar borthiant ac ynni, dau faes lle'r ydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y costau oherwydd chwyddiant amaeth. Mae'r diwydiant wyau—ac rwy'n credu eich bod yn cyfeirio at hyn yn rhan gyntaf eich cwestiwn—hefyd yn galw am ddiwygio contractau i atal cyflenwyr rhag cael eu clymu i sefyllfaoedd lle maent yn gwneud colledion ac i ddarparu rhywfaint o sefydlogrwydd i'r sector wrth symud ymlaen yng nghanol y prinder wyau parhaus. Ysgrifennais at Weinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Mark Spencer, ychydig cyn y Nadolig ynglŷn â'r mater hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn edrych arno ar sail y DU gyfan. Rwy'n aros am ymateb ganddo. Ond rwy'n credu y gallem wneud yn well os ydym yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y DU, ac yn amlwg, gallai'r Gweinidog ffermio, pysgodfeydd a bwyd y cyfeiriais ato ddefnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i ymgynghori â'r diwydiant, i sefydlu a oes angen ateb deddfwriaethol i'w cefnogi wrth symud ymlaen. Rydym hefyd wedi gweld effaith achosion cyson iawn o'r ffliw adar dros y 18 mis diwethaf, sy'n amlwg wedi cael effaith hefyd.
Diolch i'r Aelod dros Ddwyrain De Cymru am godi hyn, ac rwy'n rhannu ei bryderon a phryderon y diwydiant, ac rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau fel ffermwr.
Mae cynhyrchwyr dofednod yng Nghymru wedi bod yn wynebu'r pwysau dwbl rydych yn ei gydnabod gyda ffliw adar a chostau cynhyrchu cynyddol ers cryn dipyn o amser. Yn dilyn cyfarfod gyda ffermwyr dofednod pryderus ar ddiwedd 2022, rwy'n credu bod NFU Cymru wedi ysgrifennu atoch, Weinidog, yn gofyn a fyddech yn ystyried defnyddio'r pwerau o dan Atodlen 5, Rhan 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, i ymchwilio i weld a ddylid gwneud datganiad o amodau marchnad eithriadol. Fel y cofiwch, rwyf wedi codi hyn o'r blaen yn y Siambr, a galwyd am hyn yng ngoleuni'r aflonyddwch difrifol yn y farchnad sy'n cael ei brofi gan gynhyrchwyr a defnyddwyr. A Weinidog, rydych wedi ateb fy nghwestiwn yn rhannol, ond a wnewch chi ddweud wrth y Senedd pa drafodaethau a gawsoch chi a'ch swyddogion gyda'r diwydiant ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ers diwedd mis Tachwedd?
Diolch. Felly, fe'i crybwyllais yn ein grŵp rhyngweinidogol ym mis Rhagfyr ac yna ysgrifennais at y Gweinidog ffermio, pysgodfeydd a bwyd. Fel y dywedaf, yn anffodus, nid wyf wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw. Mae gennym gyfarfod pellach o'r grŵp rhyngweinidogol, ymhen pythefnos rwy'n credu, felly byddaf yn ei godi eto os nad ydwyf wedi cael ymateb. Rwy'n credu bod angen inni edrych ar sut y defnyddiwn y pwerau hynny ac fel y dywedaf, a gweld ai ateb deddfwriaethol fyddai'r ffordd orau ymlaen, ond yn amlwg, mae fy swyddogion yn parhau i weithio ledled y DU ar lefel swyddogol gyda grŵp monitro'r farchnad amaeth. Oherwydd ei fod yn gyflenwad mor integredig ledled y DU, rwyf wedi gofyn iddynt bwysleisio mai ateb DU gyfan fyddai'r ffordd orau ymlaen.