Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:33, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Nid oes unrhyw beth wedi mynd o'i le. Fel y dywed yr Aelod, mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau mewnol sylweddol ar hyn o bryd i gytuno ar baramedrau'r prosiect i ganiatáu ar gyfer ymarfer caffael llawn. Chi fyddai'r cyntaf i gwyno pe na bawn yn dilyn y rheolau priodol. Rwy'n ymroddedig iawn i brosiect TB sir Benfro. Rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn rhan ohono; fel y dywedwch, mae llawer o wirfoddolwyr wedi bod yn rhan ohono, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith hwnnw. Os ydym yn mynd i ymladd y lefelau heintio dwfn mewn rhannau o sir Benfro, rwy'n sicr yn meddwl bod angen gwneud hyn. Ond nid mater o rwystro yw hyn—nid dyna'r gair cywir o gwbl. Fe gawsoch chi a fi gyfarfod i drafod beth y gallem ei wneud am y peth, ond mae'n rhaid imi ddilyn proses gaffael lawn.