Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch. Wel, fel y dywedais, rydym eisoes wedi ymrwymo i ystyried trwyddedu rasio milgwn fel rhan o'n cynllun lles anifeiliaid. Y cam nesaf nawr yw cael y ddeiseb. Yr hyn rwyf wedi’i ddweud wrth y Pwyllgor Deisebau ac wrth Aelodau yn y Siambr yw y byddai’n rhaid i unrhyw beth y penderfynwn ei wneud fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, felly gadewch inni gael y ddadl ar 6 Mawrth, ac yna gallwn benderfynu ar y camau nesaf.