Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 15 Chwefror 2023.
Mae rasio milgwn yn rhy aml yn hynod beryglus i'r milgwn, ac mae yna ystadegyn fod 2,000 o filgwn wedi cael eu hewthaneiddio yn y DU rhwng 2018 a 2020 yn syml o ganlyniad i gael eu rasio. Credaf yn gryf na ddylai unrhyw anifail ddioddef yn enw chwaraeon, ac mae hynny'n wir am bob camp sy'n defnyddio unrhyw fath o anifail ar gyfer adloniant pobl, felly rwy'n falch o'ch clywed yn dweud bod hynny dan ystyriaeth yn yr ymgynghoriad hwn. Mae 35,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb hon, felly nid yw'r ychydig leisiau yma'n lleiafrif; rydym yn cynrychioli sector enfawr o'r gymdeithas sy'n meddwl yr un fath. Felly, Weinidog, pan fyddwch yn ymgynghori, a hynny ledled Cymru, a fyddwch yn bwydo'r ymgynghoriad hwnnw yn ôl cyn gwneud unrhyw benderfyniadau a chyn rhoi camau ar waith?