Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch, Weinidog. Mae etholwr wedi cysylltu â mi i ddweud bod ci mawr wedi ymosod arno’n ddiweddar ar lwybr cyhoeddus yn Nhrecelyn. Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud ei fod wedi cael ei gnoi ddwywaith gan gŵn mewn mannau cyhoeddus dros y chwe blynedd diwethaf, a bod ei fab wedi cael ei gnoi hefyd. Crybwyllodd yr Aelod dros Gaerffili y pwnc hwn yr wythnos diwethaf, felly gwn eich bod yn ymwybodol o’r ddau achos trasig diweddar yng Nghaerffili, pan laddwyd bachgen 10 oed a dynes 83 oed ar ôl i gŵn ymosod arnynt. Rwy’n ymwybodol fod y Cynulliad Cenedlaethol blaenorol wedi ystyried cyflwyno Bil Rheoli Cŵn (Cymru), ond rhoddwyd y gorau i'r syniad yn 2013. A ydych yn cytuno, Weinidog, fod yr amser wedi dod i Gymru ailystyried y mater hwn a chyflwyno mesurau i sicrhau diogelwch pobl wrth iddynt adael eu cartrefi? Diolch.