Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 15 Chwefror 2023.
Gwyddom y gallai unrhyw gi yn y dwylo anghywir fod yn beryglus, a’r hyn rydym yn ei wneud yw hybu perchnogaeth gyfrifol. Credaf fod yn rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth allweddol. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Mabon ap Gwynfor am y Bil anifeiliaid a gedwir y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno, ac mae hwnnw wedi arafu ychydig, yn anffodus, ond credaf fod darpariaethau y gallwn eu rhoi ar waith yno i'n helpu. Oherwydd gwyddom fod ymosodiadau gan gŵn yn difetha bywydau’n llwyr, a bod modd eu hosgoi os yw perchnogion cŵn yn sicrhau bod eu cŵn dan reolaeth bob amser, a’u bod yn berchnogion cyfrifol bob amser hefyd.