Y Diwydiant Wyau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:44, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi bod yn siopa bwyd yn ystod y misoedd diwethaf wedi sylwi ar brinder wyau. Mae rhai cynhyrchwyr, sy'n wynebu costau cynyddol ac archfarchnadoedd sy'n gwrthod adlewyrchu hyn yn eu cytundebau, yn gadael y diwydiant os ydynt yn gallu. Cafodd hyn ei wneud yn glir i mi gan gynhyrchydd wyau yn fy rhanbarth yn ystod cyfarfod yn ddiweddar. Roeddent yn dweud wrthyf yn blwmp ac yn blaen fod y sector wyau mewn trafferthion mawr. Weinidog, beth y gellir ei wneud i gael cydlynu gwell yn y gadwyn gyflenwi i roi hyder i'n ffermwyr gynhyrchu ein hwyau Cymreig? Oni bai bod y mater hwn yn cael ei ddatrys, rydym yn wynebu mwy o fewnforio wyau i lenwi'r bwlch, heb unrhyw sicrwydd eu bod wedi cael eu cynhyrchu i'r un safon ac felly'n rhydd o facteria fel salmonela. Mae'n hanfodol fod wyau'n parhau i fod yn gwbl olrheiniadwy yn ogystal â fforddiadwy, a hoffwn wybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem fawr yn y sector.