Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:55, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ymateb yn gadarnhaol i Bwyllgor Deisebau'r Senedd ar yr adroddiad a alwai am waharddiad graddol ar rasio milgwn. Y rheswm y gwnaethom alw am waharddiad graddol ar rasio milgwn yw oherwydd bod y mwyafrif o'r Aelodau'n teimlo bod y dystiolaeth a glywsom yn llethol o blaid gwaharddiad graddol. Rwy'n deall safbwynt Llywodraeth Cymru y bydd yn rhaid iddynt ymgynghori ar unrhyw waharddiad, ac fe fydd ymgynghoriad yn cynnwys y safbwynt ar wahardd rasio milgwn. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr, Weinidog, ynglŷn â beth yw'r camau nesaf i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth.