Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch, ac roeddwn yn falch iawn o allu derbyn, neu dderbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion heblaw am un, ac edrychaf ymlaen yn fawr at y ddadl a gynhelir yn y Siambr hon ar 6 Mawrth, ac mae'n debyg mai dyna'r cam nesaf. Ac yna cawn olwg ar beth arall sydd angen inni ei wneud i gael golwg a gwneud yn siŵr fod ein milgwn yn cael eu diogelu gymaint â phosibl. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â pherchennog stadiwm Valley, sef yr unig stadiwm milgwn yma yng Nghymru, fel y gwyddoch, i drafod y materion lles a gafodd eu dwyn i fy sylw. Rwy'n awyddus iawn i weld yr archwiliadau'n parhau yn y stadiwm. Ond y cam uniongyrchol nesaf fydd y ddadl ar 6 Mawrth.