Rasio Milgwn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:58, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Felly, i ateb eich pwynt olaf—ac rwy'n derbyn nad ydych wedi gweld fy ymateb hyd yma—argymhelliad 5, sef y dylem hefyd edrych ar chwaraeon eraill lle mae anifeiliaid yn cystadlu, yw'r argymhelliad a wrthodais, oherwydd, yn amlwg, ffocws ar rasio milgwn yw hwn. Yr hyn y mae ein cynllun lles anifeiliaid, a gyflwynais yn ôl yn 2021—mae'n gynllun pum mlynedd—yn ei wneud yw cynnwys fframwaith ar gyfer gwireddu pedwar ymrwymiad lles anifeiliaid y rhaglen lywodraethu, ac mae hwnnw'n amlinellu sut y byddwn yn integreiddio ystod eang o waith polisi lles anifeiliaid parhaus.

O ran eich cwestiynau ynghylch traciau GBGB, fe fyddwch yn ymwybodol nad yw'r un trac sydd yng Nghymru yn drac GBGB. Rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â GBGB i weld beth arall y gellid ei wneud, ac mae fy swyddogion yn edrych ar hynny. Nid wyf yn credu eu bod wedi ymweld ag unrhyw un o draciau eraill GBGB, ond yn sicr maent wedi cael trafodaethau gyda phrif weithredwr GBGB, rwy'n meddwl, i weld beth y gallwn ei ddysgu.