Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch yn fawr iawn i Luke Fletcher am gyflwyno'r cynnig yma, ac i bawb a'i gefnogodd o.
Mae EMA wedi bod yn gymorth hanfodol i nifer fawr o fyfyrwyr yng Nghymru ers iddo gael ei gyflwyno gyntaf. Cafodd ei gyflwyno fel peilot nôl yn 1999 cyn iddo gael ei rolio allan ar draws y Deyrnas Gyfunol yn 2004-05. Mae'n gresyn bod Llywodraeth Lloegr wedi cael gwared ar y lwfans, ond mae’n arwydd o’i boblogrwydd a'i bwysigrwydd wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, a Gogledd Iwerddon barhau â’r cynllun.
Cafodd y cynllun ei arfarnu'n drwyadl yn ôl 15 mlynedd yn ôl, a’r gwaith ymchwil yn dangos yn glir bod y nifer o ddysgwyr a oedd yn ei dderbyn yn cynyddu, a bod nifer fwy o ddysgwyr yn aros ymlaen i barhau â'u cyrsiau. Roedd y canfyddiadau yma'n arbennig o wir am fyfyrwyr o gefndiroedd mwy difreintiedig. Mae'r lwfans yma'n arbennig o bwysig yn enwedig i blant mewn gofal.
Mae gen i ddysgwyr a oedd yn derbyn y grant sydd wedi mynd ymlaen i nifer o feysydd gwahanol. Roeddwn i'n siarad yn ddiweddar efo un merch a oedd wedi derbyn y grant ac wedi mynd ymlaen i nyrsio; dyma ichi enghraifft berffaith o bres cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio fel buddsoddiad yn ein pobl ifanc ac yn ein cymunedau. Diolch byth am y grant a diolch byth amdani hi. Felly, mae yna werth amlwg i’r cymhorthdal angenrheidiol yma. Ond, mae’r angen gymaint yn fwy acíwt, rŵan, wrth ein bod ni'n byw mewn argyfwng costau byw sydd yn effeithio ar y mwyaf tlawd a'r mwyaf difreintiedig yn waeth fyth.
Rŵan, dwi'n cydnabod ac yn canmol y Llywodraeth am gynnal y grant yma yng Nghymru, ond y gwir anffodus ydy fod llawer gormod o blant yn parhau i golli allan neu yn gadael addysg bellach, a hynny am ddwy brif reswm yn ymwneud â’r EMA, a sydd yn cael eu nodi yn y cynnig: dydy o ddim yn ddigonol, ac mae’r rhicyn ariannol er mwyn cael mynediad i’r grant yn llawer rhy isel.
Nôl yn 2010, roedd yn rhaid i aelwyd ennill llai na £31,000, neu £42,000 yng ngwerth y bunt heddiw, er mwyn cyfiawnhau mynediad at y grant. Erbyn heddiw, mae’r rhicyn yn bron i hanner hynny o ran gwerth, sef £23,000. Mae’r dystiolaeth yr wyf i wedi ei gweld yn dangos bod mwy o ddysgwyr yn holi am gymorth er eu bod nhw ar EMA. Mae angen cymorth gyda chostau cwrs, costau cinio ac offer technegol ar y myfyrwyr. Ac mae rhai siroedd yn gwrthod talu am drafnidiaeth i addysg ôl-16, felly yn yr achosion yma, mae’r EMA yn gwbl hanfodol er mwyn i ddysgwyr gael mynediad at eu haddysg. Hefyd, oherwydd tlodi o fewn y teulu mae yna nifer o bobl ifanc yn ei ddefnyddio fel modd o fyw o ddydd i ddydd—yn ei ddefnyddio i brynu bwyd, i deithio, prynu dillad, cymorth i ddysgu, ac yn y blaen. Mae rhai yn dibynnu arno oherwydd eu bod nhw'n gwbl annibynnol efo'u biliau ac efo'u rhent ac yn y blaen. Ac fel y soniais, dydy’r tâl, felly, ddim yn ddigonol; mae’n isel, gyda nifer o ddysgwyr yn gweithio hefyd er mwyn ennill arian i'w helpu i fyw. Mae hyn yn ei dro, fel rydyn ni wedi'i glywed, yn amharu ar eu haddysg.
Felly, unwaith eto, dwi am orffen drwy ddiolch i bawb, yn enwedig Luke am gyflwyno'r ddadl yma. Dwi'n croesawu'n gynnes yr ymrwymiad sydd gan y Llywodraeth i barhau â chynnal y lwfans, ond yn gofyn a wnaiff y Gweinidog, yn ei ymateb, edrych i newid y rhicyn mynediad, a phan ddaw'r cyfle, i gynyddu'r lwfans ymhellach. Diolch yn fawr iawn.