Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 15 Chwefror 2023.
Fe ddechreuaf fel rwy'n aml yn ei wneud wrth drafod y lwfans cynhaliaeth addysg, drwy ganmol y Llywodraeth, a chanmol y Gweinidog, am barhau i'w warchod. Mae'r ffaith bod gennym lwfans cynhaliaeth addysg yma yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono yn y lle hwn, ac mae'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn barod i'w warchod.
Fel y gŵyr pawb ohonom, mae costau byw wedi cael effaith andwyol ar gymaint o'n hetholwyr; yn eu plith mae myfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr o aelwydydd incwm isel. Yr hyn a welsom ers 2004 yw toriad mewn termau real yn y lwfans cynhaliaeth addysg. Mae'r taliad wedi aros yr un fath, mae'r trothwyon wedi aros yr un fath, ers 2011, ac erbyn hyn, mae myfyrwyr incwm isel yn teimlo effeithiau hynny'n fwy nag erioed. Roedd fy £30 i yn mynd yn llawer pellach na £30 myfyriwr heddiw.
Nawr, mae hon yn ddadl bwysig i'w chael, oherwydd gall lwfans cynhaliaeth addysg a rhaglenni cymorth eraill ein helpu i gyrraedd ein nodau i fynd i'r afael â'r bylchau sgiliau sy'n bresennol yn ein heconomi drwyddi draw. Buddsoddiad yw hwn nid yn unig yn nyfodol pobl, ond yn ein cymunedau. Fe roddaf enghraifft: mae pob un ohonom yn ymwybodol o'r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu, ac rwyf wedi defnyddio'r diwydiant adeiladu nifer o weithiau. Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn dweud wrthym fod 1,400 o fyfyrwyr o fewn y system addysg yn astudio cwrs adeiladu. Mae'r bwrdd hefyd yn hyderus, pe bai pob un o'r 1,400 myfyriwr, o un flwyddyn i'r llall, yn cwblhau eu cwrs, ni fyddai fawr o fwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu os o gwbl. Mae'r ffaith bod gennym fwlch yn arwydd nad yw pethau'n iawn. Mae hyn hefyd yn nodi problem, gyda llaw, gydag asesu cadw myfyrwyr, sef diffyg data ynghylch cadw myfyrwyr. Rhaid datrys hyn, wrth gwrs, ond mae'n rhaid i graidd ein dadl ynghylch y lwfans cynhaliaeth addysg ymwneud â chadw myfyrwyr.
Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y cyfyngiadau ar y Gweinidog, a diolch iddo am gyfarfod â mi i drafod rhai o'r heriau hynny ddoe, a gobeithio y bydd ei allu i ailflaenoriaethu—. Ac mae'n debyg fy mod yn amddiffyn y Gweinidog yma—rwy'n siŵr y bydd yn falch o hynny—ond byddwn i'n dadlau, mewn gwirionedd, fod hyn yn mynd y tu hwnt i'r portffolio addysg; ni ddylai fod yn gyfrifoldeb iddo ef yn unig. Mae'r hyn y siaradwn amdano yma yn fater cyfiawnder cymdeithasol, a mae hefyd yn fater sy'n ymwneud â'r economi a sgiliau, a byddwn yn gobeithio bod Gweinidogion yn y portffolios hynny'n cydnabod hyn ac y byddant yn gwneud popeth yn eu gallu i weithio gyda'r Gweinidog addysg ar y mater hwn.
Nid mater ariannol yn unig yw cyflwr y lwfans cynhaliaeth addysg. Ceir problemau ymarferol: problemau y gellir eu datrys heb fawr iawn o fuddsoddiad, os o gwbl. Ers mis Medi, rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion ar ran myfyrwyr sydd wedi gweld oedi sylweddol cyn iddynt gael eu taliadau. Yn yr achos gwaethaf, bu'n rhaid aros o fis Medi hyd fis Rhagfyr am daliad cyntaf, ac er bod taliadau'n cael eu hôl-ddyddio, dros y cyfnod hwnnw nid oedd unrhyw beth yn dod i mewn. Mewn rhai achosion, roedd hyn yn golygu nad oedd rhai myfyrwyr yn gallu mynychu'r ysgol neu'r coleg, a chafodd hynny effaith wedyn ar eu gallu i hawlio lwfans cynhaliaeth addysg yn y lle cyntaf—cylch dieflig—ac mewn achosion fel hyn, mae angen ystyried yr effaith ar bresenoldeb. Yn ofidus, roedd gennyf un achos penodol lle'r oedd tiwtor personol wedi cymryd yn erbyn myfyriwr, yn cofnodi eu presenoldeb yn y ffordd anghywir ac yn gwrthod unioni hynny.
Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur am gymhlethdod y broses o ymgeisio am lwfans cynhaliaeth addysg—mater ymarferol arall sy'n lladd awydd myfyrwyr i ymgeisio am lwfans cynhaliaeth addysg yn y lle cyntaf. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef. A dyna pam fy mod hefyd yn credu bod angen adolygiad o'r brig i lawr o'r lwfans cynhaliaeth addysg, gan edrych ar y cyllid, ie, ond hefyd ar y rhwystrau i fyfyrwyr a sut y gallant eu goresgyn. Y gwir amdani, hefyd, yw mai ychydig iawn o lenyddiaeth sydd gennym yng Nghymru ynglŷn ag effeithiau lwfans cynhaliaeth addysg. Gwnaed gwaith gwych gan Sefydliad Bevan. Yn anffodus, mae llawer ohono wedi dyddio erbyn hyn, a dyna pam mae fy swyddfa wedi ceisio gwneud ein hadolygiad bach ein hunain o'r lwfans cynhaliaeth addysg, ond yr hyn sydd ei angen arnom wrth gwrs yw cefnogaeth y Llywodraeth i geisio gwneud hynny.
Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, drwy gyfeirio eto at graidd y ddadl hon. Y craidd yw cadw myfyrwyr incwm isel, nid yn unig fel y gallant wireddu eu potensial eu hunain, ond hefyd er mwyn iddynt fod o fudd i'n cymunedau. I lawer o'r myfyrwyr hyn, rydym yn dweud wrthynt am weld addysg fel buddsoddiad hirdymor, ond i gymaint ohonynt, ni allant feddwl yn hirdymor. Y tymor hir yw yfory. Oni bai ein bod yn cefnogi'r myfyrwyr hyn nawr, byddwn yn parhau i weld problem gyda chadw myfyrwyr, gan na fydd gan nifer ohonynt ddewis ond chwilio am waith. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau gan Aelodau eraill ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog. Diolch yn fawr.