Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 15 Chwefror 2023.
Nid yw hon yn broblem y byddaf yn cael etholwyr dirifedi'n cysylltu â mi yn ei chylch, ond i'r rhai sy'n gwneud hynny, rwy'n gwybod am y gwahaniaeth mae'n ei wneud, y gwahaniaeth mae'n ei wneud i'w teuluoedd ac i'r unigolion hynny.
O ran mesurau eraill, wrth gwrs nid cyfrifoldeb y Gweinidog addysg yn unig mohono, fel y dywedoch chi, yn gwbl briodol; mae'n gyfrifoldeb trawslywodraethol, traws-bortffolio, a chyfiawnder cymdeithasol yn sicr. Rydym wedi cael dadl ar fysiau a phwysigrwydd gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy. Ni fyddai cymaint o angen am y lwfans cynhaliaeth addysg ac am y cynnydd pe bai costau trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim i bobl ifanc, er enghraifft. Felly, ceir nifer o fesurau y gallem edrych arnynt, ac nid yw'n ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg yn unig.
Fy mhryder i, yn ogystal â'r gwerth, ar hyn o bryd—. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni wedi ei barhau yma yng Nghymru. Rwy'n arswydo meddwl am y sefyllfa i'r bobl ifanc hynny pe na baem yn y sefyllfa hon. Ond yn amlwg, nid yw £30 yn mynd yn bell iawn o'i gymharu ag o'r blaen. Mae angen inni feddwl o ddifrif ynglŷn â sut y sicrhawn nad yw hyn bellach yn rhwystr i bobl ifanc sydd am gael addysg, os gallwn ei gynyddu yn gysylltiedig â chwyddiant, fel y dylid ei wneud, a dyna sydd yn y cynnig hwn.
Mater rwyf am ganolbwyntio arno hefyd, fel y nododd Luke, yw mynediad at y lwfans cynhaliaeth addysg ar gyfer y rhai sy'n gymwys. Mae'n ofidus fy mod wedi gweld gwaith achos yn gysylltiedig â pheidio â rhoi'r arian i fyfyrwyr am reswm penodol. Yn y canllawiau, mae'n dweud:
'cyn belled â'ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad eich ysgol neu'ch coleg.'
Wel, gellir dehongli hynny mewn nifer o wahanol ffyrdd. Hefyd, mae nifer o'r bobl ifanc hyn yn agored i niwed—mae ganddynt sefyllfaoedd teuluol cymhleth iawn ar adegau, efallai y bydd gofyn iddynt ofalu am riant neu ofalu am aelod arall o'r teulu, sy'n golygu y gallant golli rhai sesiynau, sy'n eu gwneud yn anghymwys wedyn ar gyfer y grant yn ei gyfanrwydd, sy'n golygu bod hynny'n cael sgil-effaith ar bresenoldeb yr wythnos ganlynol.
Rwy'n meddwl o ddifrif fod angen inni weithio gyda cholegau ac yn y blaen i sicrhau nad yw'r rhain yn rhwystrau, ac os ydych chi'n colli un sesiwn benodol, na chewch eich cosbi wedyn, oherwydd dylai'r system ddangos tosturi a chydymdeimlad. Yn yr un ffordd, os ydym yn methu sesiwn yma yn y Senedd am ba reswm bynnag, boed yn argyfwng teuluol, nid ydym yn colli cyflog, felly pam ein bod yn cosbi'r bobl ifanc mwyaf bregus?
Hefyd, ar ofynion ymddygiad, rydym wedi gweld llawer o dystiolaeth am effaith COVID ar iechyd meddwl, diffyg mynediad at wasanaethau ac oedi cyn cael mynediad at wasanaethau. Mae hynny hefyd yn cael effaith ar bresenoldeb ar adegau. Gwelsom rai colegau'n cynnig opsiynau rhithwir i ymuno, sy'n golygu y gall hynny gyfrif tuag at bresenoldeb, er nad yw colegau eraill yn gwneud hynny. Felly, mae'n sefyllfa eithaf cymhleth, rwy'n credu.
Y peth allweddol yw sicrhau bod y rhai sydd angen y lwfans cynhaliaeth addysg yn ei gael, nad oes oedi cyn ei gael, a hefyd nad ydym yn cynnwys camau biwrocrataidd. Y gwir amdani yw y dylem fod yn cefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw, fel nad yw cyfraddau tlodi plant ar y lefelau y maent ar hyn o bryd. Mae angen inni wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy. Ond er bod angen atebion trawslywodraethol, mae hon yn elfen allweddol, ac rwy'n cefnogi cynnig Luke yn llawn. Byddai peidio â chael y lwfans cynhaliaeth addysg yn cosbi'r rhai sydd ei angen yn ddybryd, a bydd peidio â'i gynyddu ond yn rhwystr pellach i'r rhai sydd ei angen.