Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 15 Chwefror 2023.
Roeddwn yn falch iawn o fanteisio ar y cyfle i gyd-gyflwyno'r cynnig pan ofynnodd Luke i mi wneud. Yn wir, fe atebais ar unwaith oherwydd rwy'n credu bod hyn yn hynod o bwysig. Rwyf am wneud dau bwynt—yn gyntaf am bwysigrwydd y lwfans cynhaliaeth addysg ac yn ail, am bwysigrwydd ei gynyddu yn unol â chwyddiant. Wrth gwrs, roedd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu hynny pan gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth Lafur San Steffan. Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Phil Willis:
'Mae pethau cryn dipyn pwysicach i'w wneud ag £20m na rhoi bonws Nadolig i bobl ifanc.'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, Chris Grayling:
'Dyma enghraifft amlwg arall o'r llywodraeth yn ceisio ffidlo'r ffigurau. Gallai llwgrwobrwyo pobl ifanc i gofrestru ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn eu cwblhau o bosibl, wneud i dargedau gweinidogion edrych yn gyraeddadwy—ond nid ydynt yn gwneud dim o gwbl i helpu i ddatrys prinder sgiliau yn y wlad hon.'
Rwy'n credu bod hynny'n dweud wrthych beth mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan yn ei feddwl o'n pobl ifanc ni, ac am bobl sy'n llai cefnog. Ni wnaf ddefnyddio'r gair 'tlodi' oherwydd mae hwnnw'n derm cymharol, ond pobl sy'n llai cefnog. Anaml iawn y byddaf yn siarad amdano fy hun—rwyf bob amser yn teimlo ei fod ychydig yn sarhaus i fy rhieni os gwnaf hynny—ond mae llawer ohonom yn dod o gefndiroedd a oedd yn llai cefnog. Dim llawer yn y Siambr hon, ond llawer ohonom yn fy etholaeth a llawer o fy ffrindiau.
Ychydig iawn o amser a gymerodd Llywodraeth San Steffan a chlymblaid y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol—dim ond tan 20 Hydref 2010 y cymerodd hi—i ddod â'r cynllun lwfans cynhaliaeth addysg i ben yn Lloegr, oherwydd nad ydynt yn credu ynddo. Nid ydynt yn credu mewn helpu pobl ifanc. Nid ydynt yn credu mewn helpu pobl ifanc nad yw eu rhieni'n gallu fforddio eu hanfon i ysgol fonedd. Dyma pam fod angen Senedd fwy cynrychioliadol, fel bod gennym bobl sydd â phrofiadau bywyd gwahanol, sy'n deall o'u profiad bywyd beth yw budd cymorth megis y lwfans cynhaliaeth addysg.
Rwyf am longyfarch Llywodraeth Cymru am gadw'r lwfans cynhaliaeth addysg pan gafodd ei ddileu yn Lloegr. Byddai wedi bod mor hawdd ei ddileu. Roedd yn ffordd syml o arbed arian. Ychydig iawn o sŵn y byddai wedi ei greu gan nad y bobl sy'n cael y math yma o daliadau yw'r bobl sy'n ysgrifennu llythyrau at y Western Mail. Nid hwy yw'r bobl sy'n mynd allan i gwyno; hwy yw'r bobl sy'n dioddef ac yn cael problemau.
Hoffwn fynd drwy rai manylion am fy mhrofiad fel darlithydd coleg. Heb lwfans cynhaliaeth addysg, byddai llawer o fyfyrwyr wedi methu ymgymryd â'u hastudiaethau; byddai llawer mwy, oherwydd amgylchiadau economaidd eu teuluoedd, wedi gorfod rhoi'r gorau iddi ar ryw adeg. Cafodd llawer o fy nghyn-fyfyrwyr swyddi TGCh sy'n talu'n dda, gan eu helpu hwy a'r economi. Lwfans cynhaliaeth addysg oedd y gwahaniaeth rhwng diweithdra wedi'i ddilyn gan gyflogaeth sgiliau isel ar gyflogau isel a dod yn fedrus a chael cyflogau da. Roedd, ac mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn newid bywyd i lawer o bobl. Mae hefyd o fudd i'n heconomi, drwy gynyddu nifer y gweithwyr medrus. Buddsoddi mewn pobl ifanc yw hyn, buddsoddi yn ein heconomi ac efallai ei fod yn un o'r mathau gorau o fuddsoddiad mewn datblygu economaidd. Mae llwgrwobrwyo cwmnïau i ddod â'u ffatrïoedd cangen yma wedi methu ers cyhyd ag y gallaf gofio—nid oes ond raid sôn am LG.
A gâi ei gamddefnyddio ar y dechrau? Câi—gan fyfyrwyr yn dod ac yn gwneud dim. Cafodd hyn ei ddatrys drwy barhau â thaliadau ar ôl i gynnydd boddhaol gael ei wneud. Ac i ymateb i Heledd Fychan, o fy mhrofiad i fel darlithydd coleg, nid oedd unrhyw fyfyriwr a oedd yn mynychu'n rheolaidd a chanddynt reswm da dros beidio â bod yno ac a oedd yn gwneud cynnydd da yn mynd i gael eu rhwystro rhag cael eu lwfans cynhaliaeth addysg. Rwy'n siarad ar ran aelodau'r Brifysgol ac Undeb y Coleg—ni fyddem wedi gwneud hynny.
Yn ôl Sefydliad Bevan, byddai cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg 10 y cant yn ychwanegu £3 yr wythnos i bawb sy'n ei gael. Yn amlwg, nid yw £3 yr wythnos yn llawer. Ceir cydnabyddiaeth fod dysgwyr mewn addysg bellach yn wynebu pwysau ariannol lawn mor sylweddol â myfyrwyr addysg uwch, a gafodd gynnydd o 9.4 y cant yn ddiweddar, sydd, byddai'n well imi ychwanegu, yn fawr ei angen ac yn cael ei gefnogi'n frwd. I lawer yn y Siambr hon, mae £3 yn llai na phaned o goffi. I fyfyrwyr y lwfans cynhaliaeth addysg, gall fod yn ddau neu dri phryd o fwyd. Dyna ddau neu dri phryd allan o 14 pryd yr wythnos. Nid yw'r syniad fod pobl yn cael tri neu bedwar pryd y dydd yn wir i bobl sy'n dlawd. Yn allweddol, byddai'n sefydlu egwyddor bwysig o gynnydd blynyddol, gan gyfateb i gynnydd Llywodraeth y DU i'r rhan fwyaf o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol.
Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif y bydd cost cynnydd sy'n gysylltiedig â chwyddiant oddeutu £1.7 miliwn. Byddai codi'r cymhwysedd i gynnwys 1,000 o fyfyrwyr eraill yn costio £1.1 miliwn. Mae hyn yn amlwg yn fforddiadwy o gyllideb Llywodraeth Cymru. Bu'r Pwyllgor Cyllid yn trafod hyn ac roeddent yn unfrydol o blaid cynnydd o'r fath, yn cynnwys yr Aelod Ceidwadol. Os oes unrhyw un yn amau ei fforddiadwyedd, edrychwch bob mis ar faint o arian ychwanegol sy'n cael ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru i dderbynwyr da a haeddiannol: £1 miliwn yn y fan hon, £5 miliwn yn y fan acw, £300,000—rydych yn eu cael yn wythnosol bron. Fy nadl i yw bod myfyrwyr lwfans cynhaliaeth addysg yn dderbynwyr da a haeddiannol.
Yn olaf, diolch i'r Llywodraeth Lafur, a gadwodd y lwfans cynhaliaeth addysg; nawr yw'r amser i ddechrau ei gynyddu'n flynyddol.