Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd Aelodau'n gwybod o drafodaethau a chwestiynau blaenorol ar y pwnc hwn ein bod ni fel Llywodraeth yn cydnabod yr effaith bositif y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn gallu ei gael ar bobl ifanc, ac rŷn ni'n dal i ymrwymo yn unol â’r rhaglen lywodraethu i gynnal y lwfans. Ochr yn ochr gyda'n hymrwymiadau eraill i bobl ifanc ac â chyllideb flynyddol o £17 miliwn, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn ei gwneud yn bosib i fwy na 18,000 o bobl ifanc barhau mewn addysg ôl-orfodol bob blwyddyn.