Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 15 Chwefror 2023.
Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, rwy’n deall y pryderon nad yw'r lwfans cynhaliaeth addysg wedi cynyddu ers peth amser, a chroesawaf y farn y mae Aelodau wedi’i mynegi ynghylch lle gallwn wella ein hymrwymiad i bobl ifanc ymhellach. Rwy’n sylweddoli bod pobl ifanc hefyd yn teimlo straen ariannol yr argyfwng costau byw presennol yn fawr iawn.
Rydym yn parhau i fodelu pa effaith y gallai newidiadau posibl ei chael, gan gynnwys o ran ymrwymiadau ariannol presennol ac yn y dyfodol, a bydd pob un ohonom yn awyddus i sicrhau y byddai unrhyw newid yn ystyrlon ac yn effeithiol, yn ogystal â fforddiadwy. Er gwaethaf ein cyfyngiadau ariannol difrifol presennol wrth ystyried cynnydd yng nghyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg, rydym wedi ehangu’r garfan gymwys i gynnwys rhai o’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt gan Brexit, aelodau teuluol y rhai sydd â statws mewnfudo gwarchodedig, a phobl ifanc sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Bydd pob person ifanc yn dal i allu gwneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd, a lle mae eu hamgylchiadau teuluol yn newid, gan arwain at ostyngiad mewn incwm, rydym yn annog pobl ifanc i wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg gydag asesiad incwm y flwyddyn gyfredol. Mae ein hysgolion a'n colegau'n gweithio'n agos gyda'u dysgwyr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
Mae gennym esemptiadau i brofion modd ar gyfer rhai o'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Bydd y rheini mewn cartrefi gofal a chartrefi maeth, y rheini ar fudd-daliadau penodol, y rheini sy'n gyfrifol am eu plentyn eu hunain a'r rheini yn y system cyfiawnder ieuenctid oll yn cael y lwfans wythnosol heb asesiad. Er mwyn annog ceisiadau ymhellach ac i symleiddio'r broses ar gyfer pobl ifanc, mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn datblygu system newydd ar gyfer ceisiadau i'w gwneud ar-lein ac ar gyfer uwchlwytho tystiolaeth ategol. Rydym yn rhagweld y bydd y system hon yn barod ar gyfer ceisiadau blwyddyn academaidd 2023-24. Bydd yr opsiwn ar gyfer cwblhau cais ar bapur hefyd yn parhau.
Fel grant ar sail prawf modd, mae angen llawer o wybodaeth ar y broses ymgeisio. Os yw myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi’i gorlethu neu'n digalonni oherwydd y broses ymgeisio, byddwn yn eu hannog i siarad â’u canolfan ddysgu gan y gallant eu helpu i lenwi’r ffurflenni a’r ceisiadau angenrheidiol. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw oedi wrth brosesu ceisiadau am y lwfans cynhaliaeth addysg, ond rydym yn deall y gall ceisiadau anghyflawn arwain at oedi, ac rwy’n ddiolchgar am y drafodaeth a gefais gyda Luke Fletcher mewn perthynas â rhai o oblygiadau ymarferol talu'r lwfans cynhaliaeth addysg ac ymrwymais i weithio ar unrhyw broblemau ymarferol y gellir eu datrys. Ar y llaw arall, bydd ceisiadau a ddaw i law o fewn 13 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs yn cael taliadau wedi’u hôl-ddyddio i ddechrau’r cwrs, hyd yn oed os cyflwynwyd y dystiolaeth yn hwyr, tra gall ceisiadau a ddaw i law ar ôl hynny barhau i gael taliadau o’r amser y cyflwynant eu ceisiadau. Mae angen i ddarparwr cyrsiau gadarnhau presenoldeb myfyrwyr—fel y nododd llawer o Aelodau yn y ddadl—i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr er mwyn i’r taliad gael ei ryddhau. Ond os ydynt wedi methu taliad, dylent siarad â'u canolfan ddysgu. Gyda chaniatâd y myfyriwr, yn ogystal â hyn, gall fy swyddogion hefyd siarad â thîm addysg bellach y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i fynd i'r afael ag unrhyw anawsterau neu oedi gyda cheisiadau.
Mae’n bwysig, yn y ffordd y nododd Mike Hedges yn ei gyfraniad, fod pobl ifanc yn trafod eu hamgylchiadau personol gyda thiwtor eu cwrs neu gydlynydd lwfans cynhaliaeth addysg eu darparwr. Nid oes angen i absenoldeb arwain at golli taliad bob amser. Mae’r cynllun lwfans cynhaliaeth addysg yn caniatáu disgresiwn i’r rheini na allant gynnal patrwm presenoldeb cyson, efallai oherwydd cyfrifoldebau gofalu neu ffactorau y tu hwnt i’w rheolaeth, ac yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi nodyn atgoffa newydd i bob canolfan ddysgu nodi lle gellir defnyddio'r disgresiwn hwnnw, a sicrhau bod myfyrwyr yn deall sut y gallant droi atynt am gymorth ychwanegol pan fo angen.
Gall pobl ifanc sy'n cael y lwfans cynhaliaeth addysg hefyd gael mynediad at ystod o gymorth ychwanegol. Gall ysgolion a cholegau gynnig offer TGCh ac adnoddau dysgu ar fenthyg, gan ddileu'r angen i wario eu lwfans cynhaliaeth addysg ar eitemau hanfodol ar gyfer eu cwrs. Efallai y byddant hefyd yn gallu cael cludiant am ddim neu gludiant am bris gostyngol yn ystod eu cwrs gan eu hawdurdod lleol. Yn ogystal, mae dros £6 miliwn yn cael ei ddarparu i sefydliadau addysg bellach ym mlwyddyn academaidd 2022-23 ar gyfer y gronfa ariannol wrth gefn. Y nod yw sicrhau nad yw dysgwyr ledled Cymru, gan gynnwys y rheini sy'n cael y lwfans cynhaliaeth addysg, yn cael eu rhwystro gan gyfyngiadau ariannol. Er enghraifft, gall dysgwyr cymwys gael arian ychwanegol tuag at ffioedd cyrsiau, deunyddiau cyrsiau, costau gofal plant, bwyd, ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig ag astudio.
Hoffwn ddiolch i Luke Fletcher am y ddadl ac i’r Aelodau Llafur a Phlaid Cymru sydd wedi cefnogi’r cynnig ac wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon. I gloi, fel Llywodraeth, rydym yn parhau i ymateb i’r argyfwng presennol gyda rhaglenni pellgyrhaeddol o gymorth i aelwydydd a fydd yn cefnogi ein pobl ifanc a’u teuluoedd ar incwm isel. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig heddiw, gan gydnabod y cyfyngiadau ar ein gallu i weithredu, a rhinweddau adolygiad hefyd. I gydnabod cyfraniad Jayne Bryant, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor cyn bo hir mewn termau y gobeithiaf y bydd y pwyllgor yn eu croesawu. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i ddefnyddio pob ffordd sydd ar gael i ni i gefnogi ein pobl ifanc a sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i adlewyrchu’r egwyddor na ddylai arian byth fod yn rhwystr rhag cael mynediad at addysg.