Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad yn y ddadl hon. A gaf fi hefyd ddechrau drwy ailadrodd fy niolch i'r Cymry ac i'r Senedd hon am y gefnogaeth ysgubol i Wcráin a'r gydnabyddiaeth nad rhyfel i Wcreiniaid yn unig yw hwn, ei fod yn rhyfel i amddiffyn rheolaeth y gyfraith, democratiaeth a chyfraith ryngwladol? A gaf fi fynegi fy niolch hefyd am y gefnogaeth anhygoel i deuluoedd o Wcráin sydd wedi gorfod ceisio lloches yma, am y croeso a gawsant ledled Cymru, ac yn arbennig am waith y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, sydd yn fy marn i, wedi ychwanegu gwir ystyr i enw da Cymru fel cenedl noddfa, nid yn unig i Wcreiniaid ond i bob ffoadur ac i bawb sydd wedi gorfod ffoi o'u mamwlad.
Bydd yr wythnos nesaf yn un emosiynol i mi. Bydd yn flwyddyn ers ymosodiad Rwsia ar wladwriaeth annibynnol sofran. Bron i flwyddyn yn ôl yr aeth arweinydd Plaid Cymru a minnau i Kyiv i ddangos undod a chefnogaeth i bobl Wcráin. Ers hynny, rydym i gyd yn gweld bellach effaith y goresgyniad hwnnw ddydd ar ôl dydd: tua 15 miliwn o bobl wedi'u dadleoli'n fewnol neu'n allanol; degau o filoedd o sifiliaid wedi'u lladd, wedi'u llofruddio, eu harteithio, eu treisio, eu bomio; ysbeilio, dinistrio seilwaith dinesig, mewn modd ac a'r raddfa nad ydym wedi'i weld ers yr ail ryfel byd; y 6,000 o blant a gipiwyd sydd wedi'u gwasgaru i wersylloedd hidlo ar gyfer eu hailaddysgu, gyda'r ieuengaf ohonynt yn bedwar mis oed.
Mae'r rhyfel hefyd yn rhyfel o hil-laddiad cenedl Wcráin. Mae gennyf gyda mi heddiw gerdyn estron fy nhad o'r adeg pan oedd yn ffoadur yn y wlad hon. Hyd at 1960, bu'n rhaid iddo gofrestru gyda'r heddlu. Rwy'n cofio'r sarjant a arferai ymweld yn wythnosol. Ar y cerdyn, mae ei genedligrwydd wedi'i nodi fel 'ansicr'—'U' yw'r nod, 'uncertain'—a hynny oherwydd mai fel Wcreiniad y byddai'n disgrifio ei hun, ond wrth gwrs, nid oedd Wcreiniaid yn cael eu cydnabod yn gyfreithiol. Felly, aeth heb unrhyw ddynodiad o'i genedligrwydd ar wahân i'w ddisgrifiad ei hun. Pe bai Putin yn llwyddo, mae yna oddeutu 44 miliwn o bobl a fyddai hefyd yn colli eu hunaniaeth genedlaethol, a fyddai'n cael eu nodi fel 'U'—mewn gwirionedd, ni fyddent yn cael eu nodi fel 'U', byddent yn cael eu nodi fel 'R', fel Rwsiaid, a'u hiaith a'u diwylliant wedi eu dinistrio. Dyna pam rwy'n dweud bod hwn hefyd yn rhyfel o hil-laddiad ac o ddifodi diwylliannol. Un cam yw Wcráin, wedyn mae'r gwledydd Baltig, Estonia, Latfia, Lithwania, Georgia, a Gwlad Pwyl wrth gwrs.
Yr wythnos nesaf, byddaf fi ac Alun Davies, ar ran holl bleidiau gwleidyddol y Senedd hon ac ar ran pobl Cymru, yn dosbarthu cyflenwadau a cherbyd i fataliwn Wcreinaidd ac i undeb glowyr Wcráin, sydd â nifer o'i aelodau'n brwydro ar y rheng flaen a nifer ohonynt eisoes wedi dioddef. Mae'n rhan o gyfraniad Cymru i'r ymgyrch unedig a rhan o'n cyfrifoldeb hanesyddol a rhyngwladol i gefnogi pobloedd gorthrymedig ledled y byd—yn Syria, Affganistan, Palesteina, pobl Uyghur yn Tsieina, ac mewn llawer o lefydd eraill yn anffodus. Rydym yn cefnogi Wcráin a democratiaeth yn Ewrop gyda'n cymorth materol ac ariannol. Mae Wcreiniaid yn cefnogi'r un ddemocratiaeth â'u bywydau. Rwy'n argyhoeddedig y bydd Wcráin yn ennill. Слава Україні! Героям слава! Gogoniant i Wcráin a gogoniant i'n harwyr.