Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau—ac rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Siambr gyfan yn wir am i mi ddechrau—drwy ddiolch i Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, am ei gyfraniad i'r ddadl hon heddiw? Diolch iddo am ei ddewrder a'i ymrwymiad ac am rannu ei brofiad personol a theuluol, wrth inni sefyll gyda'n gilydd gyda Mick, ar draws y Siambr gyfan rwy'n credu, yn dyst i'r ymateb a'r ffordd y mae wedi ein harwain yn ein hymateb i'r ymosodiad erchyll ar Wcráin gan Putin bron i flwyddyn yn ôl.
Mae'r cynnig yma rydych wedi'i gyflwyno yn bwysig heddiw, a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am ei gyflwyno i'w drafod. Ond rwy'n credu ein bod ni i gyd ar draws y Siambr hon unwaith eto yn diolch i bawb yng Nghymru sy'n chwarae rhan mor bwysig yn yr ymateb dyngarol hwn, ac sydd wedi chwarae'r rhan honno dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod pwynt 1 y cynnig yn mynegi'r gwirionedd sylfaenol fod holl boen a dioddefaint pobl Wcráin dros y 12 mis diwethaf yn ganlyniad i oresgyniad anghyfreithlon Putin. Mae'r Siambr wedi ei huno ac yn tynnu sylw'n gadarn at y ffaith, ac rwy'n croesawu ei fod wedi cael ei fynegi yma eto, fel y gwnaethom ddoe ar risiau'r Senedd.
Mae pob un ohonom wedi cael ein syfrdanu gan greulondeb yr hyn a welsom ac a glywsom o Wcráin ers dechrau'r goresgyniad. Ni fydd yr un ohonom yn anghofio cyflafan Bucha, y defnydd o bwerdai niwclear fel tarian, y defnydd o garcharorion fel ymladdwyr, a llawer o erchyllterau eraill. Byddwn yn parhau i annog ein gwesteion Wcreinaidd i ystyried ymgysylltu ag ymchwiliad troseddau rhyfel y Llys Troseddol Rhyngwladol i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfrif.
Er ei bod yn amlwg i'r cyhoedd yng Nghymru a llawer o'r byd yn gyffredinol fod Putin wedi ymosod ar genedl sofran, nid yw'r anghyfiawnderau hanesyddol dyfnach a'r ymddygiad ymosodol parhaus a gyfeiriwyd tuag at Wcráin wedi eu deall cystal. Dyna pam ein bod wedi coffáu Holodomor ym mis Tachwedd y llynedd, a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth yn ystod 2023. Byddwn yn cofio'r dioddefwyr ac yn annog mwy o undod gydag Wcreiniaid sydd bellach yn cael noddfa yma yng Nghymru.
Er gwaethaf holl ddioddefaint pobl Wcráin a'r trawma a brofwyd gan Wcreiniaid a groesawyd i'n cymunedau, mae un peth wedi nodweddu eu brwydr yn fwy na dim arall, sef dewrder. Fel y nododd y Prif Weinidog pan wnaethom goffáu Holodomor ym mis Tachwedd, yn hytrach na thorri eu penderfynoldeb, mae'r rhyfel hwn wedi gwneud cewri o bobl Wcráin yn llygaid y byd.