Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 15 Chwefror 2023.
Mae'r gymuned ryngwladol wedi dangos undod rhyfeddol mewn perthynas â'r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a roddwyd i Wcráin. Mae Llywodraethau’r DU a Chymru wedi gweithio’n galed i sicrhau bod cymorth yn cael ei roi i Wcráin hyd eithaf ein gallu, er gwaethaf yr argyfwng costau byw difrifol rydym ynddo. Rydym wedi bod yn falch o ddarparu cymorth ariannol drwy'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau i ddarparu offer lle bo angen, i agor y llwybr uwch-noddwyr i helpu dinasyddion Wcráin i gyrraedd diogelwch yn gyflymach. A byddwn gyda chi ac yn meddwl amdanoch, Mike Antoniw AS, ein Cwnsler Cyffredinol, Alun Davies, a'ch partner [Anghlywadwy.] Thomas, a fydd yn mynd â'r offer hwn—y daith rydych yn mynd arni i ddarparu offer hanfodol i Wcráin, gyda chefnogaeth drawsbleidiol.
Felly, mae pobl Cymru wedi bod yn ddiwyro yn eu cefnogaeth i'r bron i 7,000 o bobl rydym wedi’u croesawu dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag i’r aelodau o'r gymuned Wcreinaidd a oedd eisoes yn galw Cymru’n gartref, a’r rheini sy’n byw ac yn ymladd yn Wcráin. Rydym yn bobl dosturiol sy'n darparu cymorth anhygoel, fel y mynegwyd heddiw. A Ddirprwy Lywydd, sefydlodd Llywodraeth Cymru y llwybr uwch-noddwyr am ein bod am leihau'r risgiau diogelu a lleihau'r rhwystrau i Wcreiniad—menywod a phlant yn bennaf, sy'n ffoi rhag y gwrthdaro angheuol hwn ac yn ceisio noddfa. A dros flwyddyn yn ôl, fe gofiwch inni ymrwymo, i ddechrau, i gefnogi 1,000 o Wcreiniad drwy'r llwybr uwch-noddwyr, ond rydym bellach wedi croesawu dros 3,000 o Wcreiniad i Gymru, ac mae gan 1,500 arall fisâu wedi'u noddi gennym. Nid ydynt wedi cyrraedd eto, ond fe ddywedaf eto heddiw y byddwn yn rhoi croeso cynnes iddynt pan fyddant yn cyrraedd.
A chredaf ei bod yn bwysig cydnabod bod hyn yn ymwneud â sut rydym yn mynd ati wedyn i ddarparu'r cymorth hwnnw yn ein canolfannau croeso, sydd wedi bod mor bwysig. Mae’r canolfannau croeso hynny wedi bod yn hollbwysig o ran y cymorth rydym wedi’i ddarparu ar gyfer ymgartrefu yng Nghymru: gwasanaethau cyfieithu i’r rheini nad ydynt yn siarad Saesneg; cyfleoedd i ddechrau dysgu Saesneg a Chymraeg; y gwasanaethau iechyd sydd ar gael; plant yn cofrestru mewn ysgolion lleol; y cyngor sydd ar gael i helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd mewn gwlad newydd; cymorth gydag arian, budd-daliadau a mynediad at waith. A hefyd, wrth gwrs, ar ôl y cyfnod cychwynnol hwnnw yn llety cychwynnol ein canolfannau croeso, cynorthwyo'r bobl sy'n cyrraedd i gael llety mwy hirdymor.
A dyma pam fy mod am ddweud eto—ac wrth gwrs, cefais gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ddoe yn fy natganiad—fod sicrhau llety mwy hirdymor yn allweddol i ddarparu cymorth i'r rheini sydd wedi'u dadleoli gan yr argyfwng yn Wcráin. Mae'n cynnwys cymysgedd o lety, gan gynnwys llety gan unigolion, y sector rhentu preifat a mathau eraill o lety trosiannol o ansawdd da. Ac mae hynny'n cynnwys tai modiwlar, cynigion a chynlluniau a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys fy awdurdod lleol fy hun, cyngor Bro Morgannwg. A chredaf ei bod yn bwysig dweud eto yn y ddadl hon fod hyn o ganlyniad i’r rhaglen gyfalaf llety trosiannol, rhaglen bwysig sydd hefyd wedi’i chynyddu o £65 miliwn i £89 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, gyda chefnogaeth gan Blaid Cymru, i sicrhau y gallwn ddarparu’r tai o ansawdd da hynny ar unwaith—y llety trosiannol hwnnw. Ac fe welwch hyn yn cael ei ddarparu ledled Cymru mewn partneriaeth â'n hawdurdodau lleol, cymdeithasau tai a chan weithio'n agos iawn ar y cyd â'n landlordiaid cymdeithasol hefyd.
Bydd ein cynllun hirdymor i gefnogi Wcreiniad yng Nghymru yn dilyn yr egwyddorion a nodir yn ein cynllun 'Cenedl Noddfa', ond byddwn yn dweud bod angen rhai atebion arnom i gwestiynau na all ond Llywodraeth y DU eu hateb. Ac fel y dywedais ddoe, mae'n bwysig ein bod yn pwyso a'n bod yn cael eich cefnogaeth i ofyn i Weinidog y DU, Felicity Buchan, ddatblygu llwybr tuag at ymgartrefu ar gyfer Wcreiniad sy'n dymuno aros yn hirdymor, a gwyddom fod angen inni wneud hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth yr Alban hefyd, ar ôl cyflwyno ein gweledigaeth hirdymor.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi gwahodd Aelodau o’r Senedd o bob plaid i’r digwyddiad i nodi ymosodiad Putin ar Wcráin ar 27 Chwefror, i gyfarfod â gwesteion, gwesteiwyr a phartneriaid o lywodraeth leol a’r trydydd sector ledled Cymru. Mae Llywodraeth y DU hefyd newydd gyhoeddi munud o dawelwch am 11 o’r gloch ar 24 Chwefror, a byddwn yn nodi hynny. Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwneud safiad cryf gyda'n gilydd y prynhawn yma i anrhydeddu a chefnogi pobl ddewr Wcráin. Sláva Ukrayíni, heróiam sláva.