Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 15 Chwefror 2023.
Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. A minnau'n dod o gefndir adsefydlu ym maes ffisiotherapi yn y GIG, mae’n braf gweld y gwaith sy’n mynd rhagddo i wella sgiliau symud o gwmpas, byw’n annibynnol a symudedd plant, er mwyn gwella bywydau pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg. Credaf y dylid dathlu hynny.
Rwyf hefyd yn falch o weld cefnogaeth Cŵn Tywys Cymru i'r syniad y tu ôl i'r cynnig hwn, gan fy mod o'r farn fod rôl cŵn tywys yn cefnogi pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg yn rhyfeddol, a bod angen dathlu hynny hefyd. Mae'n eithaf anhygoel, a dweud y gwir, pa mor amryddawn yw cŵn yn eu hyfforddiant i ddod yn gŵn tywys, a'r ffordd y maent yn gallu addasu i'w hamgylchedd, sy'n rhywbeth i'w ddathlu ynddo'i hun, gan ei fod yn cefnogi llawer o'r bobl sydd fwyaf o'u hangen. Mae'r rhan fwyaf o'r cŵn sy'n cael eu hyfforddi i fod yn gŵn tywys yn Labradoriaid ac yn adargwn, a gallant fod y bridiau cŵn mwyaf cariadus, gofalgar—barus, ond teyrngar—y dowch ar eu traws, ac maent yn gwasanaethu pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg mor dda yn eu dyletswyddau.
Rwyf fi a’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu’n gryf fod pawb yng Nghymru yn haeddu byw eu bywydau gyda chymaint o annibyniaeth â phosibl, gan gynnwys pobl ag anableddau megis dallineb a nam ar eu golwg. Fel y soniais, cŵn tywys yw'r ffordd orau yn aml i bobl â nam ar eu golwg fynd allan i fyw eu bywydau bob dydd. Mae hyfforddiant sefydlu'n galluogi pobl ifanc i fod yn bobl ifanc drwy allu dod o hyd i ffrindiau newydd a gwneud pethau normal gyda hwy, fel mynd allan i fwyta, siopa a chwarae, i nodi rhai pethau'n unig. Yn yr un modd, mae hefyd yn galluogi pobl ifanc i barhau â'u hannibyniaeth drwy addysg bellach a chyflogaeth.
Mae'n bwysig nodi hefyd fod y Ceidwadwyr Cymreig yn parchu ac yn edmygu rhieni'r bobl ifanc hyn, sef yr hyfforddwyr sefydlu cyntaf, ac maent yn gwneud gwaith gwych. Fodd bynnag, mae angen i ymarferwyr proffesiynol ddarparu hyfforddiant cymwysedig sy’n cefnogi’r bobl ifanc, a'r rhieni hefyd yn wir, ac mae’r gost o hyd at £600,000 am ddarparu o leiaf 20 o arbenigwyr sefydlu'n bris gwerth ei dalu yn fy marn i, i sicrhau bod y Senedd hon yn credu mewn rhoi annibyniaeth a’r bywyd rhwyddaf posibl i bobl ifanc Cymru. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio y prynhawn yma. Diolch.