Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 15 Chwefror 2023.
Bûm yn ffodus iawn ers cael fy ethol fy mod wedi gallu gweithio'n eithaf agos gydag Andrea Gordon. Nawr, mae hi'n gweithio i Cŵn Tywys Cymru, a thrwyddi hi, gallais gyfarfod â nifer o unigolion sydd â nam ar eu golwg ac mae wedi gwneud imi ddeall llawer mwy am eu hanghenion a'r hyn sy'n rhaid iddynt ei gael mewn bywyd. Mae rhai o'r pethau nad ydym hyd yn oed yn meddwl amdanynt yn gallu bod yn rhwystrau enfawr i bobl a phlant sydd â nam ar eu golwg, ac mae'n hanfodol ein bod ni fel Aelodau o bob plaid yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud pob agwedd ar ein cymdeithas yn hygyrch i'r rhai sydd â nam ar eu golwg, a rhai sydd ag anableddau hefyd.
I mi, hyfforddiant sefydlu yw'r allwedd i helpu i gefnogi plant a phobl ifanc am weddill eu bywydau. Mae'n mynd yn bell i'w helpu i fyw yn annibynnol, ac mae hefyd yn helpu i'w paratoi, fel y soniodd fy nghyd-Aelodau, ar gyfer coleg, gwaith, prentisiaethau, prifysgol yn y pen draw, a bywyd wedyn hefyd. Byddai hyfforddiant sefydlu'n dysgu sgiliau hanfodol y byddai plant eraill wedi'u dysgu'n draddodiadol drwy allu gweld i'r rhai sydd ag anghenion gweledol. Mae RNIB Cymru yn amcangyfrif bod yna 265 o blant sydd â nam ar eu golwg ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, a byddai pob un ohonynt yn elwa'n fawr o hyfforddiant sefydlu.
Nawr, fel y soniais, mae hyfforddiant sefydlu, sy'n rhan hanfodol o ddatblygiad addysgol plant, yn rhoi sgiliau gwrando, sgiliau cymdeithasol, hyfforddiant toiled, sgiliau gwisgo, adnabod arian, a hyd yn oed sgiliau siopa i bobl ifanc. Gall hefyd ddysgu pobl sut i deithio'n annibynnol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, asesu risg, a pharatoi eu prydau eu hunain hefyd. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma'n cytuno yn y pen draw fod y rhain yn sgiliau hanfodol y dylai pob person a phlentyn eu cael yn yr oes sydd ohoni.
Ni allwch roi pris ar ryddid ac annibyniaeth person. Fel y soniodd fy nghyd-Aelodau Gareth Davies ac Altaf Hussain, byddai cyflogi o leiaf 20 o arbenigwyr i gynnig hyfforddiant i'r oddeutu 2,000 o blant â nam ar eu golwg yng Nghymru yn costio tua £600,000 ar y mwyaf. Pan fyddwch chi'n cymharu hynny â rhai o'r symiau enfawr y mae'r Llywodraeth wedi'u gwario ar brosiectau gwamal—ac nid wyf yn mynd i ailadrodd yr hyn y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i ddweud—fel fferm Gilestone, a Maes Awyr Caerdydd, diferyn bach yn y môr ydyw mewn gwirionedd.
Mae'n hollbwysig fod y Llywodraeth hon yn cyflwyno cynllun ar gyfer y gweithlu ac yn ymgysylltu â chynghorau ledled Cymru i wneud yn siŵr fod ganddynt o leiaf un arbenigwr i bob 100 o blant sydd â nam ar eu golwg. Rydym angen sicrhau cydraddoldeb a thegwch, oherwydd nid oes dim yn fwy torcalonnus i mi ei glywed na bod plentyn yn cael ei amddifadu o wasanaethau hanfodol oherwydd system loteri cod post. Heb os, mae rhai elusennau anhygoel i'w cael, sy'n cefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg wrth symud ymlaen, ond nawr mae'n bryd i'r Llywodraeth gamu ymlaen a gweithredu. Gallwn i gyd wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau miloedd o blant â nam ar eu golwg ym mhob rhan o Gymru, felly gobeithio'n fawr y bydd pawb ohonoch yn cefnogi ein cynnig yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.