Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 15 Chwefror 2023.
Rwyf fi bob amser yn ddiolchgar i Mike am ei gyfraniadau ar hyn. Y camgymeriad gwaethaf—fe wneuthum lawer o gamgymeriadau, ond y camgymeriad gwaethaf—a wneuthum fel Gweinidog oedd herio Mike ar ariannu llywodraeth leol a chymhlethdodau'r dreth gyngor. Mae'r boen a ddioddefais bryd hynny, bron i ddegawd yn ôl, yn aros gyda mi bob dydd o fy oes, ac os na allaf gysgu am 3 o'r gloch y bore, daw Mike yn ôl i fy mreuddwydion—neu fy hunllefau—a fy atgoffa am fy methiannau. Ac rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Mike.
Ond gadewch imi ddweud hyn: efallai mai'r gwahaniaeth rhwng eich ffordd chi o feddwl a fy un i yw eich bod chi'n meddwl bod Cymru'n wlad fawr gyda sefydliadau mawr; rwy'n meddwl bod Cymru'n wlad fach, ac rwy'n credu bod gan Gymru broblemau sy'n tarddu o'r ffordd y caiff gwledydd bach eu llywodraethu. Ac mae hynny'n hollol wahanol, ac mae gennyf farn wahanol ar y materion hynny. Un o'r methiannau llywodraethu yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf yw nad ydym erioed wedi cydlynu ein ffordd o lywodraethu yng Nghymru, ac un o'r rhesymau nad ydym erioed wedi gwneud hynny yw bod pob un ohonom yn gwybod ein bod wedi creu gormod o sefydliadau, gormod o strwythurau, gormod o brosesau, gormod o bwyllgorau, gormod o gomisiynau ond nid oes yr un ohonom yn barod i ofyn y cwestiynau anodd ac i wynebu hynny.
Fel Gweinidog, gofynnais i Aelod blaenllaw o Blaid Cymru a fyddent yn cefnogi ad-drefnu llywodraeth leol. Heb oedi i gymryd anadl, dywedodd y person hwnnw, 'Byddwn, yn sicr, yn ddigamsyniol, ond mae angen ichi neilltuo Ynys Môn ac mae angen i chi neilltuo Ceredigion.' Gofynnais yr un cwestiwn i Aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol, 'A fyddech chi'n cefnogi ad-drefnu llywodraeth leol?' 'Byddwn, yn ddigamsyniol, dim problem o gwbl, ond byddai'n rhaid i chi neilltuo sir Fynwy.' Ni wnaethant sôn am Aberconwy. Ac roedd y Llywodraeth Lafur ar y pryd, gydag un eithriad, yn gyfan gwbl o blaid ad-drefnu llywodraeth leol, ac rwy'n aml yn meddwl am hynny. Fodd bynnag, yr hyn y credaf fod angen inni ei wneud, a dyma lle rwy'n credu bod yna gysylltiad ac rwy'n ceisio estyn allan i ddod o hyd i'r cysylltiad hwn â Mike, yw bod angen inni greu cydlyniaeth wrth lywodraethu Cymru, oherwydd rydym yn treulio ein holl amser yn dadlau am yr hyn sy'n mynd i fyny ac i lawr yr M4, ond nid ydym yn creu cydlyniaeth o fewn y wlad. Ac i rywun fel fi, sydd eisiau dosbarthu mwy o bwerau y tu allan i'r Siambr hon, a thu allan i Gaerdydd, mae hynny'n golygu cael y strwythurau sy'n gallu defnyddio ac sydd â gallu i wneud y defnydd gorau o'r pwerau ychwanegol hynny.
Felly, os ydym o ddifrif ynglŷn â grymuso cymunedau ar hyd a lled Cymru, mae'n rhaid inni gael y strwythurau a'r modd o ariannu'r rheini—strwythurau sy'n gweithio go iawn i'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny. Ac nid wyf yn credu ein bod wedi gwneud hynny. Ac rwy'n credu bod pob un ohonom, ble bynnag rydym yn eistedd yn y Siambr—. Rwy'n sylwi bod Jane Dodds yma, felly ni wnaf sôn am embaras fy nadleuon gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar ad-drefnu llywodraeth leol lle'r oedd cytundeb llwyr, ond awydd i'w wneud ar sail wardiau unigol. Felly, byddai gennym 800 o sgyrsiau gwahanol am ba wardiau a fyddai'n perthyn i wahanol awdurdodau. Mae angen inni fod o ddifrif ynglŷn â sut y gwnawn hynny, ac mae hynny'n golygu, gyda'n gilydd, fod angen dadl gydlynol a deallus a phellweledol a llai hunanol.