9. Dadl Fer: Strwythur gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: Ydyn ni wedi'i gael yn iawn?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:01, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

A yw uno bob amser yn iawn? O'r uchod, gellir gweld bod y cyfeiriad teithio tuag at lai o sefydliadau mwy o faint. Mae'r rhai sy'n edrych arno ond yn cyfrifo'r arbedion. Fodd bynnag, mae uno'n ddrud; mae gennych gostau diswyddo, costau ailfathodynnu, ac yn fwyaf drud byth, creu un system TGCh o systemau'r sefydliadau rhagflaenol. Bydd unrhyw un a aeth drwy ad-drefnu llywodraeth leol yn 1995 yn gallu dweud wrthych am y costau enfawr a gafwyd, ac roedd y rhan fwyaf o'r newidiadau drwy hollti yn hytrach nag uno. Mae'n eithriadol o ddrud.

Systemau TGCh—gallwn siarad am oriau ar hyn. Bydd rhai o dan gytundeb; bydd angen diweddaru neu gau eraill a'u huno mewn systemau newydd. Edrychwch ar CNC, lle defnyddiwyd buddsoddi-i-arbed i achub gwasanaethau TGCh y sefydliad ar sawl achlysur. Mae'r rhain i gyd yn gostau cychwynnol, ac er bod cost ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 tua 5 y cant o wariant blynyddol pob cyngor, roedd hynny heb yr amrywiadau yn y telerau ac amodau rhwng awdurdodau lleol sy'n bodoli heddiw. Byddai'n hynod o anodd uno awdurdodau lleol heddiw oherwydd mae gennym sefyllfa, onid oes, lle rydym wedi mynd drwy werthuso swyddi. Felly, os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol yng Nghastell-nedd Port Talbot neu'n weithiwr cymdeithasol yn Abertawe, ni chewch yr un tâl, er yr hoffai llawer ohonom pe bai yr un fath. Aethant drwy eu gwerthusiadau swyddi gwahanol eu hunain. Mewn gwirionedd, mae'n well bod yn weithiwr cymdeithasol yn Abertawe a gweithio mewn llyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot, o ran yr hyn a gawsant drwy werthuso swyddi.

Casgliadau gor-syml rhai pobl yw bod yr holl ddyblygu swyddi uwch yn cael ei ddileu yn sgil uno, ac yna mae gennych chi'r holl arbedion gwych. Mae hyn yn anwybyddu materion fel y ffaith bod uwch-reolwyr yn cyflawni tasgau ac os yw'r nifer yn cael ei leihau, mae'n rhaid ailbennu'r tasgau ac mae'n rhaid gwneud yr un nifer o benderfyniadau. Mae theori economaidd yn datgan bod sefydliad yn mynd yn llai effeithlon os yw'n mynd yn rhy fawr. Mae sefydliadau mwy o faint yn aml yn dioddef yn sgil cyfathrebu gwael am eu bod yn ei chael hi'n anodd cynnal llif effeithiol o wybodaeth rhwng adrannau, is-adrannau, neu rhwng y brif swyddfa a rhannau anghysbell. Roeddwn yn gobeithio y byddai rhywun o ardal Betsi Cadwaladr wedi dod i mewn i esbonio sut yn union y gwyddant fod hynny'n wir. Mae problemau cydlynu hefyd yn effeithio ar sefydliadau mawr sydd â llawer o adrannau ac is-adrannau, gan eu bod yn ei chael hi'n llawer anos cydlynu gweithrediadau. 'X-aneffeithlonrwydd' yw'r effeithlonrwydd rheoli sy'n cael ei golli pan fydd sefydliadau'n dod yn fawr ac yn gweithredu mewn marchnadoedd anghystadleuol. Mae colledion effeithlonrwydd o'r fath yn cynnwys gordalu am adnoddau, talu cyflogau uwch nag sydd angen i reolwyr—rwy'n credu bod pobl wedi canfod hynny ar sawl achlysur hefyd—a gormod o wastraffu adnoddau.

Mae hyn yn arwain at dri chwestiwn ynghylch gwasanaethau cyhoeddus fel y maent wedi'u cyflunio ar hyn o bryd. A yw'r sefydliadau mwy fel Betsi Cadwaladr yn perfformio'n well na'r rhai llai? A yw creu sefydliadau ar gyfer Cymru gyfan fel gwasanaeth ambiwlans Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cynhyrchu gwasanaeth gwell? A yw'r gostyngiad yn nifer y sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaeth fel yr asiantaeth cefnffyrdd, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi gwella'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu? Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod angen yr un ôl troed rhanbarthol arnom ar gyfer yr holl wasanaethau cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu.

I roi enghraifft o'r anghysonderau cyfredol, mae gan y rhai ohonom sy'n byw yn Abertawe ôl troed rhanbarthol gwahanol ar gyfer bron bob gwasanaeth. Ar gyfer iechyd, Abertawe Castell Nedd Port Talbot ydyw; ar gyfer tân ac achub, rydym yn ychwanegu sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a sir Benfro; gwella addysg, yr un peth; ond mae plismona, sydd heb ei ddatganoli ar hyn o bryd, yn cynnwys yr holl hen sir Forgannwg heblaw Caerffili; ac yn olaf, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn darparu ar gyfer Cymru gyfan. Y nod ddylai fod cael yr holl wasanaethau o fewn y pedwar ôl troed: dinas-ranbarth Caerdydd, dinas-ranbarth bae Abertawe, rhanbarth canolbarth Cymru a rhanbarth gogledd Cymru. Roedd hi'n hen bryd hollti Cymru yn bedwar rhanbarth, ac mae wedi rhoi cyfle inni wneud pethau'n iawn. Er y gallai gwasanaethau fod ar ôl troed llai na'r rhanbarthau, ac mewn sawl achos, fe fyddant, ni ddylai unrhyw wasanaeth dorri ar draws y ffiniau rhanbarthol oni bai ei fod yn wasanaeth Cymru-gyfan, rhywbeth a ddylai fod yn brin iawn. Bydd hyn yn caniatáu i waith rhanbarthol ar draws gwasanaethau gael ei wneud yn llawer haws.

Nid oes dim sy'n gynhenid dda am strwythur presennol llywodraeth leol yng Nghymru. Pam y cafodd cynghorau Rhondda, Cwm Cynon a Thaf Elái eu huno ond bod cynghorau dosbarth Blaenau Gwent a Merthyr Tudful wedi troi'n awdurdodau unedol heb unrhyw uno? Ni ddylid ystyried newid oni bai lle ceir gobaith cryf o wella gwasanaethau a/neu leihau cost dros y tymor canolig oherwydd y gost gychwynnol sy'n deillio o newid. Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn trafod ad-drefnu llywodraeth leol fel pe bai'n rhyw fath o ateb hollgynhwysol i ddatrys y diffyg cyllid i gynghorau, ciliodd y bygythiad o ad-drefnu, cyn ei adfer eto ac mae bellach wedi cilio eto, ond rwy'n disgwyl y caiff ei adfer eto. Roedd fel pe bai neb wedi clywed am y ddamcaniaeth economaidd sy'n datgan y gallai sefydliad ddod yn llai effeithlon os daw'n rhy fawr neu fod yna wrth-ddarbodion maint. Mae angen dull gwahanol o weithio ar y cyd ar wasanaethau gwahanol, a chaiff rhai eu gwneud yn well ar y cyd, ond mae'r rhan fwyaf yn gweithio orau ar lefel bresennol yr awdurdod lleol. Enghreifftiau o wasanaethau a fyddai'n elwa o fodel cydweithio yn seiliedig ar yr ôl troed rhanbarthol yw trafnidiaeth, datblygu economaidd a chynllunio rhanbarthol. 

Gadewais y peth anoddaf at y diwedd. Byddwn yn croesawu clywed y Gweinidog yn esbonio pa mor dda y mae Betsi Cadwaladr, CNC a gwasanaeth ambiwlans Cymru yn perfformio, oherwydd mae'n ymddangos ei fod yn mynd yn groes i unrhyw beth y deuthum ar ei draws, ar ôl ymwneud ag etholwyr sydd wedi cael problemau gyda hwy. Nid yw cael cadeiryddion, byrddau a phrif weithredwyr newydd wedi datrys y problemau yn Betsi Cadwaladr. Os ydych chi'n parhau i feddwl y gallwch gael cadeirydd a phrif weithredwr ac y bydd popeth yn iawn—. Ni allaf gyfrif faint o gadeiryddion a phrif weithredwyr a fu gan Betsi Cadwaladr, ac mae wedi cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, ac nid wyf yn meddwl bod unrhyw un yn mynd i godi a dweud, 'Maent wedi'i gael yn iawn nawr.'

Os edrychwch ar Betsi Cadwaladr o ran swyddogaethau cymorth, gofal sylfaenol a gofal eilaidd, er y gall y ddau gyntaf weithio ar yr ôl troed presennol, rhaid rhannu gofal eilaidd rhwng y dwyrain a'r gorllewin. O ran hollti gwasanaeth ambiwlans Cymru fel ei fod yn cael ei redeg gan y byrddau iechyd, er y byddwn fel arfer yn dweud nad ad-drefnu yw'r ateb, yn achos y gwasanaeth ambiwlans, a allai ad-drefnu wneud unrhyw beth yn waeth? Nid yw CNC yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Er bod uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn seiliedig ar ryw fath o resymeg, nid oedd unrhyw resymeg o gwbl i ychwanegu'r Comisiwn Coedwigaeth.

Yn olaf, wrth chwilio am fodel gwasanaethau rhabarthol, ni ddylai unrhyw wasanaeth, oni bai ei fod yn wasanaeth cenedlaethol, groesi'r ffin ranbarthol. Dylai tân ac achub ddod yn bedwar nid tri, gyda Phowys a Cheredigion yn hollti oddi wrth ganolbarth a gorllewin Cymru. Crëwyd Cymru bedwar rhanbarth, ac mae angen inni ddefnyddio'r ôl troed hwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Dylem edrych ar gael maint sefydliadau'n iawn, yn hytrach na'u gwneud yn fwy ac yn fwy. Rwyf am orffen gyda hyn: a oes unrhyw un yn meddwl bod y gwasanaeth gyrfaoedd wedi gwella am mai dim ond un gwasanaeth gyrfaoedd a geir ar gyfer Cymru, neu a ydych chi'n meddwl ei fod wedi gwaethygu? Rwyf fi o'r farn ei fod wedi gwaethygu.