Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 28 Chwefror 2023.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am roi copi ymlaen llaw o'i ddatganiad? Fel y gwyddoch chi, rydyn ni ar y meinciau hyn wedi bod yn galw am gyflwyno eich strategaeth sgiliau sero net am fisoedd lawer, felly rydyn ni'n falch ei fod wedi'i gyhoeddi o'r diwedd. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle: mae gennym ni waith enfawr i'w wneud os ydyn ni am gyrraedd sero net erbyn 2050, ac mae gennym ni lawer o sgiliau y mae eu hangen ar ein gweithlu er mwyn gallu mynd â ni dros y llinell derfyn.
Nid yw byth yn peidio â fy synnu pa mor gyflym y caiff pethau a oedd yn brin ar un adeg, fel paneli solar ar doeau pobl, eu mabwysiadu gan bobl, yn enwedig pan fo prisiau ynni wedi bod mor uchel. Nid yw'r prinder sgiliau yn hynny o beth yn cymharu â'r prinder enfawr y byddwn yn ei gael o ran yr ymrwymiadau ynni adnewyddadwy ehangach sydd gennym ni—ar gyfer gallu gosod ffermydd gwynt newydd, ar y tir ac ar y môr fel ei gilydd, ac, wrth gwrs, ar gyfer gwireddu ein huchelgeisiau ni i sicrhau y byddwn ni'n manteisio ar yr ynni y gellir ei gynhyrchu gan y llanw o gwmpas arfordir Cymru hefyd.
Nawr, yn amlwg, rydych chi wedi sôn am lawer o bethau yn eich strategaeth. Yn sicr, rydyn ni'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol sydd am fynd i gyfrifon dysgu personol pobl. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n hyrwyddo'r rhai sydd â chyflogwyr oherwydd y buddion y gallan nhw eu cyflwyno i'w gweithlu yn ogystal â'r unigolion eu hunain, a fydd, gobeithio, yn manteisio ar yr adnoddau newydd hynny.
Unwaith eto, rydych chi wedi cyfeirio at y cwricwlwm newydd a'r cyfleoedd y mae hwnnw'n eu cyflwyno. Rydyn ni'n gwybod bod newid hinsawdd yn rhywbeth sy'n ymddangos yn y cwricwlwm hwnnw, a gobeithio y bydd hynny'n ysgogi ein pobl ifanc ni i chwilio am gyfleoedd a gyrfaoedd mewn meysydd a all helpu i fynd i'r afael â her newid hinsawdd. Ond, mae angen i ni wneud hynny drwy ddod â nhw gyda ni, ac un o'r pethau na wnaethoch chi ei grybwyll yn eich datganiad yw cyngor gyrfaoedd, a phwysigrwydd cyngor gyrfaoedd pan fydd pobl yn gwneud dewisiadau ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid i mi ddweud, fy marn bersonol yw bod ein cyngor ar yrfaoedd, yn enwedig i bobl ifanc mewn ysgolion, braidd yn siomedig; nid yw'n dda iawn nac yn hyrwyddo'r cyfleoedd ehangach sydd ar gael bob amser, yn enwedig o ran prentisiaethau. Rwy'n credu bod angen mwy o ganolbwyntio ar hyn gan Lywodraeth Cymru i wella'r cynnig hwnnw a gwella ansawdd y cyngor hwnnw o ran gyrfaoedd.
Fe wnaethoch chi sôn am brentisiaethau, yn amlwg, a'u swyddogaeth wrth fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau. Mae hi'n bwysig bod â'r cysylltiadau hynny â'r diwydiant, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio meithrin y cysylltiadau hynny, yn enwedig gyda chyflogwyr mwy. Ond mae yna lawer iawn o gyflogwyr llai nad ydyn nhw bob amser yn meddwl bod amser ganddyn nhw i allu datblygu cyfleoedd prentisiaeth o fewn eu gweithluoedd eu hunain—nid ydyn nhw'n sylweddoli pa fanteision a ddaw yn sgil hynny. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi am ei wneud i estyn allan i'r cwmnïau llai a chanolig hynny, efallai lle mae perchnogion a chyfarwyddwyr y busnesau hynny'n brysur yn rhuthro o gwmpas yn gwneud pob math o bethau eraill, a'r peth diwethaf sydd ei angen arnyn nhw yw'r gwaith ychwanegol o ran ceisio datblygu rhaglen brentisiaeth, pan, mewn gwirionedd, fe allai hynny fod yn weddol syml, gyda'r gefnogaeth a'r ymgysylltu priodol gan golegau addysg bellach lleol ac eraill i helpu i ddarparu'r rhaglenni hynny.
Yn ogystal â hynny, rydych chi wedi cyfeirio at yr angen am fonitro parhaus o ran y sgiliau angenrheidiol, oherwydd, wrth gwrs, fe fydd angen sgiliau amgen yn 2040 nag sydd eu hangen nawr, oherwydd fe fydd y technolegau yn datblygu. Felly, a fydd hon yn ddogfen nawr a fydd yn cael ei hadnewyddu yn rheolaidd? Oherwydd, yn amlwg, fe fydd angen edrych ar hyn yn weddol reolaidd, fe fyddwn i'n gobeithio, er mwyn i ni fod â gweithlu sy'n addas i'r dyfodol ac sy'n bodloni'r dyheadau sydd gan bob un ohonom ni.
Rydyn ni'n gwybod bod prinder sgiliau gennym ni mewn rhai meysydd eisoes. Pan fyddwch chi'n ceisio cael gafael ar gontractwyr i wneud rhywfaint o waith ar hyn o bryd, hyd yn oed o ran addasiadau cartref ar gyfer ynni adnewyddadwy, fe all hi fod yn anodd cael trefn ar bethau mewn modd amserol. Wrth gwrs, mae hynny wedyn yn cyflwyno risg ychwanegol i'r system, oherwydd fe all pobl ofyn i rai diegwyddor, sydd wedyn yn tanseilio llwyddiant unrhyw raglenni yr ydym ni'n dymuno eu gweld. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd yn y tymor byrrach i wneud yn siŵr bod cynlluniau priodol ar waith i roi sicrwydd, pan fydd sgiliau ar gael y gall pobl eu hadnabod, yn yr un ffordd ag yr ydym yn gwybod pwy sy'n blymwyr CORGI a phethau felly, fel y gallwn ni wybod pwy yw'r bobl hynny a achredwyd i gyflawni peth o'r gwaith a fydd yn cael ei wneud, yn sicr yn y pump neu chwe blynedd nesaf, pan fydd pobl yn chwilio am yr addasiadau hynny i'w cartrefi yn arbennig felly?