4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:12, 28 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyhoeddi'r cynllun gweithredu sgiliau sero net heddiw. Mae'r cynllun yn gam cyntaf pwysig i ddeall swyddogaeth sgiliau wrth bontio'n deg i sero net. Mae ein huchelgeisiau sero net yn cynnwys dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i bawb ohonom. Mae sgiliau yn un o'r prif ysgogiadau i gyflawni'r uchelgeisiau hyn, i sicrhau bod y pontio yn deg ac nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn profi baich annheg o ran costau'r newid.

Mae'r her o ran ein hymrwymiad sero net yn enfawr, ac fe fydd angen dull cydweithredol ar ein hanghenion sgiliau yn y dyfodol ar draws yr economi gyfan. Wrth lunio'r cynllun, rydyn ni wedi gweithio ar draws y Llywodraeth, gyda rhanddeiliaid allanol a phartneriaid allweddol i fod â darlun o'r dirwedd sgiliau sero net yn ôl yr wyth sector allyriadau a nodir yn Cymru Sero Net. Dechrau'r daith yw'r cynllun hwn. Nid ydym ni'n honni bod â'r atebion i gyd eisoes. Mae'r cynllun yn blaenoriaethu saith maes allweddol ac yn cynnwys 36 o gamau. Mae'n nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi pontio teg i sero net trwy ymagwedd sy'n fwy cydgysylltiedig.

Mae'r ddealltwriaeth yn gymysg o ran y sefyllfa sgiliau gyfredol a'r anghenion o ran sgiliau yn y dyfodol ar gyfer pob sector allyriadau yng Nghymru. Mae rhai sectorau wedi mynd ymhellach ar eu taith nag eraill, ac mae rhywfaint o ddryswch mewn rhai sectorau o ran sut y bydd sero net yn effeithio ar anghenion eu gweithlu yn y dyfodol. Wrth i ni drosglwyddo at economi sero net, fe fydd yr anghenion o ran sgiliau yn esblygu ac yn dod yn fwy eglur. Serch hynny, yn y cyfamser, fe fydd yr ansicrwydd yn golygu nad yw'r darlun yn sefydlog ac rydyn ni'n cydnabod yr angen am ragor o waith i ddeall y dirwedd sgiliau newidiol.

Felly, rydyn ni am ddechrau drwy edrych ar y dirwedd sgiliau mewn mwy o fanylder. Fe fyddaf i'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ofynion sgiliau penodol y sector. Fe fydd hwnnw'n nodi ein dealltwriaeth bresennol o'r sefyllfa o ran sgiliau ar gyfer pob sector, pa sgiliau sydd eu hangen yn y tymor byr, canolig a hir, a sut i gyflawni hynny gyda gwaith parhaus mewn partneriaeth. Fe fydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu map ffordd sgiliau ar gyfer pob sector allyriadau, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a buddsoddi sgiliau yn y dyfodol.

Mae ein hymgysylltiad ni â rhanddeiliaid yn awgrymu bod rhywfaint o ddryswch a diffyg dealltwriaeth ymhlith rhai busnesau, gweithwyr a'r rhai sy'n gadael yr ysgol ynglŷn â'r hyn a olygir gan swyddi gwyrdd neu sero net a'r sgiliau angenrheidiol. Mae angen i ni feithrin dealltwriaeth gyffredin ynglŷn â sgiliau sero net ledled Cymru. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi dehongli sgiliau sero net yn fras fel sgiliau y mae eu hangen i gefnogi pob sector ar eu llwybr hyd sero net ledled yr economi gyfan. O ganlyniad i hynny, mae i bob swydd bosibiliadau o ran cyfrannu at helpu i gyflawni ein hymrwymiad sero net. Mae taer angen i fanylu ar y diffiniad a chael dealltwriaeth gyffredin o'r swyddi a'r sgiliau sydd eu hangen gyda llif eglur o wybodaeth rhwng y Llywodraeth, sectorau cyhoeddus a phreifat a gweithwyr ynglŷn â'r sgiliau sydd eu hangen. Fe fyddwn yn defnyddio canlyniad ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r diffiniad arfaethedig o 'swydd werdd' i helpu i lywio'r diffiniad i Gymru.

Mae angen i ni feithrin gweithlu medrus ac amrywiol a chreu swyddi o ansawdd i gyflawni ein hymrwymiadau sero net mewn economi sy'n newid yn gyflym fel hon. Mae'r heriau o ran sgiliau ein gweithlu yn real iawn ar hyn o bryd. Mae angen i ni ymateb i'r galw cynyddol o wahanol sectorau fel y bydd mwy o bobl yn ennill sgiliau sero net. Heb gymryd camau pellach ni fydd ein hymrwymiadau sero net yn cael eu cyflawni. Bydd cynorthwyo pobl i uwchsgilio yn y sectorau presennol a defnyddio eu sgiliau a'u cymwysterau presennol yn allweddol i helpu pontio o fewn sectorau.

Dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi £10 miliwn ychwanegol mewn cyfrifon dysgu personol eleni i helpu i uwchsgilio unigolion cyflogedig i helpu i fodloni'r bylchau sydd gennym ni mewn sgiliau, i'w helpu i sicrhau eu dyfodol eu hunain. O fewn hynny, dyrannwyd £1.5 miliwn ychwanegol i'r cynllun peilot cyfrif dysgu personol gwyrdd a lansiwyd gennyf i ym mis Hydref. Fe fydd hynny'n darparu buddsoddiad o gyfanswm o £3.5 miliwn eleni i gefnogi sgiliau uniongyrchol yn y sectorau adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu a pheirianneg.

Fodd bynnag, mae hi'n amlwg nad ydym ni'n dechrau o'r dechrau. Ceir llawer o lwyddiannau ledled Cymru, a rhai ohonyn nhw'n enghreifftiau yn y cynllun. Mae'r rhain yn dangos yr effeithiau a'r manteision adeiladol y gellir eu sicrhau drwy gyflawni newidiadau a buddsoddi mewn sgiliau. Gan weithio gyda chyrff y diwydiant a phartneriaid allweddol, fe fyddwn ni'n parhau i archwilio cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd ac arloesol o feithrin ein gweithlu yn y dyfodol.

Rydyn ni'n cydnabod yr angen i ni gryfhau'r system sgiliau i fodloni'r galw am sgiliau sy'n cynyddu yn gyflym o bob rhan o'r sector. Fe fydd cydweithio rhwng addysg bellach ac addysg uwch, prentisiaethau, darpariaeth ddysgu ehangach, undebau llafur a diwydiant yn ein helpu ni i ddarparu'r cynnig a'r dilyniant addas i ddysgwyr mewn ffordd sy'n fwy cydlynol.

Fel y gwyddom ni, mae prentisiaethau yn codi lefelau sgiliau, yn helpu i ysgogi mwy o gynhyrchiant, a chreu cymunedau sy'n fwy cadarn. Rydyn ni'n archwilio dewisiadau o ran sut y gall y fframweithiau prentisiaethau gyflawni ein hymrwymiadau sero net ymhellach, ond gan adeiladu ar y sylfeini cryf hyn, ac rydyn ni'n ystyried ymestyn y cynnig o gyrsiau byr i ychwanegu at a mireinio sgiliau sero net i brentisiaid ifanc mewn technolegau a thechnegau newydd a datblygol gyda'n cyfrifon dysgu personol ni.

Rydyn ni'n cydnabod yr angen i ni hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer y blynyddoedd cynnar a phobl ifanc i wireddu eu posibiliadau. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn amlwg yn rhan allweddol o weithlu'r dyfodol, ac mae'n rhaid i ni eu hysgogi nhw, ymgysylltu â nhw a'u harfogi i ddeall eu cyfleoedd gyrfaol yn effeithiol mewn byd gwaith newidiol. Mae cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd yn gyfle rhagorol i gysoni ein blaenoriaethau. Mae'r cynllun hwn yn nodi camau gweithredu i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo ymgysylltiad ar gyfer magu hyder a bod â gwybodaeth am fyd gwaith.

Rydyn ni'n gwybod na allwn ni fynd i'r afael â'r her ar ein pennau ein hunain, felly bydd gwaith trawslywodraeth a gweithio mewn partneriaeth yn gonglfeini yn ein dull ni o weithredu. Wrth i ni symud at y cyfnod gweithredu, fe fyddwn ni'n parhau â'r dull partneriaeth hwnnw ar draws yr economi gyfan, gan geisio defnyddio'r cryfderau sy'n cael eu darparu gan ein ffordd ni o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Fe ddylai cyflwyno pontio teg olygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, felly fe fyddem ni'n annog unigolion i fod yn rhan o'r sgwrs, i hyrwyddo diwylliant adeiladol sy'n annog tegwch a chydraddoldeb yn y ffordd yr ydym ni'n ysgogi newid.

Ein cynllun hirdymor ni o hyd yw cyflawni Cymru decach, gryfach, wyrddach i bob un ohonom ni, a buddsoddi yn y sgiliau i wneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr i gyflawni'r cynllun gweithredu sgiliau sero net hwn, ac wrth gwrs busnesau, undebau llafur a phartneriaid eraill y tu allan i'r Siambr hon.