– Senedd Cymru am 3:12 pm ar 28 Chwefror 2023.
Eitem 4 y prynhawn yma yw'r ail ddatganiad gan Weinidog yr Economi, strategaeth sgiliau sero net, a galwaf ar y Gweinidog, Vaughan Gething, unwaith eto.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyhoeddi'r cynllun gweithredu sgiliau sero net heddiw. Mae'r cynllun yn gam cyntaf pwysig i ddeall swyddogaeth sgiliau wrth bontio'n deg i sero net. Mae ein huchelgeisiau sero net yn cynnwys dyfodol gwell, tecach a gwyrddach i bawb ohonom. Mae sgiliau yn un o'r prif ysgogiadau i gyflawni'r uchelgeisiau hyn, i sicrhau bod y pontio yn deg ac nad yw'r rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn profi baich annheg o ran costau'r newid.
Mae'r her o ran ein hymrwymiad sero net yn enfawr, ac fe fydd angen dull cydweithredol ar ein hanghenion sgiliau yn y dyfodol ar draws yr economi gyfan. Wrth lunio'r cynllun, rydyn ni wedi gweithio ar draws y Llywodraeth, gyda rhanddeiliaid allanol a phartneriaid allweddol i fod â darlun o'r dirwedd sgiliau sero net yn ôl yr wyth sector allyriadau a nodir yn Cymru Sero Net. Dechrau'r daith yw'r cynllun hwn. Nid ydym ni'n honni bod â'r atebion i gyd eisoes. Mae'r cynllun yn blaenoriaethu saith maes allweddol ac yn cynnwys 36 o gamau. Mae'n nodi ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi pontio teg i sero net trwy ymagwedd sy'n fwy cydgysylltiedig.
Mae'r ddealltwriaeth yn gymysg o ran y sefyllfa sgiliau gyfredol a'r anghenion o ran sgiliau yn y dyfodol ar gyfer pob sector allyriadau yng Nghymru. Mae rhai sectorau wedi mynd ymhellach ar eu taith nag eraill, ac mae rhywfaint o ddryswch mewn rhai sectorau o ran sut y bydd sero net yn effeithio ar anghenion eu gweithlu yn y dyfodol. Wrth i ni drosglwyddo at economi sero net, fe fydd yr anghenion o ran sgiliau yn esblygu ac yn dod yn fwy eglur. Serch hynny, yn y cyfamser, fe fydd yr ansicrwydd yn golygu nad yw'r darlun yn sefydlog ac rydyn ni'n cydnabod yr angen am ragor o waith i ddeall y dirwedd sgiliau newidiol.
Felly, rydyn ni am ddechrau drwy edrych ar y dirwedd sgiliau mewn mwy o fanylder. Fe fyddaf i'n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ofynion sgiliau penodol y sector. Fe fydd hwnnw'n nodi ein dealltwriaeth bresennol o'r sefyllfa o ran sgiliau ar gyfer pob sector, pa sgiliau sydd eu hangen yn y tymor byr, canolig a hir, a sut i gyflawni hynny gyda gwaith parhaus mewn partneriaeth. Fe fydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu map ffordd sgiliau ar gyfer pob sector allyriadau, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a buddsoddi sgiliau yn y dyfodol.
Mae ein hymgysylltiad ni â rhanddeiliaid yn awgrymu bod rhywfaint o ddryswch a diffyg dealltwriaeth ymhlith rhai busnesau, gweithwyr a'r rhai sy'n gadael yr ysgol ynglŷn â'r hyn a olygir gan swyddi gwyrdd neu sero net a'r sgiliau angenrheidiol. Mae angen i ni feithrin dealltwriaeth gyffredin ynglŷn â sgiliau sero net ledled Cymru. Hyd yn hyn, rydyn ni wedi dehongli sgiliau sero net yn fras fel sgiliau y mae eu hangen i gefnogi pob sector ar eu llwybr hyd sero net ledled yr economi gyfan. O ganlyniad i hynny, mae i bob swydd bosibiliadau o ran cyfrannu at helpu i gyflawni ein hymrwymiad sero net. Mae taer angen i fanylu ar y diffiniad a chael dealltwriaeth gyffredin o'r swyddi a'r sgiliau sydd eu hangen gyda llif eglur o wybodaeth rhwng y Llywodraeth, sectorau cyhoeddus a phreifat a gweithwyr ynglŷn â'r sgiliau sydd eu hangen. Fe fyddwn yn defnyddio canlyniad ymgynghoriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r diffiniad arfaethedig o 'swydd werdd' i helpu i lywio'r diffiniad i Gymru.
Mae angen i ni feithrin gweithlu medrus ac amrywiol a chreu swyddi o ansawdd i gyflawni ein hymrwymiadau sero net mewn economi sy'n newid yn gyflym fel hon. Mae'r heriau o ran sgiliau ein gweithlu yn real iawn ar hyn o bryd. Mae angen i ni ymateb i'r galw cynyddol o wahanol sectorau fel y bydd mwy o bobl yn ennill sgiliau sero net. Heb gymryd camau pellach ni fydd ein hymrwymiadau sero net yn cael eu cyflawni. Bydd cynorthwyo pobl i uwchsgilio yn y sectorau presennol a defnyddio eu sgiliau a'u cymwysterau presennol yn allweddol i helpu pontio o fewn sectorau.
Dyna pam rydyn ni wedi buddsoddi £10 miliwn ychwanegol mewn cyfrifon dysgu personol eleni i helpu i uwchsgilio unigolion cyflogedig i helpu i fodloni'r bylchau sydd gennym ni mewn sgiliau, i'w helpu i sicrhau eu dyfodol eu hunain. O fewn hynny, dyrannwyd £1.5 miliwn ychwanegol i'r cynllun peilot cyfrif dysgu personol gwyrdd a lansiwyd gennyf i ym mis Hydref. Fe fydd hynny'n darparu buddsoddiad o gyfanswm o £3.5 miliwn eleni i gefnogi sgiliau uniongyrchol yn y sectorau adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu a pheirianneg.
Fodd bynnag, mae hi'n amlwg nad ydym ni'n dechrau o'r dechrau. Ceir llawer o lwyddiannau ledled Cymru, a rhai ohonyn nhw'n enghreifftiau yn y cynllun. Mae'r rhain yn dangos yr effeithiau a'r manteision adeiladol y gellir eu sicrhau drwy gyflawni newidiadau a buddsoddi mewn sgiliau. Gan weithio gyda chyrff y diwydiant a phartneriaid allweddol, fe fyddwn ni'n parhau i archwilio cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd ac arloesol o feithrin ein gweithlu yn y dyfodol.
Rydyn ni'n cydnabod yr angen i ni gryfhau'r system sgiliau i fodloni'r galw am sgiliau sy'n cynyddu yn gyflym o bob rhan o'r sector. Fe fydd cydweithio rhwng addysg bellach ac addysg uwch, prentisiaethau, darpariaeth ddysgu ehangach, undebau llafur a diwydiant yn ein helpu ni i ddarparu'r cynnig a'r dilyniant addas i ddysgwyr mewn ffordd sy'n fwy cydlynol.
Fel y gwyddom ni, mae prentisiaethau yn codi lefelau sgiliau, yn helpu i ysgogi mwy o gynhyrchiant, a chreu cymunedau sy'n fwy cadarn. Rydyn ni'n archwilio dewisiadau o ran sut y gall y fframweithiau prentisiaethau gyflawni ein hymrwymiadau sero net ymhellach, ond gan adeiladu ar y sylfeini cryf hyn, ac rydyn ni'n ystyried ymestyn y cynnig o gyrsiau byr i ychwanegu at a mireinio sgiliau sero net i brentisiaid ifanc mewn technolegau a thechnegau newydd a datblygol gyda'n cyfrifon dysgu personol ni.
Rydyn ni'n cydnabod yr angen i ni hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer y blynyddoedd cynnar a phobl ifanc i wireddu eu posibiliadau. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn amlwg yn rhan allweddol o weithlu'r dyfodol, ac mae'n rhaid i ni eu hysgogi nhw, ymgysylltu â nhw a'u harfogi i ddeall eu cyfleoedd gyrfaol yn effeithiol mewn byd gwaith newidiol. Mae cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd yn gyfle rhagorol i gysoni ein blaenoriaethau. Mae'r cynllun hwn yn nodi camau gweithredu i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo ymgysylltiad ar gyfer magu hyder a bod â gwybodaeth am fyd gwaith.
Rydyn ni'n gwybod na allwn ni fynd i'r afael â'r her ar ein pennau ein hunain, felly bydd gwaith trawslywodraeth a gweithio mewn partneriaeth yn gonglfeini yn ein dull ni o weithredu. Wrth i ni symud at y cyfnod gweithredu, fe fyddwn ni'n parhau â'r dull partneriaeth hwnnw ar draws yr economi gyfan, gan geisio defnyddio'r cryfderau sy'n cael eu darparu gan ein ffordd ni o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Fe ddylai cyflwyno pontio teg olygu nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, felly fe fyddem ni'n annog unigolion i fod yn rhan o'r sgwrs, i hyrwyddo diwylliant adeiladol sy'n annog tegwch a chydraddoldeb yn y ffordd yr ydym ni'n ysgogi newid.
Ein cynllun hirdymor ni o hyd yw cyflawni Cymru decach, gryfach, wyrddach i bob un ohonom ni, a buddsoddi yn y sgiliau i wneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr i gyflawni'r cynllun gweithredu sgiliau sero net hwn, ac wrth gwrs busnesau, undebau llafur a phartneriaid eraill y tu allan i'r Siambr hon.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am roi copi ymlaen llaw o'i ddatganiad? Fel y gwyddoch chi, rydyn ni ar y meinciau hyn wedi bod yn galw am gyflwyno eich strategaeth sgiliau sero net am fisoedd lawer, felly rydyn ni'n falch ei fod wedi'i gyhoeddi o'r diwedd. Oherwydd rydych chi yn llygad eich lle: mae gennym ni waith enfawr i'w wneud os ydyn ni am gyrraedd sero net erbyn 2050, ac mae gennym ni lawer o sgiliau y mae eu hangen ar ein gweithlu er mwyn gallu mynd â ni dros y llinell derfyn.
Nid yw byth yn peidio â fy synnu pa mor gyflym y caiff pethau a oedd yn brin ar un adeg, fel paneli solar ar doeau pobl, eu mabwysiadu gan bobl, yn enwedig pan fo prisiau ynni wedi bod mor uchel. Nid yw'r prinder sgiliau yn hynny o beth yn cymharu â'r prinder enfawr y byddwn yn ei gael o ran yr ymrwymiadau ynni adnewyddadwy ehangach sydd gennym ni—ar gyfer gallu gosod ffermydd gwynt newydd, ar y tir ac ar y môr fel ei gilydd, ac, wrth gwrs, ar gyfer gwireddu ein huchelgeisiau ni i sicrhau y byddwn ni'n manteisio ar yr ynni y gellir ei gynhyrchu gan y llanw o gwmpas arfordir Cymru hefyd.
Nawr, yn amlwg, rydych chi wedi sôn am lawer o bethau yn eich strategaeth. Yn sicr, rydyn ni'n croesawu'r buddsoddiad ychwanegol sydd am fynd i gyfrifon dysgu personol pobl. Mae hi'n bwysig ein bod ni'n hyrwyddo'r rhai sydd â chyflogwyr oherwydd y buddion y gallan nhw eu cyflwyno i'w gweithlu yn ogystal â'r unigolion eu hunain, a fydd, gobeithio, yn manteisio ar yr adnoddau newydd hynny.
Unwaith eto, rydych chi wedi cyfeirio at y cwricwlwm newydd a'r cyfleoedd y mae hwnnw'n eu cyflwyno. Rydyn ni'n gwybod bod newid hinsawdd yn rhywbeth sy'n ymddangos yn y cwricwlwm hwnnw, a gobeithio y bydd hynny'n ysgogi ein pobl ifanc ni i chwilio am gyfleoedd a gyrfaoedd mewn meysydd a all helpu i fynd i'r afael â her newid hinsawdd. Ond, mae angen i ni wneud hynny drwy ddod â nhw gyda ni, ac un o'r pethau na wnaethoch chi ei grybwyll yn eich datganiad yw cyngor gyrfaoedd, a phwysigrwydd cyngor gyrfaoedd pan fydd pobl yn gwneud dewisiadau ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid i mi ddweud, fy marn bersonol yw bod ein cyngor ar yrfaoedd, yn enwedig i bobl ifanc mewn ysgolion, braidd yn siomedig; nid yw'n dda iawn nac yn hyrwyddo'r cyfleoedd ehangach sydd ar gael bob amser, yn enwedig o ran prentisiaethau. Rwy'n credu bod angen mwy o ganolbwyntio ar hyn gan Lywodraeth Cymru i wella'r cynnig hwnnw a gwella ansawdd y cyngor hwnnw o ran gyrfaoedd.
Fe wnaethoch chi sôn am brentisiaethau, yn amlwg, a'u swyddogaeth wrth fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau. Mae hi'n bwysig bod â'r cysylltiadau hynny â'r diwydiant, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio meithrin y cysylltiadau hynny, yn enwedig gyda chyflogwyr mwy. Ond mae yna lawer iawn o gyflogwyr llai nad ydyn nhw bob amser yn meddwl bod amser ganddyn nhw i allu datblygu cyfleoedd prentisiaeth o fewn eu gweithluoedd eu hunain—nid ydyn nhw'n sylweddoli pa fanteision a ddaw yn sgil hynny. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni beth rydych chi am ei wneud i estyn allan i'r cwmnïau llai a chanolig hynny, efallai lle mae perchnogion a chyfarwyddwyr y busnesau hynny'n brysur yn rhuthro o gwmpas yn gwneud pob math o bethau eraill, a'r peth diwethaf sydd ei angen arnyn nhw yw'r gwaith ychwanegol o ran ceisio datblygu rhaglen brentisiaeth, pan, mewn gwirionedd, fe allai hynny fod yn weddol syml, gyda'r gefnogaeth a'r ymgysylltu priodol gan golegau addysg bellach lleol ac eraill i helpu i ddarparu'r rhaglenni hynny.
Yn ogystal â hynny, rydych chi wedi cyfeirio at yr angen am fonitro parhaus o ran y sgiliau angenrheidiol, oherwydd, wrth gwrs, fe fydd angen sgiliau amgen yn 2040 nag sydd eu hangen nawr, oherwydd fe fydd y technolegau yn datblygu. Felly, a fydd hon yn ddogfen nawr a fydd yn cael ei hadnewyddu yn rheolaidd? Oherwydd, yn amlwg, fe fydd angen edrych ar hyn yn weddol reolaidd, fe fyddwn i'n gobeithio, er mwyn i ni fod â gweithlu sy'n addas i'r dyfodol ac sy'n bodloni'r dyheadau sydd gan bob un ohonom ni.
Rydyn ni'n gwybod bod prinder sgiliau gennym ni mewn rhai meysydd eisoes. Pan fyddwch chi'n ceisio cael gafael ar gontractwyr i wneud rhywfaint o waith ar hyn o bryd, hyd yn oed o ran addasiadau cartref ar gyfer ynni adnewyddadwy, fe all hi fod yn anodd cael trefn ar bethau mewn modd amserol. Wrth gwrs, mae hynny wedyn yn cyflwyno risg ychwanegol i'r system, oherwydd fe all pobl ofyn i rai diegwyddor, sydd wedyn yn tanseilio llwyddiant unrhyw raglenni yr ydym ni'n dymuno eu gweld. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd yn y tymor byrrach i wneud yn siŵr bod cynlluniau priodol ar waith i roi sicrwydd, pan fydd sgiliau ar gael y gall pobl eu hadnabod, yn yr un ffordd ag yr ydym yn gwybod pwy sy'n blymwyr CORGI a phethau felly, fel y gallwn ni wybod pwy yw'r bobl hynny a achredwyd i gyflawni peth o'r gwaith a fydd yn cael ei wneud, yn sicr yn y pump neu chwe blynedd nesaf, pan fydd pobl yn chwilio am yr addasiadau hynny i'w cartrefi yn arbennig felly?
Diolch i chi am y cwestiynau. Rwy'n credu o ran eich pwynt olaf, mae yna bwynt sy'n mynd y tu hwnt i waith safonau masnach ac sy'n ymwneud yn fwy ag achrediad gweladwy i'r cyhoedd i roi sicrwydd i bobl. Os ydych chi'n meddwl am y ffordd y mae—. Ar eich pwynt chi am baneli solar, pan oeddwn i'n wirioneddol ifanc, yn tyfu i fyny, roedd gennym ni ddau banel solar ar ein tŷ ni. Roedd hynny'n anarferol dros ben ond eto nawr mae ymchwydd gwirioneddol fawr wedi bod yn y diwydiant a'r gosodwyr. Un o'r pethau yr ydym ni'n ei wneud yn y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd yr oeddwn i'n siarad amdano gyda Vikki Howells yn gynharach yw ein bod ni'n ystyried ffyrdd o gadw mwy o'r arian hwnnw yn yr ardal leol, a rhan o'n her ni yw niferoedd y bobl sy'n gallu gwneud y gwaith ac sydd ar gael i'w wneud. Mae rhywbeth eto i'w wneud ynglŷn â gweithio gyda'r diwydiant hwnnw i wneud yn siŵr y bydd sicrwydd gan bobl o ansawdd priodol. Felly, mae hyn yn rhan o'r hyn yr ydym ni'n ystyried ei wneud i sicrhau nad yw'r sgiliau hynny nid yn unig yn mynd yn fwy cyffredin, fel bydd angen iddyn nhw fod, ond y byddwn ni wedyn â chyfradd ddigonol o sicrwydd sy'n weladwy i'r cyhoedd. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n bendant yn edrych arno. Mae hyn yn mynd ychydig y tu hwnt i gwmpas y datganiad, ond mae hwnnw'n gam nesaf pwysig ac amlwg.
O ran y gorwel a welwn ni gyda'r cynlluniau gweithredu y byddwn ni'n eu llunio, wrth gwrs, fe ŵyr yr Aelodau ar draws y Siambr bod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn rhannu ôl troed â'n rhanbarthau economaidd ni, sy'n cael eu mapio ar yr un meysydd â'r bargeinion twf sy'n bodoli hefyd. Felly, mae gennym ni feysydd eisoes lle rydym ni'n gweithio mewn ffordd fwy eang ar y sgiliau sy'n bodoli. Yn y ddogfen hon, fe fyddwn ni'n edrych hefyd ar y gorwel yn y tymor byr, canolig a hirach, ac felly fe fydd angen i ni ddal ati i sicrhau bod y ddarpariaeth sydd gennym ni'n cyfateb i anghenion pobl, busnesau a'r gwasanaethau cyhoeddus.
Rhan o'r her yw pa mor ddeinamig yw'r system ac a oes gennym ni ymgysylltu rheolaidd rhwng darparwyr sgiliau, ond busnesau a'r gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen hefyd. Wrth i mi fynd o amgylch y wlad a siarad gyda gwahanol bobl, bob hyn a hyn, fe fyddaf i'n clywed rhywun yn dweud, 'Rwy'n anhapus iawn gyda fy ngholeg AB lleol', a phobl eraill yn dweud, 'Mae fy ngholeg AB lleol i'n wych, rydyn ni'n cael yr union beth sydd ei eisiau ac mae gennym ni berthynas dda iawn.' Wel, ystyr hynny'n rhannol mewn gwirionedd yw natur yr ymgysylltu a'r berthynas, ac yn aml mae hynny oherwydd nad yw'r ddau unigolyn sy'n anhapus yn siarad â'i gilydd, neu nad yw'r coleg yn ymwybodol bod yna fusnes sy'n cwyno. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut rydyn ni'n tynnu pobl i mewn i ddeialog fwy rheolaidd ac adeiladol, yn hytrach nag aros nes bod pethau wedi mynd o chwith neu heb weithio o gwbl iddyn nhw.
O ran prentisiaethau, rydyn ni wedi bod yn cynnal ymgyrch weladwy i'r cyhoedd er mwyn i fusnesau dderbyn prentisiaid. Rwy'n cydnabod, i rai busnesau, eu bod nhw'n deall yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud, eu bod nhw'n gweld y gwerth yn hynny. Ddoe, roeddwn i'n siarad â busnesau yn fy etholaeth i, busnes lletygarwch oedd un ohonyn nhw, ac roedden nhw'n dweud, mewn gwirionedd, o ran y coleg lleol a'r prentisiaid sy'n dod o hwnnw, maen nhw'n cael eu dihysbyddu gan fusnesau mwy yn gyflym iawn. Felly, fe geir her o ran cyflenwad yn hyn o beth. Mae gyrfa dda i'w chael, ond yr her yw cael digon ohonyn nhw, tra ceir busnesau eraill llawer llai nad ydyn nhw'n gwybod eu bod nhw'n bodoli. Dyna pam rydyn ni wedi bod yn ceisio nid yn unig hyrwyddo prentisiaethau fel cyfle, ond rydyn ni'n edrych mwy ar brentisiaethau a rennir rhwng mwy nag un cyflogwr hefyd, o bosibl. Dyna rywbeth a welais i pan oeddwn i fyny yng Nglannau Dyfrdwy yn y gorffennol agos: pobl sy'n gweithio gyda mwy nag un cyflogwr i gael profiad prentisiaeth llawn, cyflawn. Felly, rydyn ni'n ystyried gwneud mwy yn y maes hwnnw yn y dyfodol hefyd.
Ynglŷn â'ch pwynt chi am gyngor gyrfaoedd, rwy'n credu eich bod chi ychydig yn ddidrugaredd, ond rwy'n cydnabod bod mwy i ni ei wneud bob amser a deall sut mae'r cyngor y mae pobl yn ei roi—. Fe all pobl o'n hoedran ni, fel petai, gofio cyngor gyrfaoedd gweddol gyntefig, ac yn aml athro a fyddai'n dweud, 'Rwy'n credu y dylech chi wneud hyn,' neu 'Ewch i edrych draw fanna ac edrychwch ar lyfr a phenderfynwch beth rydych chi am ei wneud.' Mewn gwirionedd, rydyn ni'n gwneud yn llawer gwell na hynny. Ein her ni, ac mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r gyllideb, a hefyd, serch hynny, mae;n ymwneud â'r gallu i roi profiad gwaith da iawn i bobl, rwy'n credu, yn ystod eu cyfnod nhw yn yr ysgol. Ond hefyd, mewn nifer o'n meysydd twf, mae hwn yn gyfle i gadw meddyliau pobl yn agored i'r dyfodol, ac mae hynny wir yn dychwelyd at lawer o bethau sy'n digwydd yn y cwricwlwm, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl wedi gwneud dewisiadau, yn aml yn ddiarwybod, erbyn iddyn nhw fod yn 15 ac 16. Felly, mae gwneud popeth bryd hynny'n rhy hwyr i lawer gormod o bobl. Ond er mwyn deall y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i gael gwahanol swyddi, mae yna sgwrs yr ydym ni'n ei chael gyda fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Addysg, ond gyda phobl mewn gwahanol sectorau twf hefyd, gan gynnwys yn y meysydd hyn o sgiliau gwyrdd, i wneud yn siŵr bod y wybodaeth mae ysgolion yn ei chael, a phobl ifanc yn ei chael, yn cadw eu meddyliau yn agored i ddewisiadau gwirioneddol o ran gyrfa i'r dyfodol.
O ran yr hinsawdd, dim ond i orffen, mae fy mab i'n wyth oed, ac mae'n llawer iawn mwy ymwybodol o'r hinsawdd a'r amgylchedd nag yr ydw i'n cofio bod erioed pan oeddwn i'n wyth oed. Felly, rydyn ni'n gweld eisoes bod gan bobl ifanc farn wahanol am y byd, ac fe fydd y cwricwlwm newydd, rwy'n credu, yn gwella hynny. Fe fydd yn eu helpu i amgyffred y byd hyd yn oed yn well nag y maen nhw yn barod, ond rwy'n meddwl ac yn gobeithio, yn sicr, y bydd hynny'n ychwanegu at yr hyn yr ydyn ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynllun sgiliau hwn, sef bod pobl yn ystyried y cyfleoedd hynny i newid ac ailgreu'r byd, a sicrhau ei fod yno i'w plant nhw ac nid dim ond i'n plant ni.
Diolch am y datganiad, Gweinidog.
Nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth yn y Siambr bod y strategaeth sgiliau sero net yn gam i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn eglur, nid yn unig y Llywodraeth, ond yn y gwrthbleidiau hefyd, am yr hyn yr ydym ni'n ei olygu pan fyddwn ni'n sôn am sgiliau gwyrdd. Fe fydd yr eglurder hwnnw'n holl bwysig, yn enwedig pan fyddwn ni'n troi at y sector addysg bellach i ddarparu'r sgiliau hynny.
Bydd y strategaeth, fel mae'r Llywodraeth yn ei amlinellu, yn canolbwyntio, yn rhannol o leiaf, ar ddarparu hyfforddiant ac addysg i unigolion a busnesau i gefnogi'r broses o drosglwyddo at economi carbon isel, ac mae nifer o gyhoeddiadau i'w croesawu o ran cyfrifon dysgu personol a swyddogaeth cyrsiau byr. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad yw hi'n ddigon i ddibynnu ar unigolion a busnesau i wneud y newidiadau angenrheidiol ar eu pennau eu hunain. Nid oes ond angen edrych ar yr amodau economaidd a chymdeithasol presennol yng Nghymru, sy'n ei gwneud hi'n anodd i lawer o unigolion a busnesau wneud y newidiadau angenrheidiol. Mae pandemig COVID-19, a'r argyfwng dilynol a pharhaus o ran costau byw, a'r effaith ar gadwyni cyflenwi, wedi cael effaith sylweddol ar yr economi, ac mae llawer o fusnesau yn ei chael hi'n anodd goroesi. Yn flaenorol, rwyf i wedi codi'r angen gyda'r Gweinidog am grantiau ynni gwyrdd i fusnesau fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ar y safle. Fe all buddsoddi, wrth gwrs, mewn seilwaith a systemau cynaliadwy ddarparu cyfleoedd newydd ar gyfer twf a chyflogaeth, ond mae hyn, wrth gwrs, yn gofyn am fuddsoddiad a chefnogaeth y Llywodraeth.
Fe glywsom ni gan lefarydd y Ceidwadwyr am y prinder sgiliau, ac mae'n iawn i dynnu sylw at hynny. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod, wrth fynd i'r afael â hyn, bod cadw pobl am fod yn un o'r heriau mwyaf a fydd yn wynebu ein colegau addysg bellach a'n sefydliadau addysg uwch yn y blynyddoedd sydd i ddod. Fe allwn ni greu'r holl leoedd newydd ar gyrsiau a'r holl brentisiaethau newydd y dymunwn ni, ond os na all myfyrwyr fforddio aros arnyn nhw, yna fe fyddan nhw, yn y pen draw, yn fethiant o ran amcanion y Llywodraeth. Rydym ni'n siarad yn ei hanfod am grwpiau mawr o fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel yn cael eu cloi allan o gymryd rhan yn yr economi werdd newydd hon yr ydym ni'n sôn amdani drwy'r amser. Mae cadw myfyrwyr incwm isel mewn addysg er budd pawb.
Rwyf i wedi sôn am LCA, ond rwy'n credu y dylem ni ystyried yr angen hefyd am isafswm cyflog prentisiaeth cenedlaethol, er, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyfyngu arni, a bod yn deg, yn yr hyn y gall hi ei wneud yn hyn o beth. Yn flaenorol, mae'r Gweinidog wedi dweud bod angen i ni siarad am uwchsgilio ac addysg fel buddsoddiad a, sawl tro, rydyn ni wedi mynd dros pam na fyddai hynny'n rhesymol yng ngolwg myfyrwyr incwm isel, yn bennaf oherwydd nad oes ganddyn nhw'r gallu i feddwl ymlaen mor bell â hynny. Ond os ydyn ni'n cadw at y naratif hwn o fuddsoddiad am y tro, fe fyddai hi'n dda iawn gennyf i ddeall sut y bydd y Llywodraeth yn dechrau siarad â phobl ifanc nawr am rai o'r swyddi hyn a allai fod ar gael yn yr economi werdd newydd. Beth yw'r llwybrau, yn ei hanfod, sydd yn agored iddyn nhw? Rydym ni wedi clywed am gyngor gyrfaoedd; ni allwn ac ni ddylwn anghofio am brofiad gwaith ychwaith. Mae hi'n hollbwysig ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, ac ni fydd hyn o unrhyw syndod i'r Gweinidog, rwy'n siŵr, mae'n rhaid i mi bwysleisio'r angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â mater diogelwch swyddi i'r rhai sy'n gweithio mewn diwydiannau y bydd y newid tuag at economi carbon isel yn effeithio arnyn nhw. Ni allwn ddisgwyl i unigolion wneud y newidiadau angenrheidiol os ydyn nhw'n ofni colli eu bywoliaeth yn y broses honno. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithio gyda diwydiannau ac undebau llafur i sicrhau mai pontio teg at economi carbon isel sy'n digwydd. Mae hyn yn golygu darparu cefnogaeth i'r rhai y mae'r cyfnod pontio yn effeithio arnyn nhw, a chreu cyfleoedd gwaith newydd mewn diwydiannau cynaliadwy, a sicrhau y bydd pawb sydd angen cael eu huwchsgilio yn meddu ar y sgiliau uwch hynny. Mae hi'n dda i weld y Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth i hyn heddiw. Yn syml, ni allwn ailadrodd camgymeriadau Llywodraethau blaenorol, Llywodraeth Thatcher yn fwyaf nodedig—effeithiau ei phenderfyniadau a'i diffyg pontio yr ydym ni'n dal i'w deimlo heddiw.
Mae'r pwynt ynglŷn â phontio teg yn rhywbeth sydd, fel rwy'n dweud, ar feddyliau Gweinidogion i raddau helaeth iawn yn y dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud ynglŷn â'r cyfle, ond yr amharu hefyd, wrth i bobl symud i ffordd wahanol o weithio mewn ystod gyfan o gynigion mewn sectorau. Rwy'n credu, ar y pwynt am beth yw sgiliau gwyrdd, mi wnes i sôn am hynny yn fy natganiad. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, rwy'n credu, yn ddefnyddiol wrth gyrraedd y nod. Fe wnaethom ni benderfynu peidio ag aros am y gwaith hwnnw cyn cyhoeddi'r datganiad hwn. Mae gennym ni waith i'w wneud ar gynlluniau gweithredu, ac fe allwn ni ystyried hynny wrth i ni symud ymlaen.
Ynglŷn â sut yr ydym ni'n ymgysylltu â phobl ifanc, mae yna amrywiaeth o wahanol ffyrdd yr ydyn ni'n gwneud hynny. Mae yna waith ar arolygon amrywiol yr ydyn ni'n ei wneud drwy'r ysgolion. Mae yna waith hefyd yr ydym ni'n ei wneud gyda'r warant i bobl ifanc ei hun, gan wrando yn uniongyrchol ar bobl sy'n cymryd rhan ynddi. Mewn gwirionedd, mae hynny wedi arwain at rai o'r newidiadau a wnaethom ni yn Twf Swyddi Cymru+. Gan ddarparwyr, ond gan y bobl ifanc eu hunain hefyd, rydyn ni mewn gwirionedd wedi cyflwyno rhywfaint o gymorth ariannol pellach i bobl wneud yn siŵr ein bod ni'n ymdrin â, ac yn ystyried, rhai o'r pwyntiau ynglŷn â theithio, ond hefyd gallu bwyta yn ystod y dydd hefyd wrth wneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw. Felly, rydyn ni'n gwrando ac yn edrych er mwyn bod yn hyblyg a gwneud yn siŵr bod ein cynnig ni'n gwneud synnwyr i bobl er mwyn iddyn nhw allu cwblhau'r cyfleoedd yr ydym ni'n eu darparu.
Rwy'n credu bod llawer o bobl yn gallu deall bod gwell cyfle iddyn nhw o bosibl ddysgu ac ennill tâl ar ddiwedd yr ymyraethau hynny. Ein her ni yw helpu pobl i ddod drwy'r cwrs i wneud hynny'n ymarferol, ac rwy'n gwybod mai dyna safbwynt yr Aelod. Fe fyddwn ni'n parhau i edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i fod mor hyblyg â phosibl yn wyneb realiti'r cyfyngiadau cyllidebol sydd arnom ni. Ond mae ein cyfraddau ni o ran cwblhau cyrsiau a'r ystod o gyrsiau sgiliau sydd ar gael, gan gynnwys prentisiaethau, yn eithaf da mewn gwirionedd, ac yn sicr mae hynny'n cymharu yn well na'r hyn sy'n digwydd ledled Lloegr. Yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw peidio â mynd tua nôl, a pharhau i fod mor llwyddiannus â phosibl. Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaeth yr Aelod am brofiad gwaith, ac fe fuom ni'n siarad am hynny'n gynharach heddiw—gwerth profiad gwaith o ansawdd uchel a'r hyn y mae hwnnw'n ei gyflawni.
Rwyf i am orffen ar y pwynt hwn o ran cwestiynau'r Aelod am filiau ynni a'r sefyllfa wirioneddol. Unwaith eto, i ddefnyddwyr unigol, ond i fusnesau hefyd, mae heriau a chwestiynau gwirioneddol yn dod i'r amlwg, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd y cyfle yn y gyllideb ymhen pythefnos i wneud rhywbeth. Roedd yr Ysgrifennydd Ynni yn dweud heddiw y gallai ef ddeall bod dewis i'w wneud, a'i fod yn deall yr achos sy'n cael ei wneud. Ond, eto i gyd, heb hynny, ni fydd nifer o'r busnesau yr ydym ni'n awyddus i'w gweld yn goroesi i'r dyfodol yn llwyddo i oroesi'r chwarter nesaf o weithgarwch. Fe geir her a chyfle gwirioneddol i Lywodraeth y DU wneud y peth cyfiawn, ac, rwy'n credu, ennill rhywfaint o barch gan bobl ar draws y Siambr hon ac mewn mannau eraill. Os na wneir hynny, fe fyddwn ni'n ôl yn y fan hon ymhen tri neu bedwar mis, yn trafod, ym mhob rhanbarth ac ym mhob etholaeth, colli swyddi a ddylai fod wedi bod â dyfodol ond mewn gwirionedd nid oedden nhw wedi llwyddo i oroesi oherwydd cynnydd arall unwaith eto yn eu biliau ynni nhw, a'r costau i'w cwsmeriaid a'u defnyddwyr hefyd.
Yn gyntaf i gyd, rwy'n cael trafferth dod o hyd i'r cynllun newydd hwn a gyhoeddwyd heddiw ar y we. Fe fyddai hi'n ardderchog cael gwybod a yw wedi bod ar gael i bawb ohonom ni mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n awyddus iawn i ddeall pa rai yw'r saith maes allweddol a'r 36 o gamau.
Yn dilyn y pwyntiau yr ydych chi newydd eu gwneud wrth ateb Luke Fletcher, fe allwn ni obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn ynglŷn â biliau ynni, ond, mewn gwirionedd, mae'n rhaid i'r datrysiad byrdymor cynaliadwy fod ynghylch gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi ni. Ym Mhrydain y mae'r tai sy'n gollwng fwyaf o wres yn Ewrop gyfan, ac mae talu biliau ynni yn ymdrech wirioneddol i tua thraean o'n holl aelwydydd. Rydyn ni'n gwybod mai honno yw'r ffynhonnell fwyaf o ddyled. Mae'n rhaid i'r flaenoriaeth fod i leihau swm yr ynni y mae'n rhaid i bobl ei brynu ar gyfer cadw eu cartrefi nhw'n gynnes.
Tybed, o fewn y meysydd a'r nodau allweddol hyn, sut ydych chi'n bwriadu uwchsgilio gweithlu'r diwydiant adeiladu fel y bydd sgiliau technegol a manwl gennym ni i leihau llawer iawn ar gost gwresogi cartrefi Cymru? Fel y nododd Darren Millar, ceir llawer o ddiddordeb mewn gosod paneli solar ar doeau pobl, ond nid oes llawer iawn o bobl sy'n gwybod sut i wneud hynny, yn arbennig y rhai sy'n hoffi rhoi teils newydd ar doeau—nid ydyn nhw'n dweud, 'O, a gyda llaw, fe ddylech chi osod panel solar hefyd'. Mae gwir angen i ni gyflymu'r broses o sicrhau bod llawer mwy o bobl yn gwybod sut i wneud hyn, i leihau ein hallyriadau carbon, yn ogystal â dyledion pobl, sy'n mynd i gwmnïau tramor y tu hwnt i Gymru.
Ar y pwynt cyntaf, cafodd strategaeth ei chyhoeddi, mae hi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac nid y camau yn unig sy'n bwysig; rwy'n credu y byddai'r Aelod yn ymddiddori rhywfaint yn yr wyth sector allyriadau, oherwydd adeiladau preswyl yw un ohonyn nhw. Rydyn ni'n ystyried yr hyn sy'n digwydd eisoes yn y sector allyriadau, yn ogystal â chyfleoedd i sicrhau y bydd llai o allyriadau gwirioneddol yn digwydd oherwydd gwaith adeiladu, ond wedyn wrth gadw adeiladau preswyl. Ynglŷn â'ch pwynt chi am gartrefi ynni-effeithlon, fy mhwynt i yw bod angen cefnogaeth nawr ar gyfer costau y mae pobl yn eu talu nawr—ac rwy'n gwybod y bydd gan yr Aelod bobl yn ei etholaeth sy'n ei chael hi'n anodd iawn, yn wir fe fydd gan bob un ohonom ni—yn ogystal â buddsoddi mewn effeithlonrwydd. Mae hynny'n cynnwys ôl-osod cartrefi sy'n bodoli eisoes—ac rwy'n edrych ar fy etholaeth fy hun; mae rhannau helaeth o fy etholaeth i â stoc hen iawn o dai, ac fe geir her ynglŷn â sut rydych chi am ôl-osod—ond mae hynny hefyd wedyn ynglŷn â'r cartrefi newydd yr ydyn ni'n disgwyl eu codi. Ynglŷn â'ch pwynt am baneli solar, a phobl sydd â'r sgiliau hynny, maen nhw'n brysur iawn, oherwydd mae galw gwirioneddol ar lawr gwlad. Yr her yw sut y gallwn ni wneud mwy yn y maes hwnnw a fydd yn helpu'r cartrefi newydd ac yn ôl-osod amrywiaeth o gartrefi eraill hefyd. Fe geir cyfleoedd gwirioneddol hefyd i gadw'r arian hwnnw yn yr ardal leol. Un o'r pethau yr ydym ni'n ceisio ei wneud gyda'r cynllun benthyciadau busnes gwyrdd y cyfeiriais i ato yw ceisio sicrhau y gallwn ni gyfeirio pobl at gefnogaeth i helpu i wella effeithlonrwydd ynni eu busnesau a chadw'r arian hwnnw gymaint â phosibl yn y fro leol. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru yn awyddus i allu gwneud y ddau beth yna. Felly, mae rhywfaint o optimistiaeth gennyf i, yn ogystal â gwerthfawrogiad o'r rheidrwydd mawr yr wyf i'n gwybod bod yr Aelod yn ei bwysleisio yn y ddadl hon yn rheolaidd ynglŷn â'r angen i wneud hynny ac ennill elw economaidd wrth wneud hynny, a'r hyn y bydd hynny'n ei wneud wrth ymdrin â'r argyfyngau hinsawdd a natur sydd gennym hefyd.
Diolch i chi, Gweinidog, am gyflwyno datganiad heddiw ar strategaeth sgiliau sero net Llywodraeth Cymru a'r cynllun gweithredu hefyd. Gweinidog, fe fyddwch chi'n falch o glywed i mi gael y pleser, yr wythnos diwethaf, o fod yn bresennol yn nigwyddiad Growth Track 360 yn senedd San Steffan, gan ymuno gyda nifer o Aelodau'r Senedd hon, Aelodau o Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi hefyd, ac arweinwyr cynghorau, o bob plaid. Yn ystod y digwyddiad hwn roedd pwyslais hyfryd ar y gwaith trawsffiniol rhagorol a'r cyfleoedd i gydweithio trwy sefydliadau fel Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a gwaith ein cynghorau lleol ni yn y gogledd, sy'n gweithio gyda busnesau, fel y gwyddoch chi, i helpu i alluogi economi sero net yn y gogledd. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn cynnwys miloedd o swyddi gwyrdd sy'n talu yn dda, sy'n cefnogi ac yn gwella economi'r gogledd ymhellach, y mae pob un ohonyn nhw, er hynny, rwy'n siŵr y cytunwch chi, ag angen am y sgiliau priodol hynny i alluogi sefydlu'r swyddi hyn er mwyn i uchelgeisiau Growth Track 360 a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy ddwyn ffrwyth, oherwydd fel arall, fe fyddwn ni mewn perygl y gallai'r syniadau gwych hyn i gyd fod yn ddim byd ond ymarfer academaidd. Felly, Gweinidog, sut ydych chi am ddefnyddio'r strategaeth sgiliau hon a'r cynllun gweithredu oddi mewn iddi i sicrhau y bydd y bargeinion twf presennol a'r cyfleoedd economaidd i'r dyfodol yn cael eu gwireddu yn eu cyfanrwydd? A sut ydych chi am sicrhau y bydd y strategaeth hon yn cael ei diogelu yn llwyr ar gyfer uchelgeisiau sefydliadau fel Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a phrosiectau fel Growth Track 360?
Mae'n rhan o'r pwynt ynglŷn â'r wyth sector allyriadau a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un ohonyn nhw, gan sicrhau eu bod nhw'n ymuno â nid yn unig cynllun Cymru Sero Net, ond bod gennym ni rywfaint o gysondeb a dealltwriaeth mewn gwirionedd o fewn y partneriaethau sgiliau rhanbarthol hyn, ym meysydd y bargenion twf hefyd, lle gall pobl gydweithio yn fwy effeithiol, ac felly ledled y gogledd yn ogystal â Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, o ran gweld y cyfleoedd sydd ar gael. Dyma un o'r meysydd hynny lle ceir risg i'r dyfodol oherwydd anallu i drawsnewid ein heconomi ni, o ran peidio bod yn alluog i wneud felly, nid dim ond o ran yr argyfwng hinsawdd a natur yn unig, ond y ffaith y byddwn ni wedi colli cyfle economaidd hefyd os na fyddwn ni'n gwneud hynny. Felly, nid wyf i'n gweld unrhyw beth yma sy'n anghyson â'n hawydd ni i feithrin yr economi mewn ffordd gynaliadwy a'r rheidrwydd i weithredu mewn ffordd sy'n adlewyrchu ar yr argyfwng hinsawdd a natur sydd gennym ni, y sectorau allyriadau, lle byddwn ni'n llunio'r cynlluniau unigol hynny, ac, fel y dywedais i'n gynharach wrth Darren Millar, y persbectif tymor byr, canolig a hir o ran yr hyn y bydd angen i ni ei wneud i gynhyrchu'r sgiliau cywir mewn gwirionedd ar gyfer gwahanol sectorau'r economi yn ogystal â lleihau allyriadau yn yr wyth sector allweddol hyn. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn mwynhau mynd drwy bob un o'r 36 maes gweithredu, ac y bydd yn bwriadu dychwelyd yn y tymor byr, canolig a hirach i ystyried maint y cynnydd a wnaethom ni.
Ac yn olaf, Samuel Kurtz.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ar y strategaeth sgiliau sero net. Cyn y datganiad, fe dreuliais i amser yn darllen drwy'r cynllun gweithredu 'Cymru Gryfach, wyrddach a thecach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau' a'r atodiad, 'Trosolwg o'r sector sgiliau allyriadau a themâu trawsbynciol'. Fe gefais i fy siomi nad oedd unrhyw sôn am sir Benfro na Choleg Sir Benfro, dim ond un cyfeiriad at Goleg Sir Gâr, a dim sôn am wynt arnofiol ar y môr. Nid wyf i am ddarllen gormod i mewn i hynny ar hyn o bryd, yn dibynnu ar ateb y Gweinidog i'r cwestiwn hwn, gan ei fod e'n gwybod fy mod i wedi gwneud llawer i hybu fy etholaeth i a gwynt arnofiol ar y môr hefyd, ond ar gyfer bod â'r manteision i'r cymunedau hyn yr wyf i'n eu cynrychioli mae angen y gadwyn gyflenwi gyfan yn ei lle. Felly, o ystyried nad oes unrhyw sôn am y rhain sydd yno, pa warantau y gallwch chi eu rhoi i fy etholwyr i fod eich strategaeth sgiliau sero net, wrth anelu at gyrraedd sero net erbyn 2050, yn sicrhau y bydd y cadwyni cyflenwi hynny mor lleol â phosibl? Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae honno'n amcan allweddol i'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud a'r cyfleoedd y mae'r Aelod yn eu tanlinellu. Rwyf i wedi dweud yn rheolaidd yn y Siambr hon nad wyf i'n dymuno gweld dim ond datgarboneiddio'r ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu yn unig; rwy'n dymuno gweld y cyfleoedd economaidd mor lleol â phosibl. Nid wyf i'n dymuno gweld y cyfleoedd hynny yn cael eu cymryd yn Ffrainc ac yn Sbaen wrth weithgynhyrchu'r offer a gyda'r sgiliau y bydd eu hangen mewn swyddi hirdymor iawn. Fe hoffwn i weld y buddsoddiad hwnnw'n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. Boed hynny yn y de-orllewin neu ar draws y gogledd, mae cyfle gwirioneddol gennym ni i gynhyrchu symiau sylweddol o bŵer a swyddi gyda dyfodol hirdymor iddyn nhw. Fel hyn y mae hi bob amser, pan fyddwch chi'n nodi enghreifftiau o'r hyn sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru fel enghreifftiau o'r hyn sy'n digwydd, ac fe fydd rhai yn dweud, 'Nid yw fy rhan i o Gymru wedi cael ei chrybwyll yn ddigon aml.' Fe wn i, rhwng Sam a Samuel, eich bod chi'n siarad yn rheolaidd am y rhannau o Gymru yr ydych chi'n eu cynrychioli ar hyn o bryd, ac fe allaf i roi'r sicrwydd hwn i chi: wrth gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn y cynllun hwn, wrth nodi'r cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un o'r sectorau allyriadau, fe allai ac fe ddylai hynny fod o fudd gwirioneddol i bob etholwr unigol ym mhob rhanbarth o Gymru, a dyna ran o'r hyn a welwn ni'n ddyfodol gwirioneddol i ni wrth greu Cymru decach, wyrddach a mwy llewyrchus.
Diolch Gweinidog.