– Senedd Cymru am 5:25 pm ar 28 Chwefror 2023.
Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8. Hwn yw'r datganiad gan y Gweinidog materion gwledig ar ymwrthedd gwrthficrobaidd a chynnydd y cynllun anifeiliaid a'r amgylchedd pum mlynedd. Dwi'n galw ar y Gweinidog materion gwledig i wneud y datganiad. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae gwrthfiotigau'n sail sylfaenol ar gyfer systemau gofal iechyd modern, sy'n ein galluogi i drin y rhan fwyaf o heintiau bacteriol yn effeithiol, mewn pobl ac anifeiliaid. Mae eu darganfyddiad a'u datblygiad wedi chwyldroi nid yn unig gofal iechyd, ond hefyd y gymdeithas ehangach. Mae heintiau a gweithdrefnau a fyddai wedi bod yn angheuol yn y gorffennol bellach yn cael eu trin mewn modd arferol. Mae gwrthfiotigau'n adnodd gwerthfawr, ac mae angen i ni eu diogelu er lles cenedlaethau'r dyfodol.
Mae gwrthfiotigau'n digwydd yn naturiol ym myd natur, fel y mae gallu bacteria i ddatblygu ymwrthedd iddynt. Er enghraifft, o fewn 20 mlynedd i'w gyflwyno yn y 1940au, roedd mwy nag 80 y cant o straeniau o Staphyloccus aureus wedi datblygu ymwrthedd i benisilin. Mae ymwrthedd i wrthfiotigau yn un o nodweddion bacteria, nid eu gwesteiwyr dynol neu anifail, wedi'i ysgogi yn bennaf gan y defnydd o wrthfiotigau eu hunain, ac mae'r bygythiad y mae'n ei achosi yn real. Gan y gellir lledaenu ymwrthedd rhwng bacteria ac mae rhai organebau sydd ag ymwrthedd yn heintio pobl ac anifeiliaid, mae angen i ni fynd i'r afael â'r defnydd o wrthfiotigau yn gyfannol mewn pobl ac anifeiliaid.
Mae angen i reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd hefyd fynd i'r afael â llwybrau posibl o ledaeniad drwy'r amgylchedd a thrwy'r gadwyn fwyd. Byddai gadael ymwrthedd gwrthficrobaidd heb ei reoli ag effeithiau eang a chostus iawn, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd o ran iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid, yn ogystal â masnach, diogeledd bwyd a datblygiad amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol. Eisoes, amcangyfrifir bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn achosi 700,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn fyd-eang. Amcangyfrifir y bydd y ffigwr hwn yn codi i 10 miliwn erbyn 2050 os nad oes camau'n cael eu cymryd. Bydd pobl ac anifeiliaid yn dioddef afiechydon hirach a mwy o farwolaethau, a bydd yn cynyddu'r pwysau ar wasanaethau iechyd i bobl ac anifeiliaid. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn bennaf yn fygythiad i bobl; fodd bynnag, byddai colli gwrthfiotigau effeithiol drwy ymwrthedd yn arwain at ganlyniadau difrifol i iechyd anifeiliaid, lles anifeiliaid a diogeledd bwyd.
Cynhyrchodd Sefydliad Iechyd y Byd gynllun gweithredu byd-eang ar ymwrthedd gwrthficrobaidd, a gymeradwywyd yng Nghynulliad Iechyd y Byd yn 2015. Wedi hynny, cyhoeddodd Sefydliad y Byd dros Iechyd Anifeiliaid eu strategaeth ar ymwrthedd gwrthficrobaidd a'r defnydd doeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid. Yma yn y DU, mae gweledigaeth 20 mlynedd a chynllun gweithredu cenedlaethol pum mlynedd ar hyn o bryd, y ddau wedi'u cyhoeddi yn 2019. Mae'r strategaethau hyn wedi helpu i lywio ein dull gweithredu yng Nghymru. Yn 2019, sefydlais Grŵp Cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Anifeiliaid a'r Amgylchedd Cymru. Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant ffermio, y proffesiwn milfeddygol, academyddion blaenllaw, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a swyddogion y Llywodraeth.
Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddais gynllun gweithredu ymwrthedd gwrthficrobaidd a'r amgylchedd pum mlynedd i Gymru, a argymhellwyd gan y grŵp cyflawni a oedd newydd ei sefydlu. Mae pum prif amcan yng nghynllun Cymru. Mae pwyslais pwysig ar atal a rheoli heintiau. Mae cadw anifeiliaid yn iach drwy ofal a rheolaeth dda yn lleihau'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau. Pwyslais allweddol arall yw sicrhau pan fydd rhaid defnyddio gwrthfiotigau, y'u defnyddir yn gyfrifol, yn brin iawn ac mewn ffyrdd sy'n lleihau'r risg o ddatblygu ymwrthedd.
Rydym wedi defnyddio'r cysyniad 'un iechyd' i'n dull gweithredu. Mae iechyd dynol ac iechyd anifeiliaid yn gyd-ddibynnol ac maen nhw ynghlwm ag iechyd yr amgylchedd y maen nhw'n bodoli ynddo. Rydym wedi dod ag arbenigwyr ym maes iechyd cyhoeddus, anifeiliaid ac iechyd yr amgylched ynghyd i weithio gyda'i gilydd, gan rannu eu profiad a'u harbenigedd. Rwy'n credu bod y dull hwn wedi bod yn llwyddiannus ac wedi gosod Cymru tuag at flaen y gad yn yr ymdrechion i reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd.
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r gyfarwyddiaeth ansawdd a nyrsio ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o dargedau cynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd a gyhoeddwyd yn 2019. Mae'r adolygiad yn canolbwyntio'n bennaf ar iechyd pobl; fodd bynnag, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cyfrannu at yr adolygiad hwn gydag asesiad o dargedau'r cynllun gweithredu cenedlaethol ynglŷn ag iechyd anifeiliaid a'r amgylchedd. Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd hefyd wedi cael ei nodi yn un o brif flaenoriaethau ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru 10 mlynedd. Mae dull 'un iechyd' yn sylfaenol, nid ar gyfer rheoli ymwrthedd gwrthfiotigau yn unig, ond i'n nod o fod â Chymru iach.
Hoffwn roi gwybod i'r Senedd am rywfaint o'r gwaith penodol yr wyf wedi'i gomisiynu. Er mwyn cefnogi dulliau darparu ar lawr gwlad, fe wnes i £4 miliwn o gyllid cynllun datblygu gwledig ar gael i ganolbwyntio ar reoli ymwrthedd gwrthfiotigau mewn anifeiliaid a'r amgylchedd. Roedd Arwain DGC Cymru yn llwyddiannus yn eu cais i gyflawni amrywiaeth o brosiectau pwysig i reoli ymwrthedd gwrthfiotigau a hybu iechyd anifeiliaid. Mae'r prosiect, a lansiwyd ym mis Hydref 2021, yn cyflwyno nifer o weithgareddau ar hyn o bryd, a nifer ohonyn nhw'n cael eu treialu yma yng Nghymru am y tro cyntaf. Mae'r prosiect yn arwain y ffordd ar gasglu data ar y defnydd o wrthfiotig yn y sectorau cig eidion, defaid a chynhyrchion llaeth ledled Cymru. Mae hwn yn gam pwysig gan fod angen i ni ddeall patrymau o ddefnyddio gwrthfiotigau er mwyn sefydlu gwaelodlin a thargedu gostyngiad yn y defnydd â'r risg uchaf. Mae'r wybodaeth o ddiddordeb mawr i'r gadwyn fwyd gyfan, a bydd y gwaith hwn yn rhoi ein cynhyrchwyr mewn sefyllfa dda i ateb gofynion y farchnad. Bydd gweithredu a chyflawni nawr yn helpu'n sylweddol i ddangos sut mae cynnyrch Cymru yn cael ei gynhyrchu'n gyfrifol ac yn ddiogel.
Mae rhai o'r prosiectau a ddatblygir o dan Arwain DGC hefyd yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed fel rhan o brosiect Arwain Vet Cymru. Sefydlodd staff yr ysgol filfeddygol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth y grŵp cyntaf o hyrwyddwyr rhagnodi milfeddygol yn y DU, sy'n arwain gwaith yn eu practisiau ac ymhlith eu cleientiaid i sicrhau bod gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio'n gyfrifol. Mae'r prosiect wedi cael cydnabyddiaeth eang ac wedi ennill rhai gwobrau o fri. Cafodd arweinydd y prosiect, sydd wedi'i leoli yn yr ysgol filfeddygol yn Aberystwyth, ei wobrwyo â Gwobr Effaith Coleg Brenhinol y Milfeddygon am y gwaith hwn. Mae ein hyrwyddwyr rhagnodi milfeddygol hefyd yn datblygu canllawiau pwysig ar ddewis gwrthfiotigau i'w defnyddio gan filfeddygon, yn debyg i adnoddau sydd ar gael i feddygon teulu'r GIG—y cyntaf ar gyfer Cymru.
Mae llawer o linynnau arloesol eraill o brosiect Arwain DGC, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan. Byddwn yn annog pob Aelod i gael golwg. Mewn ychydig dros flwyddyn, mae Arwain DGC eisoes yn derbyn llawer iawn o gydnabyddiaeth, nid yn unig ledled y DU ond ymhellach i ffwrdd. I gydnabod eu llwyddiant, rwy'n falch o gadarnhau bod Arwain DGC wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tri chais ar wahân fel rhan o wobrau'r Antibiotic Guardian. Rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw pan fydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi, yn nes ymlaen eleni.
Mae'n amlwg na ellir rheoli ymwrthedd gwrthficrobaidd gan y Llywodraeth yn unig. Mae rheoli afiechydon heintus a'r gwrthfiotigau a ddefnyddir i'w trin yn nwylo ceidwaid anifeiliaid a'u milfeddygon. Mae arnom ni angen i'r bobl hynny, felly, a'r arbenigwyr gwyddonol, gweithio gyda'i gilydd a gyda ni. Felly, rwy'n falch o gadarnhau fy mod wedi dyrannu £2.5 miliwn yn ychwanegol er mwyn cefnogi parhau â'r ymdrechion cyflawni am y ddwy flynedd nesaf yma yng Nghymru.
I gloi, Llywydd, rwyf eisiau pwysleisio perthnasedd rheolaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd i ddiogelwch a lles cenedlaethau'r dyfodol, yng Nghymru a ledled y byd. Mae ein gwaith ar reoli ymwrthedd gwrthficrobaidd yn enghraifft wych o'r modd y gall dulliau blaengar ac amlddisgyblaethol, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio'n adeiladol ochr yn ochr â phartneriaid yn y sector preifat, gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn yr achos hwn Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, a Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Rwy'n benderfynol bod Cymru yn parhau i gyfrannu'n llawn at reolaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar am weld datganiad y prynhawn yma ymlaen llaw ac rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau. Mae'n hanfodol ein bod yn eithriadol o glir am y risgiau y mae AMR, ymwrthedd gwrthficrobaidd, yn ei achosi i gymdeithas fodern, boed hynny ar fferm neu mewn lleoliad gofal iechyd. Mae'r risg hon yn fygythiad dirfodol i bobl ac anifeiliaid, ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y Llywodraeth hon yn rhoi arf waith cynllun gweithredu sy'n addasadwy, yn gyfannol ac yn gynhenid yn ei dull o weithredu. Wrth gyfaddawdu gallu anifail i reoli ac atal heintiau bacteriol yn llwyddiannus, mae AMR yn dileu'r gallu naturiol hwnnw i wrthsefyll haint, ac mae'r canlyniadau, fel y dywedodd y Gweinidog, yn mynd ymhell y tu hwnt i giât y fferm. Os byddwn yn methu â gwrthweithio hyn, rydym yn peryglu dinistrio iechyd anifeiliaid yn ogystal â chwymp cadwyni cyflenwi bwyd, cymunedau wedi'u gadael heb incwm a dirywiad terfynol ymwrthedd i wrthfiotigau mewn rhywogaethau eraill, sef ni'r bodau dynol. O ystyried y bygythiad y mae hyn yn ei achosi, rwy'n falch o nodi bwriadau'r Gweinidog y prynhawn yma.
Mae cynllun y Gweinidog, wedi'i baru â chynllun gweithredu cenedlaethol AMR pum mlynedd y DU, yn gam allweddol i'r cyfeiriad cywir, un sy'n ein gweld yn gweithio gyda diwydiant i ddileu'r defnydd torfol o wrthfiotigau yn raddol. A gadewch i ni fod yn glir, mae'r diwydiant eisoes yn gwneud cynnydd sylweddol. Mae'r defnydd o wrthfiotigau mewn da byw yn y DU wedi gostwng cymaint â 50 y cant yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae ffermwyr Cymru yn gwneud newidiadau i'w protocolau da byw, gan leihau eu dibyniaeth ar wrthfiotigau drwy ddatblygu mesurau diogelu cynaliadwy i iechyd anifeiliaid. Ac mae Arwain DGC yn gweithio gyda milfeddygon Cymru ac yn eu cefnogi i ddatblygu a defnyddio technoleg newydd i archwilio bioddiogelwch ac atebion manwl.
Mae pob rhan o'r sector amaethyddol, o ffermwr i filfeddyg, yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu strategaeth atal AMR drwy ddefnyddio technoleg newydd, casglu data, a gwell dealltwriaeth—proses o wneud penderfyniadau dan arweiniad gwyddoniaeth y dylen ni fod yn ei chefnogi, gwella a dyblygu. Mewn gwirionedd, un elfen allweddol yng nghynllun gweithredu pum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yn 2019 oedd gwneud hynny'n union, gan fuddsoddi mewn a chefnogi arloesedd, gwella capasiti labordy a defnyddio data i optimeiddio'r defnydd penodol, cyfyngedig a chyfrifol o feddyginiaeth wrthficrobaidd. O gofio bod gennym dîm gwyddonol sefydlog eisoes yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, IBERS, pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i'w hymgorffori yn y prosiect Arwain DGC i helpu i gyrraedd y targed a bennwyd yng nghynllun gweithredu 2019? Yn wir, mae'n bwysig ein bod hefyd yn cydnabod y datblygiadau sydd eisoes wedi'u gwneud, ymdrechion sydd wedi profi'n llwyddiannus ac y dylid eu cefnogi, ac felly rwy'n falch o nodi eich bwriad i ddyrannu £2.5 miliwn ychwanegol i gefnogi parhad yr ymdrechion cyflawni. Byddai diddordeb gennyf, er hyn, mewn derbyn eglurhad pellach am ffynhonnell yr arian hwn ac a yw wedi'i ddyrannu o'r rhaglen datblygu gwledig.
Yn olaf, gyda phrif swyddog milfeddygol newydd Llywodraeth Cymru i ddod i rym yn fuan fis nesaf, hoffwn wybod pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i roi i arbenigedd y prif swyddog milfeddygol yn y mater hwn ac a yw ei benodiad yn dod â ffordd newydd o feddwl gydag ef. I orffen, hoffwn ailadrodd sylwadau cloi'r Gweinidog. Mae ein gwaith ar AMR, y diwydiant a'r Llywodraeth, yn enghraifft eithriadol o pam mae dulliau amlddisgyblaethol yn allweddol i ddatblygu cynlluniau gweithredu llwyddiannus. Mae'r glasbrint hwn y mae'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru wedi'i ddilyn mewn perthynas ag AMR yn gymeradwy ac wedi sicrhau canlyniadau. Mae'r defnydd o wyddoniaeth, technoleg, arloesi a bod yn ddewr wrth wneud penderfyniadau wedi helpu Cymru i arwain ym maes ymchwil a datblygu AMR: glasbrint sy'n deilwng o gael ei efelychu wrth i ni fynd i'r afael â heriau pellach yn y sector amaethyddol. Diolch, Llywydd.
Diolch, Sam, am eich ymateb cadarnhaol iawn i'r adroddiad. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn. Mae'n rhaid bod yn ddewr iawn, ac yn sicr pan oeddwn i'n Weinidog Iechyd roedd yn faes yr oeddwn i'n awyddus iawn i edrych arno. Rwy'n cofio roedd gennym brosiect bach iawn mewn un ysbyty i weld sut allen ni leihau'r defnydd o wrthfiotigau, ac rwy'n credu bod yn rhaid i chi gael y math yna o bwyslais ar ardal fach i weld wedyn sut allwch chi gyflwyno arferion gorau, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydyn ni wedi'i wneud.
Rwy'n credu yn yr Athro Christianne Glossop roedd gennym ni rywun a oedd yn awyddus iawn i'w hyrwyddo, ac yn sicr mae'r prif swyddog milfeddygol dros dro wedi bwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Mae'n cadeirio grŵp yn y DU ar wyliadwriaeth AMR mewn anifeiliaid. Rydych yn gofyn am y prif swyddog milfeddygol newydd, sydd i fod i ddechrau'r wythnos nesaf, mewn gwirionedd, a bydd yn dod ag arbenigedd penodol. Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw beth, ond ar hyn o bryd ef yw'r dirprwy brif swyddog milfeddygol yn y DU ac yn amlwg rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar AMR. Mae ganddyn nhw gynllun cenedlaethol. Mae gennym ni gynllun cenedlaethol. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n amlwg yn cydweithio, felly rwy'n edrych ymlaen at weld beth mae'n ei gyflwyno. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i fod â'r pwyslais hwnnw. Yn amlwg, mae'r cynllun sydd gennym ni o 2019 yn mynd â ni hyd at 2024, ac rydyn ni'n edrych ar ba newidiadau y gallwn ni ddisgwyl gyda'r cynllun gweithredu newydd y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno. Bydd y cynllun hwnnw'n llunio ein dull ni yma yng Nghymru, felly rwy'n tybio y bydd y prif swyddog milfeddygol newydd yn ein helpu, oherwydd rydyn ni eisoes wedi dechrau edrych ar ein cynllun olynol wrth symud ymlaen. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n blaenoriaethu ein cryfderau. Mae gennym amgylchiadau unigryw, wrth gwrs, yng Nghymru, y mae angen edrych arnynt hefyd.
Rydych chi'n gofyn am IBERS. Unwaith eto, soniais am yr ysgol filfeddygol newydd sydd gennym yn Aberystwyth. Mewn gwirionedd dydw i ddim wedi cael unrhyw drafodaethau gydag IBERS am hyn, ond byddaf yn sicr yn sicrhau bod swyddogion yn gwneud hynny os ydym yn credu y byddai'n werth chweil. O ran y £2.5 miliwn, rydyn ni'n ystyried sut y gall partïon sydd â buddiant asesu'r cyllid hwnnw wrth fwrw ymlaen, oherwydd rydym wedi cyhoeddi hynny ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Mae hynny'n waith ar y gweill, ac yn amlwg bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi.
Dwi'n croesawu'r datganiad yma heddiw, oherwydd mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cael effaith andwyol ar ein ffermydd ac ar iechyd cyhoeddus. Yn wir, erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd ymwrthedd gwrthficrobaidd yn achosi 10 miliwn o farwolaethau yn fyd-eang, ac yn costio $100 triliwn i economi'r byd. Felly, wrth ystyried hyn, pa asesiadau economaidd y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o impact ymwrthedd gwrthficrobaidd ar y sector amaethyddol yng Nghymru? A pha asesiad sydd wedi ei wneud o’r impact ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru? Mae canlyniadau Arwain Defnydd Gwrthfiotig Cyfrifol—Arwain DGC—i'w croesawu. Ymddengys bod y ffocws ar leihau y defnydd o gwrthfiotig trwy hyfforddiant, technoleg a chasglu data wedi profi i fod yn effeithiol.
Er enghraifft, mae ffermydd cig oen wedi elwa yn sgil tynhau protocolau diheintio a rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd a phrydlondeb bwydo colostrwm, yn ogystal â thriniaeth ddethol wedi'i thargedu mewn ŵyn. Ar ffermydd gwartheg, mae'r defnydd a dreialwyd o dechnoleg bolws wedi rhoi system rhybudd cynnar i ffermwyr, gan dynnu eu sylw at haint posibl mewn buwch pan fydd yn gofyn tarw neu yng nghamau cynnar geni llo, ac unrhyw faterion iechyd eraill fel mastitis neu gloffni, sy'n eu galluogi i weithredu cyn i'r clefyd ddatblygu ac mae'r fuwch yn cyrraedd y cam lle mae angen triniaeth wrthfiotig arni. Byddai'n ddiddorol clywed mwy gan y Gweinidog, ac mewn mwy o fanylder, beth yw prif ganlyniadau'r prosiect, ac os, neu sut, y gellid cyflwyno'r atebion ar raddfa fwy i gyflawni canlyniadau mwy eang ar gyfer mwy o ffermydd yng Nghymru.
Cyfarfu'r Grŵp Cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Anifeiliaid a'r Amgylchedd fis Mawrth diwethaf, ac ar ôl adolygu'r drafodaeth, mae gennyf rai cwestiynau ynghylch ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru y credaf fod yn rhaid i'r Gweinidog ymateb iddynt. Roedd yn amlwg bod pryderon ynghylch effaith cynhyrchion fferyllol a charthion heb eu trin yn ein cyrsiau dŵr a'n hamgylchedd morol. Yn hyn o beth, rwy'n chwilfrydig i glywed pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith deunydd fferyllol a charthion heb eu trin yn ein cyrsiau dŵr ar ymwrthedd gwrthficrobaidd yng Nghymru, a sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ymdrin â'r mater.
Wrth gwrs, mae’n fater dyrys, ac mae angen dod at hyn o sawl cyfeiriad. Rhaid hyrwyddo arferion glendid da er mwyn atal heintiau rhag lledaenu, a hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotig. Y gorddefnydd a’r camddefnydd o gwrthfiotig sydd yn gyrru ymwrthedd gwrthficrobaidd. Rhaid, felly, sicrhau bod y defnydd o gwrthfiotig yn cael ei gyfyngu i'r adegau angenrheidiol yn unig, gan ei ddefnyddio yn unol â chyngor milfeddygol yn unig. Rhaid hefyd edrych ar hyrwyddo meddyginiaeth amgen, megis probiotegau, prebiotegau, a chwistrelliadau. Ond nid yw’r cyfrifoldeb yn gorwedd ar ysgwyddau ein ffermwyr yn unig. Mae’n angenrheidiol i'r Llywodraeth ddangos arweiniad.
Rhaid, felly, i'r Llywodraeth ddarparu cefnogaeth ac adnoddau er mwyn sicrhau bod gan ffermwyr y gallu i weithredu yn unol â'r arferion glendid a lles gorau posib er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol. Felly, dwi'n croesawu'r cyhoeddiad yma o £2.5 miliwn gan y Llywodraeth er mwyn parhau â'r ymdrech am ddwy flynedd arall. Ond tybed all y Gweinidog gadarnhau os mai pres newydd ydy hwn, yntau ai pres wedi'i arallgyfeirio oddi fewn i amlen gyllidol yr adran amaeth ydy o, ac a fedrith y Gweinidog ateb cwestiwn Sam ai pres o gyllideb RDP ydy o? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n arian newydd. Fel rwy'n dweud, bydd mwy o fanylion yn cael eu nodi, ac mae o'r rhaglen honno.
Rydych chi'n gofyn am yr asesiad o ran carthion. Ni fyddai hynny'n ddarn o waith y byddai fy adran i, yn amlwg, yn ei wneud, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, rwy'n gwybod, yn gwneud gwaith helaeth i fynd i'r afael ag AMR yng Nghymru. Fe soniais ein bod ni'n defnyddio 'un iechyd', oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych arno o fewn iechyd pobl a hefyd iechyd ein hanifeiliaid. Mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr iechyd cyhoeddus, ac mae swyddogion iechyd cyhoeddus mewn gwirionedd yn rhan o'n grŵp cyflawni AMR amgylchedd anifeiliaid, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydynt yn gweithio mewn seilos, a'u bod yn gweithio ar y cyd gyda'i gilydd.
Rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn am Arwain DGC, oherwydd, i mi, mae gwahanol feysydd o hynny. Er enghraifft, un o'r meysydd yw eu bod yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnydd cyfrifol o wrthfiotigau ac yn annog arferion gorau, ac mae hynny'n cynnwys gwaredu cyfrifol, felly mae'n debyg bod hynny'n berthnasol i raddau i'ch pwynt cyntaf hefyd. Mae yna faes sy'n canolbwyntio ar gasgli data defnydd. Beth hoffwn i ei gael mewn gwirionedd—. Cyfeiriodd Sam Kurtz at dros ostyngiad o 50 y cant yn y defnydd o wrthfiotigau ers 2014—mae hynny ar draws y DU. Alla i ddim darganfod beth yw'r gyfran yna yng Nghymru ar hyn o bryd, felly mae yna faes, fel rwy'n dweud, o'r prosiect sy'n canolbwyntio ar nodi hynny, oherwydd rwy'n credu y byddai'n dda iawn bod gennym ni'r wybodaeth benodol yna ar gyfer Cymru am y pwnc yna yn y dyfodol agos iawn.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud, wrth gwrs, weithiau, mai gwrthfiotigau yw'r unig driniaeth, a dyna pam mae'n rhaid i ni amddiffyn—. Ac rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn yn y fan yna ein bod ni'n gwybod bod y gwrthfiotigau hynny'n cael eu defnyddio yn y ffordd gywir yn sicr.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am y datganiad pwysig iawn hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn sylweddoli, oni bai ein bod ni'n newid ein ffyrdd, ein bod ni i gyd yn mynd i fod mewn perygl o farw o'r ymyrraeth symlaf, er enghraifft, pe baen ni'n cael haint, torri ein braich, neu rywbeth arall. Byddai'n mynd â meddygaeth yn ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn gwirionedd. Felly, go brin y gallai hyn fod yn bwysicach.
Fel y dywedwch chi, mae atal a rheoli heintiau yn gwbl hanfodol, ac roeddwn i eisiau edrych ar ble yr ydych chi eisiau targedu gostyngiad o'r defnyddiau sydd â'r risg uchaf. Yn amlwg, fe feddyliais ar unwaith am fywyd yr iâr—y miloedd hyn o ieir mewn siediau, ac a yw'r defnydd o wrthfiotigau yn arferol ar gyfer ceisio rheoli heintiau, oherwydd, fel gydag unrhyw rywogaeth, os ydych chi'n pacio pobl at ei gilydd mewn gofod bach, bydd haint gan un anifail neu fod dynol yn lledaenu'n gyflym i fannau eraill os nad yw'n cael ei awyru'n iawn. Felly, meddwl oeddwn i tybed a allwn ni wir fforddio parhau i fagu anifeiliaid yn yr amgylchedd llawn iawn hwn, lle maen nhw'n llawer rhy agos at ei gilydd, er mwyn, yn amlwg, bwydo brwdfrydedd cynhyrchwyr a defnyddwyr am gyw iâr rhad.
Diolch. Cyhoeddir gwybodaeth am ddefnyddiau penodol i sector yn flynyddol yn yr adroddiad gwyliadwriaeth milfeddygol AMR a gwerthiant, ac os edrychwch chi arno, fe welwch chi, rwy'n credu, mai'r sectorau dofednod a moch yw'r ddau sector sydd â'r defnydd uchaf o wrthfiotigau ar hyn o bryd. Ond dydw i ddim yn credu ei bod yn ddefnyddiol gweld y mater o'r safbwynt hwnnw'n unig; rwy'n credu ei bod yn bwysig bod ag agwedd gyfannol at y problemau, y cyfeiriais i ato, gan flaenoriaethu pryderon pan fyddan nhw'n digwydd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio nad ydym ni'n cyfyngu'r defnydd o wrthfiotigau; yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud yw sicrhau ein bod yn eu defnyddio pan fydd gwir angen. Ond rwy'n credu, fel rwy'n dweud, y gallwch chi weld bod y sector dofednod—bod y data hwnnw ar gael yn sicr. Felly, gallai fod hynny'n faes y bydd angen inni edrych ymhellach arno os yw hynny yn wir.
Diolch i'r Gweinidog.