Dyled

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:30, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Yn y ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan, 'A snapshot of poverty in winter 2023', canfuwyd bod dyled yn broblem sylweddol. Roedd mwy na chwarter y bobl a holwyd wedi benthyca arian rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, gydag 13 y cant mewn ôl-ddyledion ar o leiaf un bil. Yn ychwanegol at hynny, roedd mwy nag un o bob 10 hefyd yn poeni am golli eu cartref dros y tri mis nesaf, gyda deiliaid morgeisi yn dod yn fwyfwy pryderus. Gŵyr pob un ohonom pwy sydd ar fai am hyn i raddau helaeth. Mae hyd yn oed y Torïaid yn y Siambr hon yn gwybod hyn yn y bôn, ond y cwestiwn yw: beth a wnawn yn ei gylch?

Hoffwn wybod pa ddatblygiadau a wnaed yn yr ymgyrch i atal cwmnïau ynni rhag gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol mewn aelwydydd. Mae'n warthus fod teuluoedd yn cael eu gorfodi i mewn i dlodi tanwydd ar adeg pan fo cwmnïau nwy a thrydan yn gwneud elw mwy nag erioed. A hoffwn wybod hefyd pa ddeialog a gafwyd a pha gynnydd a wnaed ar y cyd â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi i fynd i'r afael â'r cwmnïau casglu dyledion ofnadwy hyn ers imi godi'r mater fis diwethaf. Diolch.