1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2023.
1. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i helpu teuluoedd yn Nwyrain De Cymru sydd wedi mynd i ddyled? OQ59162
Diolch yn fawr. Dydd Gŵyl Dewi hapus i chi i gyd y prynhawn yma.
Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon, defnyddiodd 16,553 o bobl wasanaethau ein cronfa gynghori sengl yn Nwyrain De Cymru, a chawsant gymorth i ddileu cyfanswm o £1.1 miliwn o ddyledion ac i hawlio incwm ychwanegol o £8.1 miliwn.
Diolch am yr ateb yna, Weinidog.
Yn y ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan, 'A snapshot of poverty in winter 2023', canfuwyd bod dyled yn broblem sylweddol. Roedd mwy na chwarter y bobl a holwyd wedi benthyca arian rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, gydag 13 y cant mewn ôl-ddyledion ar o leiaf un bil. Yn ychwanegol at hynny, roedd mwy nag un o bob 10 hefyd yn poeni am golli eu cartref dros y tri mis nesaf, gyda deiliaid morgeisi yn dod yn fwyfwy pryderus. Gŵyr pob un ohonom pwy sydd ar fai am hyn i raddau helaeth. Mae hyd yn oed y Torïaid yn y Siambr hon yn gwybod hyn yn y bôn, ond y cwestiwn yw: beth a wnawn yn ei gylch?
Hoffwn wybod pa ddatblygiadau a wnaed yn yr ymgyrch i atal cwmnïau ynni rhag gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol mewn aelwydydd. Mae'n warthus fod teuluoedd yn cael eu gorfodi i mewn i dlodi tanwydd ar adeg pan fo cwmnïau nwy a thrydan yn gwneud elw mwy nag erioed. A hoffwn wybod hefyd pa ddeialog a gafwyd a pha gynnydd a wnaed ar y cyd â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi i fynd i'r afael â'r cwmnïau casglu dyledion ofnadwy hyn ers imi godi'r mater fis diwethaf. Diolch.
Diolch yn fawr. Ni allwn fychanu'r heriau ariannol y mae cymaint o aelwydydd ledled Cymru yn eu hwynebu. Yn wir, mae'r ffigurau heddiw yn amcangyfrif yn y miliynau—2.5 miliwn arall yn mynd i mewn i dlodi tanwydd. Yr hyn rydym yn ei wneud yw targedu cymorth ariannol at aelwydydd er mwyn rhoi cymorth iddynt wneud y mwyaf o'u hincwm ac osgoi mynd i ddyled. Ond yn amlwg, mae rhai materion sy'n rhan o gyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ac rwy'n arbennig o bryderus am yr effaith ar yr aelwydydd mwyaf agored i niwed, sef y rhai, fel y dywedwch, sy'n aml ar fesuryddion rhagdalu.
Credaf mai dyma ble mae'r gwaith y buom yn ei wneud ddoe—. A dweud y gwir, cyfarfûm â swyddogion Ofgem a chyfarfûm â bwrdd Ofgem ychydig wythnosau yn ôl, a phwysais ar Ofgem i ystyried yr aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru wrth ddefnyddio eu pwerau rheoleiddio i adolygu arferion cyflenwyr ynni. Dywedais hefyd, o ran—. Gofynnais gwestiynau iddynt ynglŷn â'u hadolygiad o Nwy Prydain. Gofynnais iddynt am eu hadolygiadau o gyflenwyr ynni eraill. Dywedais hefyd, er eu bod yn gwahardd gosod mesuryddion rhagdalu tan ddiwedd mis Mawrth, y dylid ymestyn y cyfnod hwnnw. Galwais am iddo gael ei ymestyn, gan eu bod yn cynnal rhai adolygiadau o gyflenwyr eraill, yn ôl yr hyn a ddeallaf. A galwais am y tariff cymdeithasol.
A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o fod wedi cyfarfod â’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, ac wedi codi hyn gydag Ofgem ac wedi awgrymu—ac rwy’n dweud hyn yn glir wrth Ofgem a Llywodraeth y DU—y dylai casglwyr dyledion a gyflogir gan gyflenwyr ynni fod wedi'u hachredu gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi?
Hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i chi a fy holl gyd-Aelodau yma yn y Siambr a thu hwnt. Weinidog, gwn eich bod wedi clywed y llinell hon gan lawer o fy nghyd-Aelodau dros amser a thros y blynyddoedd mwy na thebyg, ond nid yw'n gyfrinach fod Llafur, yn anffodus, wedi bod yn dinistrio ein GIG, gyda bron i 600,000 o gleifion ar restrau aros. Mae gennym hefyd fwy na 45,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth. Ni all llawer o'r rheini ar restrau aros fyw gyda'r boen mwyach, ac maent yn troi at ofal iechyd preifat. Mae cryn dipyn o fy etholwyr yn ne-ddwyrain Cymru mewn sefyllfaoedd ariannol eithriadol o anodd gan nad oes ganddynt ddewis ond mynd yn breifat. Bu’n rhaid i un etholwr dalu’n breifat am laparosgopi am fod eu hiechyd meddwl yn dioddef i'r fath raddau o ganlyniad i’r boen roeddent yn ei dioddef bob dydd. Mae'r claf wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'Rwy'n ffodus fy mod wedi gallu gwneud hyn, er ei fod yn golygu fy mod mewn dyled o £4,000.' Cafodd unigolyn arall o dde-ddwyrain Cymru fenthyciad personol ar gyfer llawdriniaeth breifat, ac yna darganfuwyd bod ganddi endometriosis cam 4. Yn anffodus, ni allai fforddio unrhyw driniaeth bellach, ac mae'n dal i dalu ei benthyciad yn ôl. Felly, Weinidog, fy nghwestiwn yw: beth a ddywedwch wrth y cleifion sy'n mynd i ddyled a thrafferthion ariannol o ganlyniad uniongyrchol i fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG? Diolch.
Wel, credaf fod hwn yn gwestiwn rhyfeddol, mae'n rhaid imi ddweud, Natasha—cwestiwn rhyfeddol—pan fo gennym wasanaeth iechyd gwladol rydym yn falch ohono, a anwyd yng Nghymru, sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, ac sy'n darparu gofal a thriniaeth i filoedd o bobl ledled Cymru bob dydd, gan gynnwys eich etholwyr chi. Ydw, rwy’n pryderu am bobl sy’n mynd i ddyled, ac yn mynd i ddyled oherwydd polisïau Llywodraeth y DU, byddai’n rhaid imi ddweud. Ac a wnewch chi ymuno â mi, Natasha Asghar, a’ch cyd-Aelodau yma, i alw ar Lywodraeth y DU i beidio â chynyddu’r warant pris ynni o £2,500 i £3,000 ym mis Ebrill ac i sicrhau bod deiliaid tai sy’n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu datgysylltu, fel sy’n digwydd yn y diwydiant dŵr? Mae hyn yn rhywbeth y gall eich Llywodraeth ei wneud, ac yna, wrth gwrs, byddai'n helpu pobl sy'n mynd i ddyled am ba reswm bynnag.