Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch, Lywydd. Credaf mai un o beryglon y drafodaeth hon—y pwnc—yw ein bod yn ymostwng i faterion a sgorio pwyntiau pleidiol wleidyddol. Pe bai Llywodraeth Lafur yn y DU yn y dyfodol yn mynd i ddeddfu ar hyn a diwygio cydnabod rhywedd, credaf y byddwn yn fwy na pharod i weithio ar y cyd â hynny i sicrhau ein bod yn cefnogi’r gymuned draws yma yng Nghymru a ledled y DU. A chredaf fod gan bob un ohonom heriau yn ein pleidiau ein hunain, boed hynny yn rhywle arall neu yn yr Alban ar hyn o bryd yn ystod gornest arweinyddiaeth yr SNP hefyd.