Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch, Weinidog. Mynychais y digwyddiad rhagorol, a gynhaliwyd gan y Llywydd, a oedd yn dathlu sut mae pobl sy’n ffoi rhag erledigaeth wedi cael noddfa yng Nghymru. Ond ni allwn wadu bod rhai cymunedau’n cael mwy o groeso nag eraill, ac nid yw’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn teimlo bod croeso iddynt; maent yn teimlo eu bod yn cael eu herlid. Ac mae’n siomedig fod awdurdodau lleol yn mynd ati'n rhagweithiol i gynnig safleoedd newydd i gartrefi modur a cherbydau gwersylla barcio, ond nid ydynt yn cynhyrchu unrhyw gynigion i greu safleoedd newydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, nac yn wir i uwchraddio’r rhai presennol.
Felly, Weinidog, diolch yn fawr iawn am y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych yn gynharach y prynhawn yma, lle rydych yn sôn am weithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau Sipsiwn a Theithwyr i nodi'r gofynion ac i ddeall y rhwystrau sy’n dal i atal cynnydd. Hoffwn gwestiynu pam nad yw’r gwaith hwn wedi mynd rhagddo cyn hyn. Ond hoffwn amserlen hefyd ar gyfer cwblhau'r trafodaethau hynny, a'r trafodaethau manwl y mae angen eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â ble rydym yn mynd i wneud cynnydd nawr ar ddarparu’r safleoedd y mae eu hangen mor daer, yn enwedig yn wyneb Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022, sy’n troseddoli pobl am stopio ar safleoedd anawdurdodedig.